Mae tîm criced Morgannwg yn llygadu lle yn rownd gyn-derfynol Cwpan Undydd Metro Bank wrth iddyn nhw groesawu Swydd Efrog i Gaerdydd heddiw (dydd Mercher, Awst 14).

Ar drothwy’r gêm olaf hon, maen nhw eisoes wedi sicrhau eu lle yn rowndiau ola’r gystadleuaeth 50 pelawd.

Tra bod angen i’r Saeson ennill os ydyn nhw am fod â gobaith o gymhwyso, mae Morgannwg ar y brig ac yn anelu am gêm gyn-derfynol ar eu tomen eu hunain ddydd Sul (Awst 18) pe barn nhw’n ennill.

Hyd yn oed pe baen nhw’n colli, gallen nhw sicrhau gêm gartref pe bai Swydd Warwick a Swydd Gaerlŷr yn colli.

Pe bai Morgannwg yn ail yn y tabl, byddan nhw’n chwarae mewn gêm ail gyfle gartref ddydd Gwener (Awst 16).

Timau

Mae’r troellwr amryddawn Ben Kellaway wedi gwella o anaf oedd wedi ei gadw fe allan o’r ddwy gêm ddiwethaf.

Ond mae Eddie Byrom, Zain ul Hassan, James Harris a Chris Cooke i gyd allan ag anafiadau o hyd.

Dywed y prif hyfforddwr Grant Bradburn fod y garfan yn edrych ymlaen at “gyfle mawr” drwy gadw at “gynllun syml”.

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, D Douthwaite, A Gorvin, A Horton, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Efrog: F Bean, H Duke, J Tattersall, J Wharton, W Luxton, G Hill, M Revis, D Bess, B Coad, D Moriarty, B Cliff, D Leech, N Kelly, Y Vagadia

Sgorfwrdd