Chris Bartley (llun o'i gyfrif Twitter)
Ddoe, cafwyd cyflwyniad i’r pêl-droedwyr fydd yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd. Heddiw, y rhwyfwyr sy’n cael sylw Golwg360.
Chris Bartley
Camp: rhwyfo (heb lywiwr) – sgwlio pwysau ysgafn i bedwarawdau
Oedran: 28 (2 Chwefror 1984)
Taldra : 178cm
Pwysau: 11st
Man geni: Wrecsam
Twitter: @Chris_BartleyGB
Gyrfa:
– Dechreuodd rwyfo yn King’s School yng Nghaer yn 14 oed
– Enillodd fedal arian ym Mhencampwriaethau Rhwyfo’r Byd Dan23 yn Amsterdam yn 2005, gyda’r pedwarawd pwysau ysgafn
– Enillodd fedal aur ym Mhencampwriaethau Rhwyfo’r Byd Dan23 yn Hazewinkel yn 2006 yn y gystadleuaeth i barau pwysau ysgafn (gyda Richard Chambers)
– Enillodd fedal efydd ym Mhencampwriaethau Rhwyfo’r Byd ym Munich ym 2007 – sgwlio pwysau ysgafn i bedwarawdau (gyda Simon Jones , Rob Williams, Dave Currie)
– Enillodd fedal aur ym Mhencampwriaethau Rhwyfo’r Byd yn Lake Karapiro yn 2010 – pedwarawd pwysau ysgafn (gyda Richard Chambers, Paul Mattick and Rob Williams)
– Medal efydd – Cwpan y Byd 2011 ym Munich – pedwarawd pwysau ysgafn y dynion (gyda Richard Chambers, Paul Mattick and Rob Williams).
Ffaith ddibwys:
– Cafodd Chris ei radd yn 2006 ym Mhrifysgol Nottingham mewn Ffotograffiaeth Fiolegol. Mae e’n gweithio fel ffotograffydd ar ei liwt ei hun.
Ras gyntaf: Bydd Bartley yn cystadlu gyntaf am 11:00 fore Sadwrn 28 Gorffennaf.
Gobeithion: Yn ôl cwmni betio Paddy Power, Croatia yw’r ffefrynnau yn y gystadleuaeth, gyda Phrydain a Gogledd Iwerddon yn 12/1 i ennill, felly mae gobaith am fedal efydd i Bartley.
Victoria Thornley (llun o wefan Team GB)
Victoria Thornley
Camp: rhwyfo – wythawd y merched
Oedran: 24 (30 Tachwedd 1987)
Taldra : 193 cm
Pwysau: 76 kg
Man geni: Llanelwy
Twitter: @VickyThornleyGB
Gyrfa:
– Ymunodd â Rhaglen ‘Start’ Tîm Rhwyfo Prydain Fawr yn 2007
– Enillodd aur yn wythawd y merched ym Mhencampwriaethau Dan23 y Byd yn Racice (aur cyntaf erioed Prydain Fawr yn y dosbarth hwn) yn 2009
– Roedd yn 4ydd ym Mhencampwriaethau Rhwyfo’r Byd yn ar Lyn Karapiro yn Seland Newydd – yn wythawd y merched yn 2012
– Enillodd fedalau aur (Bled), arian (Munich) ac efydd (Lucerne) yng Nghyfres Cwpan y Byd 2011 gydag wythawd y merched.
Ffaith ddibwys:
– Roedd Vicky’n arfer bod yn neidiwr ceffylau lled-broffesiynol a gwnaeth rywfaint o fodelu cyn iddi ymuno â’r rhaglen.
Ras gyntaf: Mae ras gyntaf Vicky a’r wythawd am 11:50 fore Sul 29 Gorffennaf.
Gobeithion: Cyfle am fedal o ryw fath, gyda Bet365 yn gosod pris o 20/1 i dîm Prydain a Gogledd Iwerddon ennill. UDA a Chanada yw’r ffefrynnau ar hyn o bryd.
Tom James (llun o Wikipedia)
Tom James, MBE
Camp: Rhwyfo – Pedwarawd heb Lywiwr
Oedran: 29 (11 Mawrth 1984)
Man geni: Caerdydd
Taldra: 193cm
Pwysau: 93kg
Twitter: @TomJames2012
Gyrfa:
– 2001 – Pencampwriaethau Rhwyfo Iau’r Byd, medal efydd yn ras yr wythawd â llywiwr
– 2002 – Pencampwriaethau Rhwyfo Iau’r Byd, medal arian gyda’r pedwarawd heb lywiwr
– 2003 – Pencampwriaethau Rhwyfo’r Byd, medal efydd yn yr wythawd â llywiwr
– 2006 – Cwpan y Byd, Lucerne, medal aur yn y parau pwysau
– 2007 – Pencampwriaethau Rhwyfo’r Byd, medal efydd yn yr wythawd â llywiwr; Cwpan y Byd, Munich, medal arian yn yr wythawd â llywiwr
– 2008 – Cwpan y Byd, Poznan, Gwlad Pwyl, medal arian yn y pedwarawd heb lywiwr; 2008 – Gemau Olympaidd, medal aur mewn pedwarawd â llywiwr
– 2011 – Pencampwriaethau Rhwyfo’r Byd, medal aur yn y pedwarawd heb lywiwr; Cwpan y Byd, Beograd, medal aur mewn pedwarawd heb lywiwr
Ffaith ddibwys:
– Roedd James yn rhedwr reit addawol, ond dechreuodd rwyfo ar ôl iddo gael anaf i’w ben-glin
Ras gyntaf: Bydd James yn rhwyfo gyntaf am 10:40 fore Llun 30 Gorffennaf.
Gobeithion: Mae tipyn o bwysau ar y tîm a James yn dilyn y fedal aur bedair blynedd nôl, a hwy yw’r ffefrynnau yn ôl y bwcis gyda SkyBet yn gosod pris 7/4. Awstralia fydd y bygythiad mawr.
Casglwyd y wybodaeth gan – Marta Klonowska, Asia Rybelska a Kinga Uszko