Tra roedd pawb yn canmol llwyddiant yr Olympics yn Paris, rown i’n teimlo ychydig fel Bill Murray yn y ffilm yna, Groundhog Day. Achos, o fewn dyddiau i’r seremoni gau, dyma Gymdeithas Olympaidd Prydain yn galw unwaith eto am greu ‘Team GB’ pêl-droed unedig i ddynion ar gyfer Gemau Los Angeles yn 2028. Co ni off ‘to!
Y tro diwethaf i hyn ddigwydd oedd ar gyfer gemau Llundain yn 2012. Bryd hynny, dywedwyd mai dim ond ar gyfer y Gemau Prydeinig y byddai’r tîm yn cael ei ffurfio. Gan mai yn Llundain gynhaliwyd y gemau, mi wnaeth ‘Team GB’ gymryd rhan heb orfod chwarae neb arall i gyrraedd yno. One-off oedd e, felly.
Ond nawr, dyma Andy Anson, Prif Weithredwr Olympics Prydain, yn datgan y byddai uno cymdeithasau pêl-droed Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn un ‘Team GB’ ar gyfer 2028 yn “wych i’r gêm”.
Pam lai, meddech chi? Wel, ers dros ganrif, mae’r cenhedloedd hyn yn i gyd yn chwarae pêl-droed fel gwledydd annibynnol. Mae gyda nhw eu hanes a’u diwylliannau pêl-droed eu hunain, ac mae yna berygl go iawn y gall ffurfio un tîm unedig beryglu statws y cymdeithasau hyn ac arwain at ddifodiant ein timau cenedlaethol.
Mae pêl-droed yn bwysig i ni fel cenedl. Cafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei sefydlu yn 1876, ac mae cefnogwyr o’r Rhyl i Rydypennau wedi, ac yn dal i ddilyn ein tîm cenedlaethol ar draws y byd. Dyw e ddim wastod wedi bod yn job hawdd! Sut oedd cyrraedd (a fforddio mynd i) Nanning ar gyfer Cwpan Tsieina? A sut wnes i argyhoeddi Mrs Jones, y brifathrawes, fod y mab yn dod gyda fi i Azerbaijan er mwyn gwylio Cymru? (Hyn, wrth gwrs, cyn y dirwyon am dynnu plant ma’s o’r ysgol yn ystod y tymor).
Does dim rhaid i chi deithio’r byd i deimlo’r balchder cenedlaethol mae’r gêm yn ei gynnig. Dathlodd cenedl gyfan pan aeth Cymru i’r Ewros yn Ffrainc yn 2016. Daeth Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen yn eilunod i filoedd o Gymry. Aeth y tîm i’r Ewros unwaith eto yn 2021, ac roedden ni ar ben y byd yn Qatar yn 2023. Cafodd enw Cymru ei roi ar y map rhyngwladol, cafodd ‘Yma o Hyd’ ei chanu, a mawr fu’r dathlu.
Dan un faner
Nid pawb sy’n hapus gyda hyn oll. O na! Mae nifer o wledydd yn gwarafun fod gan Brydain bedwar tîm cenedlaethol, gyda phob un yn cymryd rhan mewn cystadlaethau rhyngwladol. Mae gan Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, bob un, bleidlais ar UEFA, corff llywodraethu’r gêm yn Ewrop. Ac mae gyda ni bedair sêt ar FIFA.
Ond petai’r cenhedloedd hyn yn chwarae fel un tîm, yna byddai mwy o wledydd yn gallu cymryd rhan yn y pencampwriaethau mawr, yn enwedig y cenhedloedd llai ble mae’r gêm yn tyfu, mewn llefydd fel Affrica.
Dyma’r ddadl felly – os yw’n iawn i Brydain ffurfio un tîm ar gyfer y Gemau Olympaidd, yna pam ddim cael un tîm ar gyfer yr Ewros? Un tîm ar gyfer Cwpan y Byd? Os digwydd hynny, gallwn ddweud ffarwél i’r tripiau tramor, hwyl fawr i’r Wal Goch a’r Tartan Army, wrth i ni gyd gael ein traflyncu gan Three Lions Lloegr. O ddilyn y rhesymeg yma, pam fod gyda ni Uwch Gynghrair yng Nghymru ac un arall yn yr Alban? Un wlad, un tîm, meddech chi. Gall Rangers a Celtic, a TNS hyd yn oed, drio’u lwc yn yr Uwch Gynghrair go iawn. Yr un Seisnig, siŵr o fod.
Gallaf glywed Mr Anson o’r ‘Lympics a phenbandits yr FA yn Lloegr yn dweud fy mod i’n codi bwganod. O bosib fy mod i. Ond dyma ddywedodd Sepp Blatter, Llywydd FIFA yn 2008:
“Os dechreuwch chi godi tîm unedig ar gyfer y Gemau Olympaidd, mae’r cwestiwn yn codi’n awtomatig fod yna bedair cymdeithas wahanol, felly sut maen nhw’n gallu chwarae fel un tîm? Os mai dyna’r achos, yna pam yn y byd mae gyda nhw bedair cymdeithas a phedair pleidlais a’u his-lywyddiaeth eu hunain (ar FIFA)? Mae hyn yn codi’r cwestiwn am yr holl freiniau gafodd eu rhoi i’r cymdeithasau Prydeinig yng Nghyngres 1946.“
Mae gan FIFA fwy o aelodau na’r Cenhedloedd Unedig (211 yn erbyn 193). Mae’r gwledydd a’r cymdeithasau pêl-droed ‘newydd’ yma yn llai tebyg o dderbyn yr hyn a fu, ac yn barotach i gwestiynu’r hen ffyrdd o wneud pethau. Ac nid dim ond y gwledydd llai. Yn 1972, fe wnaeth Wrwgwai dynnu ’nôl ei chefnogaeth i ddileu annibyniaeth y bedair gwlad Brydeinig, wedi iddi dderbyn addewid y byddai lefi yn cael ei thalu o’r hen gystadleuaeth Home Nations.
Yn 1992, bu’n rhaid i Gymru greu ei chynghrair genedlaethol ei hun, er mwyn profi ei bod yn endid pêl-droed annibynnol. Yn y flwyddyn honno hefyd, dywedwyd wrth gynrychiolwyr Prydain ar IFAB, y corff sy’n llunio rheolau’r gêm, y bydden nhw’n colli eu statws fel cymdeithasau unigol petaen nhw’n pleidleisio yn erbyn y rheol newydd ar basio ’nôl i’r gôl-geidwad.
Mae gan Gyd-Ffederasiwn Pêl-droed Affrica 54 o aelodau. Mae gan UEFA 55. Fe gafodd pum tîm o Affrica fynd i Gwpan y Byd Qatar yn 2022, gyda 13 yno o Ewrop. Mae’r nifer wedi codi i naw gwlad o Affrica ar gyfer y gystadleuaeth nesaf, gydag 16 o dimau yn dod o Ewrop. Pam yn y byd ddylai Comoros, Djibouti a Rwanda, neu unrhyw un o wledydd Affrica, boeni am gynnig cyfleoedd ychwanegol i chwaraewyr ifainc Prydain ymddangos ar lwyfan mawr yr Olympics?
Gwrthwynebiad yn ddim byd newydd
Dyw gwrthwynebiad y Cymry i ‘Team GB’ ddim yn rywbeth newydd. Dewch ’nôl gyda fi i Stadiwm MetLife, New Jersey, Efrog Newydd. Y dyddiad? Mis Mai 2012, ychydig wythnosau cyn Gemau Olympaidd Llundain. Roedd yn lle rhyfedd i gynnal protest, heb sôn am brotest bêl-droed. Ond, diolch i lond dwrn o gefnogwyr y Wal Goch, dyna’n union gafwyd pan wnaeth Cymru chwarae yn erbyn Mecsico. Llwyddon ni i ddadorchuddio baner y tu ôl i’r gôl yng nghanol cefnogwyr Cymru. Roedd ganddi un neges syml – ‘No Team GB’.
Roedd yna bedwar chwaraewr Cymreig yn nhîm GB, gan gynnwys Craig Bellamy, sydd bellach yn rheolwr ar ein tîm cenedlaethol. Daeth e ar draws y cae tuag atom yn y stadiwm yn chwifio’i fraich yn wyllt, gan alw arnom ni i dynnu’r faner i lawr. Fe waeddodd e rywfaint o eiriau, ond dw i ddim am eu dyfynnu fan hyn! Gofynwyd iddo mewn cyfarfod cefnogwyr yn ddiweddar am chwarae i dîm GB. Roedd e’n gyfle i chwarae mewn twrnamaint, meddai, “a wnes i ddim canu’r anthem”.
Mae Cymdeithas Bêl-droed yr Alban wedi dweud nad ydyn nhw’n cefnogi’r syniad o ‘Team GB’, ond na fydden nhw’n atal unigolion fyddai’n dymuno cymryd rhan. Dyna ddywedodd yr FAW y tro diwethaf, ac yn wir mae merched y ddwy wlad wedi chwarae i ‘Team GB’ yn y Gemau Olympaidd.
Bydd yr FAW yn dathlu 150 o flynyddoedd o fodolaeth yn 2026. Mae gyda ni hanes hir a pharchus fel tîm a Chymdeithas Bêl-droed annibynnol. Felly, pam peryglu hyn oll, heb sôn am fwynhad cenedlaethau o gefnogwyr Cymru, er mwyn i lond dwrn o chwaraewyr fwynhau pythefnos o hwyl yn Los Angeles?
Mae’r Athro Martin Johnes o Brifysgol Abertawe wedi ysgrifennu’n helaeth am chwaraeon a chenedligrwydd. Mae e’n dweud:
I genhedloedd heb wladwriaeth, sail ethnig neu hyd yn oed undod ieithyddol, mae gan y tîm o 11, neu hyd yn oed 15 o bobol, arwyddocad arbennig. I nifer ar yr hyn a elwir yn ymylon Celtaidd Prydain, dyma un o’r ychydig darnau o dystiolaeth go iawn bod eu cenedl yn bod.
Mae chwaraeon, felly, yn creu cymuned rithiol sy’n fwy hygyrch a real nag unrhyw gysyniad traddodiadol o etifeddiaeth neu hanes.
A dyna pam rwy’n gobeithio na fydd angen ’nôl y faner o’r atig a’i chwifio unwaith eto pan fydd Cymru yn chwarae yn erbyn Twrci ym mis Medi. ‘No Team GB!‘