Mae’r Gweilch wedi cyhoeddi mai Stadiwm Sain Helen yn Abertawe fydd eu cartef newydd o ddechrau tymor 2025/26.

Roedd y rhanbarth wedi ystyried symud i Gae’r Bradgy ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Ers 2005, mae’r Gweilch wedi bod yn chwarae yn stadiwm swansea.com gan rannu’r stadiwm gyda thîm pêl-droed Abertawe.

Cyhoeddodd y clwb bod y penderfyniad yn golygu y byddai modd iddynt gadw’n agos at nifer helaeth o’u cefnogwyr a’u noddwyr.

Dywedodd y Gweilch mewn datganiad bod y penderfyniad yn eu “galluogi i weithio gyda Chyngor Dinas a Sir Abertawe i roi bywyd newydd i Faes Chwaraeon enwog Sain Helen.

“Mae’n fraint i gael y cyfle i wneud ein cartref ar y maes lle chwaraeodd Cymru eu gêm ryngwladol gyntaf erioed yn 1882.

“Bydd buddsoddiad o filiynau o bunnau yn ein gweld yn gosod cae 4G newydd, eisteddleoedd newydd, adfywio’r tŷ clwb a chyflwyno porth cefnogwyr newydd.”

Bydd Clwb Rygbi Abertawe a Phrifysgol Abertawe yn parhau i chwarae ar gae Sain Helen a gobaith ar gyfer y maes yw cynyddu nifer o gemau gymunedol yno.