Stadiwm Liberty
Bydd gan sêr pêl-droed Abertawe gyfleusterau ymarfer newydd cyn bo hir, yn dilyn cytundeb a gyhoeddwyd rhwng y Brifysgol a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn Stadiwm Liberty heddiw.

Yn rhan o’r cytundeb, bydd caeau chwarae Fairwood, sy’n eiddo i’r Brifysgol, yn cael eu defnyddio gan Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe a’u trawsnewid i fod yn safle hyfforddi modern ar gyfer sesiynau hyfforddi a gemau cystadleuol y Brifysgol.

Bydd y safle hyfforddi gorffenedig yn cynnwys:

·       8 cau maint llawn, gan gynnwys 2 gau bob tywydd

·       Cau hyfforddi arbennig ar gyfer Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn ogystal â chyfleusterau newid newydd sbon

·       Adeiladau ychwanegol gan gynnwys cyfleusterau newid, swyddfeydd, ystafelloedd seminar ac ystafelloedd meddygol a ffisiotherapi

Y gobaith yw y bydd y caeau cyntaf yn barod yn yr hydref a bydd gweddill y safle yn cael ei adeiladu o fewn y deunaw mis nesaf.

Dywedodd Huw Jenkins, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, ‘‘Rydym yn falch iawn o gydweithio gyda Phrifysgol Abertawe ar y cynllun cyffrous hwn.

“Ein nod fel clwb yw datblygu cyfleusterau hyfforddi o’r radd flaenaf yn ogystal â datblygu perthynas weithio dda gyda phobl a sefydliadau lleol.”

‘Anrhydedd’

Croesawodd Dirprwy Is Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Noel Thompson:, y penderfyniad.

“Rwy’n gobeithio y bydd y cytundeb yma’n arwain at nifer o gyfleoedd i’r Brifysgol a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe gydweithio, yn enwedig o gofio’r arbenigedd sydd gennym ym maes gwyddor chwaraeon,’’ meddai.

Ychwanegodd Is Ganghellor Prifysgol Abertawe, Richard B Davies, “Rydym yn dymuno darparu ein myfyrwyr â chyfleoedd arbennig ym maes chwaraeon a chyfleusterau o’r unfed ganrif ar hugain.

“Mae’r cytundeb heddiw yn gam mawr ymlaen i’n cynorthwyo i gyflawni hyn ac mae’n bleser ac yn anrhydedd cael cydweithio gyda Chlwb Pêl-droed sydd wedi sicrhau sylw rhyngwladol i Abertawe yn sgil ei llwyddiant diweddar.’’