Dydy opsiwn ’dim toriadau’ “ddim yn ymarferol” i Gyngor Sir Caerfyrddin, wrth iddyn nhw “bennu cyllideb cytbwys”, yn ôl yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Adnoddau.

Unwaith eto eleni, mae’r Cyngor yn wynebu penderfyniadau anodd er mwyn mantoli’r gyllideb ar gyfer 2024-25, wrth iddyn nhw geisio cau bwlch cyllidebol o £22m cyn ystyried mesurau effeithlonrwydd a chynnydd yn y dreth gyngor.

Maen nhw’n dweud bod pwysau enfawr ar eu gwasanaethau o ganlyniad i lefel chwyddiant “ystyfnig o uchel”, ac maen nhw am aros i weld faint o gyllid fyddan nhw’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru drwy’r Grant Cynnal Refeniw cyn ymgynghori â thrigolion ar y gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Mae pob 1% o’r Grant Cynnal Refeniw yn cyfateb i oddeutu £3m o gyllid, ac mae’r Cyngor yn ddibynnol ar y grant am ryw 75% o’u hincwm net tuag at redeg gwasanaethau dydd i ddydd, gan gynnwys addysg, gofal cymdeithasol, a chynnal a chadw priffyrdd.

Mae rhan fwya’r incwm sydd yn weddill yn dod o’r dreth gyngor.

Datblygu cynigion

Mae cynghorwyr a swyddogion y Cyngor yn cydweithio i ddatblygu cynigion i fantoli’r gyllideb ar gyfer 2023-24, ond “ar ôl deuddeg mlynedd o leihau eu gwariant ac oni bai bod cyllid sylweddol yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig”, maen nhw’n rhybuddio y bydd yn rhaid iddyn nhw gwtogi gwasanaethau unwaith eto.

Bydd y Cyngor yn ymgysylltu â thrigolion cyn bo hir, er mwyn cael eu barn a’u syniadau er mwyn sicrhau’r arbedion sydd eu hangen, a byddwn nhw wedyn yn lansio ymgynghoriad swyddogol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol.

Dydy’r sefyllfa hon ddim yn unigryw i Gyngor Sir Caerfyrddin, medden nhw, gan fod pob awdurdod lleol yng Nghymru’n wynebu diffyg mawr yn eu cyllideb yn sgil yr hinsawdd economaidd yn fyd-eang.

Y camau nesaf

Yn ôl y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, byddan nhw’n gwybod swm setliad dros dro’r Grant Cynnal Refeniw cyn y Nadolig, a byddan nhw’n ymgynghori â’r cyhoedd yn syth unwaith fyddan nhw’n cael gwybod y ffigwr.

“Rydyn ni’n disgwyl i Lywodraeth Cymru ddweud wrthon ni beth fydd setliad dros dro y Grant Cynnal Refeniw yn yr wythnos sy’n arwain at y Nadolig,” meddai.

“Fel Cabinet, byddwn ni’n cwrdd wap wedi hynny, gyda’r bwriad o ymgynghori â’r cyhoedd yn syth wedyn.

“Er fod hyn ddim yn ddelfrydol, bydd gan bobol yr wythnos ar ôl y Nadolig a thrwy gydol mis Ionawr i ymateb ar-lein a thrwy ddulliau eraill.

“Mae’n rhaid i fi fod yn onest gyda phobol y sir, dyw’r opsiwn ’dim toriadau’ ddim yn ymarferol; fel pob cyngor arall mae’n rhaid i ni, yn ôl y gyfraith, bennu cyllideb gytbwys.”

Heriau

Yn ôl Alun Lenny, er bod cyflogau am godi mae heriau ariannol i’r Cyngor wrth i gyllideb gael ei thorri.

“Y llynedd, derbyniodd y Cyngor Sir gynnydd o dros 8% yn y Grant Cynnal Refeniw gan Lywodraeth Cymru. Er i hyn gael ei ystyried yn setliad da, doedd e ddim,” meddai.

“Wedi dweud hynny, roedd yn ddigon i leihau’r heriau ariannol yn achos gwasanaethau hanfodol – gyda phwysau dros £5.5m yn y Gwasanaethau Plant yn unig.

“Mae disgwyl i’r setliad eleni fod yn gynnydd o 3%, ond gan fod chwyddiant yn 4.7% a setliadau cyflog hyd yn oed yn uwch, mae’r Cyngor yn wynebu diffyg i’w gyllideb.

“Ymhlith yr enghreifftiau eraill o’r pwysau ariannol mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu mae codiad cyflog cynyddol o 1.5% i athrawon ym mis Medi 2022, ac eto eleni.

“Cafodd hyn ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru yn 2023-24, ond nid felly fydd hi’r flwyddyn nesaf.

“Mae hyn yn cyfateb i doriad o bron i £3m i’r Cyngor, ac 1% o’r 3% disgwyliedig yn y grant gan Lywodraeth Cymru.”

Cyflog byw gwirioneddol

Serch hynny, mae’r Cyngor yn falch o allu talu’r Cyflog Byw gwirioneddol, meddai.

“Mae talu’r cyflog byw gwirioneddol yn destun balchder i Gyngor Sir Caerfyrddin, i gydnabod gwaith caled staff sydd ar gyflogau is.

“Oherwydd chwyddiant, mae hyn bellach wedi codi i £12 yr awr, sy’n golygu bod yn rhaid i’r awdurdod lleol ddod o hyd i £2.25m ychwanegol i’r gyllideb.”