Fe fydd clychau yn canu ym mhob un o seneddau y Deyrnas Unedig er mwyn nodi dechrau’r Gemau Olympaidd ddydd Gwener.

Bydd clychau yn cael eu canu yn Senedd Cymru, San Steffan, Holyrood a Stormont am 8.12am ar ddydd Gwener, 27 Gorffennaf.

Fe fydd Big Ben yn canu yn ddi-dor am dri munud rhwng 8.12am a 8.15am er mwyn nodi diwrnod cyntaf swyddogol y gemau.

Dyna fydd y tro cyntaf i Big Ben ganu y tu allan i’w amser arferol ers 15 Chwefror 1952, pan ganodd o gloch bob munud o 9.30am er mwyn nodi angladd y Brenin George VI.

Dywedodd Mike McCann, Ceidwad y Cloc, y bydd angen canu’r gloch â llaw ac atal y mecanwaith sy’n gyrru’r cloc fel arfer.

Mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd gweddill y wlad yn ymuno gan ganu eu clychau eu hunain, mor uchel a phosib, am dri munud.

Y gobaith yw torri record byd am nifer y clychau yn cael eu canu yr un pryd, gan gynnwys pobol yn canu clychau beiciau a clychau drysau tai.