Mae dynes o Arfon yn dweud ei bod hi’n teimlo pwysau i wario swm sylweddol o arian ar anrhegion Nadolig i’w phlant, er ein bod ni yng nghanol argyfwng costau byw.

Yn ôl y ddynes, sydd eisiau aros yn ddienw, mae hi wedi gwario £600 yr un ar ddau o’i phlant – ei merch 17 oed a’i mab 13 oed – ond yn teimlo bod yna rieni sy’n gwario llawer mwy na hynny hefyd.

Dywed ei bod hi’n gweld bod y cyfryngau cymdeithasol Americanaidd yn dylanwadu ar blant fel eu bod nhw eisiau anrhegion drud, a bod hynny’n ormod i’w ddisgwyl yng nghanol yr argyfwng presennol.

Dywed y dylai Llywodraeth San Steffan wneud mwy i ddatrys yr argyfwng.

“Rydym wedi gorfod defnyddio’r arian wnaethon ni o fagu cŵn i dalu am anrhegion Nadolig y plant eleni,” meddai wrth golwg360.

“Roeddem yn gobeithio neilltuo’r arian ar gyfer pethau eraill.

“Mae’r dyddiau wedi mynd pan fyddai plant yn hapus gydag afal ac oren.

“Mae llawer o bobol yn gwario llawer mwy na ni ar anrhegion Nadolig.

“Gwarion ni yr hyn allen ni – £600 yr un i’r ddau blentyn.

“Mae fy merch wedi cael gwersi gyrru, ac roedd fy mab eisiau pethau ar gyfer ei fadfallod,  tanc a phethau felly.”

Anodd cyrraedd disgwyliadau plant

Dywed y ddynes y bydd llawer o rieni a gofalwyr yn ei chael hi’n anodd cyrraedd disgwyliadau eu plant o ran anrhegion eleni.

“Eleni, mae’n debyg bod pobol yn cael trafferth,” meddai.

“Mae chwyddiant yn uchel.

“Pan oedden ni’n blant, roedden ni’n disgwyl llawer llai.

“Mae plant yn disgwyl llawer mwy, ac mae popeth wedi mynd mor ddrud.

“Mae’n anodd oherwydd cost popeth arall.

“Mae bwyd yn gostus – yn ogystal â thrydan, nwy ac ati.

“Hyd yn oed os ydych chi’n ffitio i mewn i’r categori dosbarth canol, dydych chi ddim yn cael unrhyw gefnogaeth gyda’ch plant.

“Rydych chi’n dal i gael trafferth cael y swm hwnnw ar eu cyfer nhw.

“Mae pobol ar isafswm cyflog yn mynd i gael trafferth oni bai eu bod yn cael cymorth.

“Oni bai eich bod chi’n ennill cyflog uchel, rydych chi’n mynd i gael trafferth, ac nid yw’r rhan fwyaf o bobol o gwmpas fan hyn yn enillwyr uchel.

“Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn broblem hefyd.

“Mae plant yn mynd ar gyfryngau cymdeithasol ac yn gweld plant o America yn cael hyn a’r llall ar gyfer y Nadolig, ac maen nhw’n meddwl mai dyna’r norm.”

‘Mae angen i bethau ddod i stop’

Mae’r ddynes yn galw ar Lywodraeth San Steffan i wneud mwy i ddatrys yr argyfwng costau byw.

“Argyfwng costau byw yw’r brif broblem,” meddai.

“Felly, yn amlwg, mae angen i bethau ddod i stop.

“Rydym yn talu llawer o dreth.

“Mae angen i’r llywodraeth roi trefn ar yr argyfwng costau byw.”