Yn nechrau mis Gorffennaf, bu i Aberfan FC wneud y penderfyniad anodd i ddirwyn y clwb i ben, a hynny ar ôl 58 o flynyddoedd.
Ar nodyn ychydig yn fwy cadarnhaol, cyfeiriodd y clwb at ‘flwyddyn bant’ oedd yn ‘angenrheidiol a haeddiannol’, gyda’r timau plant ac ieuenctid yn parhau i ymarfer a chystadlu.
Daeth cydymdeimlad yn syth oddi wrth glwb arall y pentref, Aberfan Rangers, wrth iddyn nhw ddatgan eu gobaith y byddai’r clwb yn dod ’nôl mewn blwyddyn, a bod yn rhan o ‘ddarbi gyntaf Aberfan erioed’, ac y gallai’r “ddau dîm wneud pentref Aberfan yn bentref pêl-droed gwych unwaith eto”.
Bu i mi deimlo’r rheidrwydd i alw draw yn y Gelli, y cae oedd yn cael ei rannu gan y ddau glwb, i wylio gêm gyntaf Aberfan Rangers wrth iddyn nhw ddechrau eu tymor yng Nghynghrair Ardal Merthyr Tudful yn erbyn Baili Glas – clwb arall sy’n sicrhau cyfleoedd i blant ac ieuenctid, yn fechgyn a merched.
Roedd bwa trawiadol yn fy nghroesawu i gaeau’r Gelli, bwa oedd wedi’i gynllunio gan y cerflunydd Nigel Talbot a disgyblion Ysgol Uwchradd Afon Taf i ‘Arwyddo Cryfder, Gobaith a Balchder yn y Gymuned’. Anodd oedd peidio cofio am fy nghyfaill, y diweddar Neville John, cyfansoddwr dwy Agorawd i’r drychineb yn y pentref ar Hydref 21, 1966 – un i gofio’r gyflafan, ond y llall i ddathlu cadernid bro.
Dechreuodd y gêm yn ddigon tawel, heb fod llawer yn digwydd naill ochr i’r cae na’r llall cyn i Daniel Rees (13 munud) sgorio chwip o gôl o ymyl y cwrt cosbi i sicrhau gôl gyntaf heb i’r gôl-geidwad symud modfedd!
Roedd rhywun yn disgwyl i’r goliau ddod, ond arhosodd Baili Glas yn gadarn nes i Luke Davies gael ei dynnu i lawr yn flêr yn y cwrt a rhoi cyfle i Josh Ball sgorio o’r smotyn.
Methu wnaeth ei ymgais, ond o fewn dim roedd Aberfan Rangers ymhellach ar y blaen, gyda goliau gan Iwan Jones (40 munud) a Dan Rees (41 munud), cyn i Josh Ball daro’r trawst funud yn ddiweddarach – yn amlwg doedd e ddim am sgorio, er iddo gael gêm dda am y 90 munud!
Tair gôl i ddim ar yr hanner, a dwy o’r goliau wedi dod o’r asgell dde a’r bêl yn cael ei chladdu yng nghornel chwith y gôl!
Yr un oedd y patrwm ar ddechrau’r ail hanner, wrth i Iwan Jones (46 munud) sgorio o’r dde ac yna Luke Davies (51 munud) wedi i’r gôl-geidwad arbed cic o’r asgell dde gan Iwan Jones! O fewn dim, roedd Iwan Jones (53 munud) wedi sgorio eto o’r dde, gydag Aberfan bellach ar y blaen o chwe gôl i ddim!
Roedd Iwan Jones (67 munud), yn ei gêm gyntaf i’r clwb ers trosglwyddo o Georgetown, ar dân wrth iddo sgorio eto fyth gyda’i bedwaredd gôl, ond cyn hynny – ac yn erbyn rhediad y chwarae – roedd Lloyd Type (61 munud) wedi cael ei hun yn rhydd yn y blwch cosbi ac wedi bwrw’r bêl yn gadarn dan fol y gôl-geidwad i gefn y rhwyd. Roedd digon o ddathlu ymysg yr eilyddion a’r tîm hyfforddi, ond doedd dim ffordd ’nôl i Baili Glas!
Yn dilyn pedwaredd gôl Iwan Jones, daeth un gôl olaf, a hynny gan Rhys Griffiths (70 munud) gyda chic ryfeddol o’r asgell dde (ble arall?!) dros ben y gôl-geidwad David Evans, a honno oedd gôl olaf y gêm!
Er i David Evans wneud ambell arbediad arbennig tua’r diwedd, tawelodd pethau ar y cae ac yn y cytiau ymochel, gyda chyfleoedd i eilyddio.
Wrth gloi, rhaid canmol Rohan Pinch (Baili Glas) am weithio mor galed, a Kieran Edwards (Aberfan Rangers), oedd fel y graig fel chwaraewr canol cae amddiffynnol, ac yntau wedi creu dwy o goliau’r tîm cartref!
Da iawn Aberfan Rangers am gynnal fflam pêl-droed y pentref. Byddaf yn edrych ymlaen at wylio Aberfan Rangers yn erbyn Aberfan FC tymor nesaf!