Mae nifer yng Nghymru’n cefnogi’r ymgyrch i sicrhau lle i bêl-rwyd yn y Gemau Olympaidd yn y dyfodol.

Mae’r IOC (y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol) wedi cydnabod y Ffederasiwn Bêl-rwyd Ryngwladol ers 1995, ac er bod y gêm yn cael ei chwarae ledled y byd, mae’r frwydr i gael y gamp yn y Gemau Olympaidd yn parhau.

Mae dros ugain miliwn o bobol yn chwarae pêl-rwyd mewn 117 o wledydd, ond mae’r gymuned bêl-rwyd yn teimlo bod ei habsenoldeb o’r Gemau Olympaidd yn rhwystr i dwf byd-eang y gamp, yn ogystal â’i hamddifadu o gyllid a sylw’r cyfryngau o gymharu â chwaraeon eraill.

Pam nad yw’r gamp yn y Gemau Olympaidd?

Mae pêl-rwyd wedi bod yn rhan o Gemau’r Gymanwlad, oedd wedi’u sefydlu yn 1930, felly pam nad ydy pêl-rwyd yn rhan o’r Gemau Olympaidd, oedd wedi cychwyn yn 1896?

Un o’r rhwystrau mwyaf sy’n wynebu’r gamp yw’r ymdrech bresennol i’r Gemau Olympaidd gael cydbwysedd rhwng y rhywiau.

Wrth i bêl-rwyd ymysg menywod ffynnu, y ddadl ydy nad yw’r gamp mor boblogaidd ymhlith dynion.

Cafodd pêl-rwyd ei hystyried, ynghyd ag unarddeg o gampau eraill, ar gyfer Gemau Olympaidd 2020 a 2024 ond cafodd ei gwrthod yn y pen draw.

Cafodd absenoldeb pwerdai byd-eang fel Tsieina a Rwsia a phresenoldeb prin y gamp yn Japan eu nodi fel rhesymau dros beidio’i chynnwys.

Fodd bynnag, gallai hyn oll newid wrth i bobol droi at y cyfryngau mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch i gynnwys pêl-rwyd yn y Gemau Olympaidd.

Ymgyrch #WhyNoNetball?

Fis Mehefin eleni, sefydlodd Netball UK ymgyrch a deiseb ‘#WhyNoNetball?’ er mwyn ceisio cynnwys pêl-rwyd yn y Gemau Olympaidd.

Fe wnaeth yr hashnod drendio ar Instagram, Facebook ac X (Twitter gynt), gyda phobol yn rhannu eu barn a’u profiadau.

Ar ôl gweld y campau newydd oedd yn y Gemau Olympaidd eleni, gan gynnwys breg-ddawnsio – sydd wedi’i dileu eto ar gyfer Gemau 2028 – mae rhagor o bobol yn dechrau gofyn #WhyNoNetball?

Bellach, mae dros 17,000 o bobol wedi llofnodi deiseb er mwyn cynnwys pêl-rwyd yn y Gemau Olympaidd nesaf yn Los Angeles.

Mae ymchwil yn dangos bod 73% o fenywod a dynion yn credu y dylid ei chynnwys yn y Gemau Olympaidd, ac mae nifer yng Nghymru’n cytuno.

Dywed Ffion Taylor, sy’n chwarae i dîm Ystrad Mynach, ei bod hi “mor siomedig i beidio cael y gêm dw i, a llawer iawn o bobol, yn ei charu yn y Gemau Olympaidd”.

Ychwanega y byddai cael y gamp yn y Gemau Olympaidd yn dangos i bawb pa mor wych yw pêl-rwyd, gan helpu’r gamp i ffynnu ymhellach.

Mae World Netball wedi gweithio’n galed i ennill cydnabyddiaeth gan yr IOC a’i statws fel camp fyd-eang.

Fel yr eglura Catherine Lewis, cadeirydd Pêl-rwyd Ewrop, mae World Netball yn cydweithio’n galed â Phêl-rwyd Awstralia i gynnwys y gamp yn y Gemau Olympaidd yn Brisbane yn 2032.

“Mae Pêl-rwyd Ewrop a’i aelodau i gyd yn cefnogi’r holl ymdrechion i ddod â’r gamp i gynulleidfa fyd-eang ehangach,” meddai wrth golwg360.

Gydag Awstralia’n gadarnle pêl-rwyd, efallai y bydd gwell siawns o sicrhau y bydd y gamp yn rhan o raglen y Gemau Olympaidd ymhen wyth mlynedd.