Mae’r gwasanaethau brys wedi dod o hyd i gorff ar safle tân mawr yn Nhrefforest yn Rhondda Cynon Taf.

Daw hyn yn dilyn tân mawr ar yr ystad ddiwydiannol yno ddydd Mawrth (Rhagfyr 13).

Ar y pryd, roedd adroddiadau bod ffrwydrad wedi digwydd.

Dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol, ond mae swyddogion yn cefnogi teulu unigolyn sydd wedi bod ar goll ers y tân.

Mae Heddlu’r De, Gwasanaeth Tân ac Achub y De a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn parhau i gynnal ymchwiliad ar y safle er mwyn darganfod beth achosodd y tân.

‘Diolch’

“Mae ein meddyliau gyda theulu’r person sydd ar goll,” meddai’r Ditectif Uwcharolygydd Richard Jones o Heddlu’r De.

“Nawr bod y tân wedi dod dan reolaeth, byddwn ni’n symud i’r cam ymchwilio i ddarganfod beth oedd wedi achosi’r ffrwydrad hwn a’r tân oedd wedi dilyn.

“Mae heolydd yn cael eu hailagor yn raddol, er y bydd rhai heolydd a busnesau yn yr ardal yn dal i gael eu heffeithio.

“Hoffwn ddiolch i drigolion a busnesau lleol am eu hamynedd a’u dealltwriaeth tra ein bod yn ymdrin â’r digwyddiad hwn.”

Apêl am wybodaeth

Mae Heddlu’r De bellach yn apelio am ddeunydd o’ ffrwydrad toc ar ôl 7 o’r gloch nos Fercher (Rhagfyr 13).

Maen nhw’n awyddus i weld deunydd camerâu cylch-cyfyng, lluniau clychau drysau neu dashcam.

Dylai unrhyw un â delweddau allai helpu’r heddlu gysylltu â nhw.