Mae tîm criced Morgannwg wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan Undydd Metro Bank, y gystadleuaeth 50 pelawd, ar ôl curo Swydd Efrog o 62 rhediad yn eu gêm grŵp olaf yng Nghaerdydd.
Tarodd Billy Root 66 i achub y sir Gymreig, ar ôl iddyn nhw fod yn 103 am bump ar un adeg, cyn llwyddo i gyrraedd 230 am naw.
Ond perfformiad y bowlwyr sicrhaodd y fuddugoliaeth, gydag Andy Gorvin yn cipio pedair wiced, Ben Kellaway yn cipio tair wiced, a Timm van der Gugten yn cipio dwy.
Cafodd Swydd Efrog eu bowlio allan â phum pelawd yn weddill, gyda 51 gan Jonny Tattersall yn ofer.
Bydd y sir Gymreig nawr yn chwarae yn y rownd gyn-derfynol yng Nghaerdydd ddydd Sul (Awst 18), ond bydd rhaid iddyn nhw aros ychydig yn hirach i gael gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr, gyda’r gemau ail gyfle’n cael eu cynnal ddydd Gwener (Awst 16).
Ond byddan nhw’n herio enillwyr y gêm rhwng Swydd Gaerwrangon a Swydd Warwick.
Batiad Morgannwg
Yn sgil cae gwlyb, doedd dim modd dechrau’r gêm yn brydlon ac erbyn i’r chwaraewyr lwyddo i ddechrau’r gêm, roedd hi wedi’i chwtogi i 47 pelawd yr un.
Ar ôl cael eu gwahodd i fatio, dechrau digon sigledig i’r batiad gafodd Morgannwg, wrth iddyn nhw golli tair wiced yn yr wyth pelawd cyntaf.
Erbyn iddyn nhw golli’r pâr agoriadol di-brofiad Will Smale ac Asa Tribe, ynghyd â’r batiwr profiadol Sam Northeast, roedden nhw’n 40 am dair, gyda phob un o’r wicedi’n eiddo’r bowliwr cyflym Ben Cliff.
Fe wnaeth hynny bethau’n anodd i’r sir Gymreig.
Aeth pethau’n waeth cyn iddyn nhw wella, ar ôl iddyn nhw golli Colin Ingram yn fuan ar ôl i’r cyfnod clatsio ddod i ben.
Aethon nhw o 84 am bedair i 165 am wyth, cyn i Timm van der Gugten (34 heb fod allan) a Billy Root (66) orfod achub y batiad gyda phartneriaeth o 56 am y nawfed wiced, wrth gyrraedd 221 am naw.
Gorffennodd Cliff gyda thair wiced am 37 mewn saith pelawd, a chipiodd Dan Moriarty dair wiced hefyd am 47 oddi ar ei ddeg pelawd.
Batiad Swydd Efrog
Doedd hi ddim yn ymddangos y byddai nod o 231 yn ormod o her i’r ymwelwyr, ond byddai ceisio trechu cyfradd fatio Swydd Gaerloyw yn eu grŵp yn golygu cwrso’r nod o fewn 23 pelawd os oedden nhw am fod â gobaith o gymhwyso.
Dechreuodd eu batiad yn y modd gwaethaf posib, serch hynny, wrth i belen gynta’r batiad gan Timm van der Gugten daro coes Harry Duke o flaen y wiced.
Roedd y wiced yn fan cychwyn ar gyfer bowlio cywir Morgannwg yn y pelawdau agoriadol ar lain oedd yn cynnig cryn dipyn o gymorth iddyn nhw, ac fe gawson nhw eu haeddiant gyda thair wiced gynnar.
Bu bron i Will Luxton gael ei ddal yn gampus gan Asa Tribe yn y cyfar ar ddiwedd y bedwaredd pelawd, ond wnaeth y maeswr ddim llwyddo i ddal ei afael ar y bêl ag un llaw wrth ymestyn ei fraich yn isel i’r llawr.
Ond roedd y Saeson yn unarddeg am ddwy o fewn chwe phelawd ar ôl i Noah Kelly gael ei fowlio gan Jamie McIlroy, ac yn unarddeg am dair pan gafodd Luxton ei fowlio gan van der Gugten yn y belawd ganlynol.
Gallen nhw fod wedi cael pedwaredd yn yr unfed belawd ar ddeg wrth i Ben Kellaway ymestyn ymhell i’r ochr i geisio dal Jonny Tattersall, ond roedd y bêl yn rhy bell o’i gorff i’w dal hi’n gyfforddus.
Ar ôl dechrau bowlio â’i llaw dde, fe wnaeth y troellwr Ben Kellaway droi at ei llaw chwith a chipio wiced ar unwaith, wrth i Asa Tribe ddal Yash Vagadia yn y cyfar.
Erbyn hynny roedd y Saeson yn 57 am bedair o fewn un belawd ar bymtheg, a byddai eu hadferiad yn nwylo Jonny Tattersall, oedd wedi cyrraedd ei hanner canred oddi ar 66 o belenni, a’i bartner Matthew Revis.
Ond yn fuan ar ôl i Tattersall gyrraedd y garreg filltir, cipiodd Andy Gorvin ddwy wiced mewn tair pelen.
Cafodd Revis ei ddal gan y wicedwr Will Smale am 28, a tharodd y bowliwr goes Tattersall o flaen y wiced am 51, gyda’r ymwelwyr bellach yn 117 am chwech.
Roedden nhw’n 127 am saith erbyn diwedd y degfed pelawd ar hugain, wrth i George Hill gael ei fowlio gan Gorvin, wrth i hwnnw gipio’i drydedd wiced.
Dychwelodd Kellaway i’r ymosod a chipio’i ail wiced, gyda’i law dde y tro hwn, wrth i Dom Bess sgubo at Douthwaite i adael y Saeson yn 152 am wyth.
Roedden nhw’n 162 am naw pan dynnodd Dom Leech at Billy Root ar y ffin, wrth i Kellaway gipio’i drydedd wiced – ei ail gyda’i law dde.
Tarodd Ben Cliff y bêl yn uchel i’r awyr i roi daliad syml i’r capten Kiran Carlson, wrth i bedwaredd wiced Gorvin ddirwyn yr ornest i ben.
- Diweddariad: Bydd Morgannwg yn herio Swydd Warwick yng Nghaerdydd ddydd Sul (Awst 18)