Gallai newidiadau gael eu gwneud yn fuan i’r dosbarthiadau sy’n cefnogi addysg disgyblion yn Rhondda Cynon Taf sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Pe baen nhw’n cael eu cymeradwyo gan y Cabinet ddydd Llun (Rhagfyr 18), byddai’r newidiadau’n golygu:

  • symud y dosbarth arsylwi ac asesu yn Ysgol Gynradd Penrhiw-ceibr i Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon o Fedi 2024
  • trosglwyddo dosbarth o ddisgyblion Blynyddoedd 3-6 sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth yn Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon i greu darpariaeth yn Ysgol Gynradd Perthcelyn o Fedi 2024
  • sefydlu un dosbarth asesu ac ymyrryd Blynyddoedd Cynnar yn Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon ar gyfer disgyblion o dan oed ysgol statudol sydd ag anghenion sylweddol o Ebrill 2024
  • sefydlu dau ddosbarth cynradd Cymraeg yn yr ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Rhydyfelin (Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf) ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol sylweddol o Fedi 2024
  • sefydlu un dosbarth ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 7-11 ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth yn yr ysgol 3-16 newydd ar safle Ysgol Gynradd/Uwchradd Hawthorn (Ysgol Afon Wen) o Fedi 2024.

Ym mis Mai, cytunodd y Cabinet i gynnal ymgynghoriad ar y cynigion, ac ym mis Medi fe wnaeth y Cabinet gymeradwyo symud i gam nesa’r broses a chyhoeddi hysbysiadau statudol ar y cynigion.

Gwrthwynebiad a phryderon

Arweiniodd hyn at gyfnod gwrthwynebu, a chafodd saith gwrthwynebiad eu derbyn, gyda phob un yn ymwneud â’r cynnig i symud dosbarth o ddisgyblion Blynyddoedd 3-6 ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth yn Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon i greu darpariaeth yn Ysgol Gynradd Perthcelyn o Fedi 2024.

Fe wnaethon nhw godi pryderon am adnoddau cymunedol a’r cynnig cwricwlwm, tarfu ar ddisgyblion a’r gefnogaeth wrth iddyn nhw symud, rhieni’n gwrthod adleoli, y broses ymgynghori, ac adrodd am sylwadau a thystiolaeth, a chludiant.

Dywedodd adroddiad y Cabinet fod yna nifer fechan o ddisgyblion fyddai’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol.

Pe bai gwrthwynebiad gan rieni i adleoli darpariaeth eu plant i’r dosbarth cymorth dysgu arfaethedig ym Mherthcelyn, gellid archwilio lleoliadau prif ffrwd yn y lleoliadau presennol, meddai’r adroddiad.

Wrth droi at y dosbarth arsylwi ac asesu ym Mhenrhiw-ceibr, dywedodd yr adroddiad mai’r bwriad oedd i leoliadau yno fod yn rhai tymor byr, a’i bod hi’n debygol iawn y byddai rhan fwya’r disgyblion wedi symud yn eu blaenau i’w lleoliad tymor hir cyn Medi 2024, sef y dyddiad gweithredu arfaethedig.

Ariannu

Caiff ysgolion uwchradd sy’n cynnal dosbarthiadau cymorth dysgu i ddisgyblion ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth eu hariannu drwy’r Cyngor ar gyfer un athro/awes arbenigol a dau gynorthwyydd cymorth dysgu, ar gost o oddeutu £131,500 ar gyfer pob dosbarth.

Caiff ysgolion cynradd sy’n cynnal dosbarthiadau cymorth dysgu Blynyddoedd Cynnar eu hariannu ar gyfer un athro/awes ac un cynorthwyydd cymorth dysgu ar gost o oddeutu £97,600.

Bydd darpariaethau cynradd Cymraeg yn cael eu hariannu ar gyfer un athro/awes ac un cynorthwyydd cymorth dysgu ar gost o oddeutu £97,600 yr un.

Er mwyn sicrhau y gall y Cyngor ddiwallu anghenion eu disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, mae angen cyllid o ryw £424,000.

Bydd creu ac adleoli’r dosbarthiadau cymorth dysgu’n arwain at gost cludiant, ond mae’r cynnydd hwn mewn costau’n cael ei ystyried yn angenrheidiol er mwyn gwella’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion mwyaf bregus Rhondda Cynon Taf, meddai adroddiad y Cabinet.

Dywed nad oes modd mesur costau ar hyn o bryd gan fod lleoliadau’n cael eu harwain gan ddisgyblion, ond o ystyried y byddai cynnydd net yn nifer y dosbarthiadau cymorth dysgu, mae’n debygol y byddai angen cyllid ychwanegol.

Mae £330,000 eisoes wedi’i neilltuo yn dilyn cytundeb gan y Cabinet i symud ymlaen â’r cynnig gwreiddiol i sefydlu tri dosbarth cymorth dysgu ychwanegol yn rhagor ar gyfer disgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, ac felly ni fyddai angen cyllid ychwanegol pe bai ystyriaeth yn cael ei rhoi i ailgydio yn y cynnig hwn, meddai’r adroddiad.

Dywed adroddiad y Cabinet y byddai’r cynigion yn sicrhau bod y Cyngor wedi cyflawni eu dyletswyddau statudol i adolygu’r trefniadau ar gyfer cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol o fewn y bwrdeistref sirol, ac wedi nodi camau angenrheidiol i “sicrhau digonedd eu darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol sydd angen lleoliad arbenigol”.

Dywed fod y cynigion yn cefnogi cyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg Rhondda Cynon Taf ac un o amcanion craidd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) drwy weithio tuag at ddatblygu system anghenion dysgu ychwanegol hollol ddwyieithog o fewn y bwrdeistref sirol.

“Bydd y cynigion yn sicrhau mwy o gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 a mynediad at leoliadau llawer gwell sydd wedi elwa ar raglen a buddsoddiad moderneiddio Ysgolion yr 21ain Ganrif,” meddai.