Ar drothwy gêm fawr yn erbyn Swydd Warwick yn rownd gyn-derfynol Cwpan Undydd Metro Bank yng Nghaerdydd ddydd Sul (Awst 18), mae prif hyfforddwr tîm criced Morgannwg yn teimlo bod ganddyn nhw arf pwysig yn eu tîm.
Fe fu Grant Bradburn yn siarad â golwg360 ar ôl i Ben Kellaway, y troellwr ifanc o Gas-gwent, gipio tair wiced yn y fuddugoliaeth dros Swydd Efrog i helpu i sicrhau lle ei dîm yn rownd gyn-derfynol Cwpan Undydd Metro Bank yng Nghaerdydd ddydd Sul (Awst 18).
Enillodd Morgannwg y gystadleuaeth yn 2021 gyda thîm ifanc a di-brofiad, gyda thwrnament y Can Pelen yn cael ei chynnal ochr yn ochr â’r gystadleuaeth 50 pelawd, oedd yn golygu bod nifer o’r prif chwaraewyr allan, gan roi cyfle i’r to iau serennu.
Mae’n sefyllfa debyg eleni, ac mae Kellaway, troellwr llaw dde naturiol, wedi manteisio ar y cyfle hwnnw, nid yn unig i gipio wicedi ond i arbrofi â’r ddawn brin o fowlio â’i ddwy law.
Mae’n debyg mai’r Cymro ifanc yw’r bowliwr cyntaf ers Charlie Rowe, chwaraewr Caint yn 1980, i gipio wicedi â’i ddwy law mewn gêm sirol, ac mae Grant Bradburn yn sylweddoli arf mor bwysig sydd gan y sir ar drothwy gêm mor fawr.
“Mae’n enfawr,” meddai wrth golwg360.
“Dw i wir wedi annog Ben o’r adeg welais i ei fod e’n gallu [bowlio â’i ddwy law], pan gyrhaeddais i yma ym mis Chwefror.
“Dw i wedi ei annog e i’w ddefnyddio, ond dydy e ddim wedi bod yn ddigon hyderus i ddod â’r peth allan ers y gêm ar yr Oval, mewn gwirionedd [y tro cyntaf iddo fe gipio wicedi â’i ddwy law yn yr un gêm].
“Mae hi wedi bod yn braf iawn gweld ei hyder yn tyfu er mwyn gallu ei ddefnyddio.
“Fel rydych chi wedi gweld, ar y cyfan mae pethau’n digwydd pan mae e’n gwneud hynny.”
‘Sgil unigryw’
Sylweddolodd Ben Kellaway fod ganddo fe’r gallu i fowlio â’r ddwy law yn ystod cyfnod Covid-19, pan oedd e a’i frawd yn taflu pêl ar y lôn tu allan i dŷ eu rhieni.
Ac yn ôl Grant Bradburn, mae’r sgil a’r ddawn sydd ganddo fe’n golygu y gallai’n hawdd iawn godi drwy’r rhengoedd a mynd ymhell yn ei yrfa.
“Mae’n sgil unigryw,” meddai.
“Dw i’n credu ei fod e’n chwaraewr ifanc all fod yn unrhyw beth mae e eisiau bod.
“Dw i ddim yn meddwl y bydd e yn yr amgylchfyd yma [ym Morgannwg] yn hir iawn.
“Dw i’n credu y bydd e’n gwibio drwy’r rhengoedd os yw e’n parhau i gredu yn y sgil sydd ganddo fe.”
Hyfforddi’r hyn na all gael ei hyfforddi
Un o’r cyhuddiadau mwyaf yn y byd criced yw fod tuedd i hyfforddwyr or-hyfforddi chwaraewyr fel eu bod nhw’n colli dawn naturiol.
Ond mae Grant Bradburn yn gochel rhag ymyrryd yn ormodol, ac yn awyddus i roi’r rhyddid i Ben Kellaway ddatblygu ei grefft yn ei ffordd ei hun.
“Rydyn ni wedi rhoi’r rhyddid iddo fe synhwyro’r peth, a dw i’n credu ei bod hi’n bwysig iawn ein bod ni’n gwneud hynny,” meddai.
“Dyw e ddim yn rhywbeth rydyn ni’n ei gyfarwyddo, nac yn rhywbeth mae Kiran [Carlson, y capten] yn ei gyfarwyddo ar y cae, na finnau oddi ar y cae.
“Rydyn ni’n ymddiried ynddo fe i synhwyro mai nawr yw’r adeg iawn.
“Rydyn ni wedi rhoi arweiniad iddo fe, wrth gwrs, oherwydd mai’r peth clyfar i’w wneud yw cadw’r bêl i droi i ffwrdd o’r bat.
“I ddechrau, efallai, ei ddefnyddio yn erbyn cyfuniadau [batwyr] de/chwith.
“Bydd e’n dechrau synhwyro o ba ben i’r llain ac ym mha wyntoedd mae e eisiau bowlio.
“Mae gyda ni ffydd ynddo fe i barhau i arbrofi, a dw i’n meddwl ei fod e’n mwynhau’r rhyddid i deimlo’r peth drosto fe ei hun.
“Dyna’r peth cyffrous, dw i’n meddwl – dyw e ddim yn cael ei ddysgu.
“Ei annog e yn unig ydyn ni.”
Y dyfodol
Dydy Morgannwg ddim yn sir sy’n dueddol o chwaraewyr addawol yn hir iawn.
Gyda chyn lleied o chwaraewyr y sir wedi chwarae ar y llwyfan rhyngwladol dros y blynyddoedd, arweiniodd hynny at ragdybiaeth fod angen symud i Loegr at un o’r siroedd mwy ‘ffasiynol’ er mwyn ennill cap dros Loegr.
Mae Grant Bradburn yn awgrymu y gallai hynny ddigwydd yn achos Ben Kellaway yn y dyfodol hefyd.
“Dw i erioed wedi cael rhywun, fel chwaraewr neu hyfforddwr sy’n gallu [bowlio â dwy law] mor effeithiol â Ben,” meddai.
“Dw i’n teimlo’i fod e’n rywbeth unigryw ac arbennig iawn i ni.
“Mae e’n ased gwerthfawr, ac rydyn ni eisiau rhoi mwy a mwy o gyfleoedd iddo fe.
“Dw i’n credu y bydd e’n symud ymlaen i bethau gwell na chwarae i ni.
“Bydden ni wrth ein boddau pe bai e’n galw’r lle yma [Gerddi Sophia] yn gartref, ond fe allai fod yn chwarae o amgylch y byd cyn bo hir iawn.”