Mae Clwb Pêl-droed Luton wedi cyhoeddi bod y Cymro Tom Lockyer wedi dychwelyd i’r cae ymarfer.
Cafodd y chwaraewr amddiffynnol ataliad ar y galon ddwywaith yn ystod gemau y tymor diwethaf.
Yn ôl y clwb, mae e wedi dychwelyd i’r cae ymarfer “er mwyn cwblhau cam nesaf ei adferiad”, ar ôl bod o dan ofal arbenigwyr meddygol yn Llundain ac Amsterdam.
Dywed y clwb fod ei bresenoldeb yn y garfan “i’w groesawu gan ei gyd-chwaraewyr, y rheolwr Rob Edwards a’r staff hyfforddi”.
Bydd yn parhau i gydweithio â Sefydliad Prydeinig y Galon i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd deall CPR a sut i ddefnyddio diffibriliwr.
Mae’r clwb wedi gofyn am breifatrwydd iddo wrth iddo barhau i adfer “yn y gobaith o roi’r cyfle gorau iddo fe gwblhau camau nesaf ei raglen adfer”.