Bydd 1,200 o filwyr ychwanegol ar gael i ddiogelu y Gemau Olympaidd yn dilyn mwy o bryderon ynglŷn â phrinder staff.
Fe benderfynodd weinidogion ym Mhwyllgor y Cabinet y bore ma y dylid darparu mwy o filwyr i warchod y Gemau. Roedd y Prif Weinidog, David Cameron, yn gadeirydd.
Cafodd y 1,200 o filwyr ychwanegol eu rhoi wrth gefn yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jeremy Hunt, fod nifer y gweithwyr diogelwch sy’n cael eu darparu gan y G4S yn “parhau i gynyddu’n sylweddol” er dyw gweinidogion “ddim am adael dim i siawns”.
“Ar drothwy un o’r digwyddiadau heddychlon mwyaf erioed i gael ei gynnal yn y wlad yma…mae gan y Llywodraeth bob ffydd y byddwn yn cynnal Gemau saff a diogel,” ychwanegodd Jeremy Hunt.
Cadarnhaodd Heddlu De Cymru y bydd mwy o swyddogion nag oedd i fod yn wreiddiol yn mynd i Lundain dros gyfnod y Gemau, er mai yng Nghaerdydd y bydd y digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal.
Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn anfon 179 o swyddogion i Lundain, Heddlu Gwent yn anfon 207, a Heddlu Dyfed-powys yn anfon 132.