Mae adroddiad sy’n cynnwys argymhellion ar groesi’r Fenai wedi cael ei gyhoeddi.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ynys Môn, er bod yr argymhellion yn synhwyrol, dydyn nhw ddim yn cynnig “yr ateb hirdymor sydd ei angen i fynd i’r afael â’r problemau gwytnwch”.

Mae adroddiad Comisiwn Burns yn cynnwys 16 o argymhellion ar gyfer croesi’r Fenai, gan gynnwys cyflwyno offer gwynt er mwyn lleihau’r nifer o weithiau mae’r bont yn gorfod cau.

Ymysg yr argymhellion eraill mae cyflwyno terfyn cyflymder is sydd wedi’i orfodi gan gamerâu, a chyflwyno system lanw tair lôn.

Does dim sôn am drydedd bont dros y Fenai yn yr adroddiad, fodd bynnag, mae’n nodi bod y panel yn “cydnabod y gallai fod rhesymau yn y dyfodol i ystyried Trydedd Groesfan Menai eto”.

Mae’n nodi bod y rhesymau’n cynnwys y posibilrwydd o safle niwclear newydd ar yr ynys, fyddai’n ddatblygiad economaidd sylweddol.

Fodd bynnag, ychwanega’r adroddiad y byddai’n cymryd amser hir i wireddu trydedd bont oherwydd yr holl waith cynllunio a phrofi fyddai ei angen.

‘Amser gweithredu’

Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, wedi sefydlu deiseb yn galw am bont arall dros y Fenai.

“Rydych chi’n gwybod pa mor rhwystredig a blin oeddwn i gyda phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ddileu cynlluniau ar gyfer trydedd bont, nid yw’n ymwneud â thraffig fel y cyfryw, mae’n ymwneud â gwydnwch,” meddai mewn neges ar Facebook.

“A’r hyn sydd gennym ni nawr yn adroddiad y Comisiwn Burns yw argymhellion, er enghraifft, newidiadau i gyffyrdd a thariannau gwynt ar y bont sydd yn argymhellion iawn ynddynt eu hunain.”

Ychwanega fod yr opsiwn tair lôn, er enghraifft, yn rywbeth mae wedi bod yn galw amdano ers degawd, ac sydd eisoes wedi cael ei wrthod.

“Rydw i eisiau gweld yr argymhellion hynny’n cael eu rhoi ar waith nawr, mae cymaint o amser wedi’i wastraffu,” meddai.

Mae argymhellion mwy cyffredinol hefyd wedi’u cynnig yn yr adroddiad, megis cynyddu pa mor aml mae trenau’n galw yng ngorsaf Llanfairpwllgwyngyll er mwyn rhedeg mwy o wasanaethau trên rhwng Ynys Môn a Bangor.

Yn ogystal, mae argymhelliad i wella gwasanaethau parcio a theithio er mwyn creu rhwydwaith bysiau cryfach ar draws yr ynys.