Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi cyhoeddi mai Craig Bellamy fydd rheolwr newydd tîm pêl-droed dynion Cymru.

Mae gan Craig Bellamy brofiad helaeth o hyfforddi yn dilyn cyfnodau gyda Burney. Anderletch a Chaerdydd.

Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi bod yn chwilio am reolwr newydd ers diswyddiad Rob Page fis diwethaf.

Cadarnhaodd y Gymdeithas heddiw [Mawrth 9 Gorffennaf] fod Craig Bellamy wedi arwyddo cytundeb tan 2028.

“Anrhydedd mwyaf fy ngyrfa”

Dywedodd Craig Bellamy mewn datganiad ei fod yn “fraint anhygoel imi gael y cyfle i arwain fy ngwlad a dyma anrhydedd fwyaf fy ngyrfa.

“Fy mreuddwyd erioed oedd dod yn Brif Hyfforddwr Cymru a dw i’n barod am yr her.

“Dwi’n teimlo’n barod am yr her o ddatblygu’r tîm yma er mwyn dod â llwyddiant parhaus i bêl-droed Cymru.

“Dydw i methu aros i ddechrau yn ein gemau Cynghrair y Cenhedloedd ym mis Medi.”

Bu’n cyfarfod swyddogion y Gymdeithas yr wythnos ddiwethaf ac ef wnaeth lwyddo i greu’r arfraff fwyaf yn ystod y trafodaethau hynny.

Roedd yna drafodaethau hefyd gyda chyn-seren Arsenal Thierry Henry, rheolwr Georgia, Willy Sagnol, a rheolwr Oxford United, Des Buckingham.

Nid dyma’r tro cyntaf iddo geisio am y rôl, wedi iddo gael ei gyfweld ar ôl i Chris Coleman adael yn 2017, ond Ryan Giggs a gafodd ei benodi yn rheolwr bryd hynny.

Fel chwaraewr, mae wedi chwarae dros 400 o gemau o safon a chynrychioli ei wlad 78 gwaith gan arwain ei dîm rhwng 2007/10.

Fe dreuliodd gyfnodau gyda Norwich City, Coventry City, Celtic, Blackburn Rovers, Liverpool, West Ham United, Manchester City a Lerpwl cyn gorffen gyda Chaerdydd.

“Pleser”

Dywedodd Dr David Adams, Prif Swyddog Pêl-Droed y Gymdeithas ei fod yn “bleser mawr cyhoeddi Craig fel ein Prif Hyfforddwr newydd.

“Gwnaethom gynnal proses recriwtio manwl a chafodd Craig ei adnabod fel ymgeisydd amlwg.

“Rydym yn edrych ymlaen at gemau Cynghrair y Cenhedloedd a chyd-weithio â Craig i sicrhau llwyddiant i bêl droed Cymru.”

Craig Bellamy fydd yn arwain y tîm yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd yn 2026.

Bydd ei gêm gyntaf fel rheolwr yn erbyn Twrci ar 6 Medi yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn rhan o Gynghrair y Cenhedloedd.

Bydd Cymru wedyn yn teithio i Montenegro ar 9 Medi.