Mae angen gwelliannau ar unwaith i wasanaethau mamolaeth Ysbyty Singleton yn Abertawe, yn ôl adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Daw’r adroddiad ar ôl i’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan gyhoeddi bod yr ysbyty’n cael ei fonitro yn dilyn cwynion gan deuluoedd.
Mae’r adroddiad yn nodi bod lefelau staffio’r ysbyty wedi bod yn anniogel ers 2019.
Wrth edrych ar 14 diwrnod o rota’r staff, gwelodd yr arolygwyr fod 11 o’r rheiny â lefelau staffio islaw’r gofynion.
Dim ond 2% o’r staff gafodd eu holi oedd yn teimlo bod digon o staff i allu cyflawni’r gwaith yn iawn.
Yn ogystal, dywedodd rhai mamau na wnaethon nhw dderbyn meddyginiaethau lleddfu’r poen bob tro roedden nhw eu hangen.
‘Pryderon yn hysbys’
Dywed Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, fod yr adroddiad yn creu “darlun pryderus iawn”.
“Hyd yn oed cyn i’r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi, roedd pryderon am y gwasanaethau mamolaeth a newydd-anedig ym mwrdd iechyd Bae Abertawe yn hysbys – yn sicr mor bell yn ôl â Thachwedd y llynedd,” meddai.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddatgelu’r pwynt lle cawson nhw wybod am y tro cyntaf am faterion gyda’r gwasanaethau hyn.
“Yn sicr, tynnwyd sylw at bwysau staffio fel rhai ‘argyfyngus’ ym mis Mehefin eleni mewn cyfarfod rhwng Llywodraeth Cymru a’r bwrdd iechyd.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru ateb pam ei bod wedi cymryd cyhyd iddynt weithredu, gan ystyried mai dim ond yr wythnos hon y gosodwyd mesurau ‘monitro agosach’ ar y gwasanaeth.”
Ychwanega fod ei hetholwyr wedi mynegi eu pryderon wrth geisio penderfynu ar y lle mwyaf diogel i gael eu babi, a bod angen cydnabod y pryderon hynny.
Gwelliannau ar waith
Dywed llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Bae Abertawe eu bod nhw eisoes wedi gwneud gwelliannau i’r gwasanaeth.
“Roedd llawer o’r materion gafodd eu codi’n ymwneud yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â phwysau staffio,” meddai.
“Rydym yn ymwybodol iawn o ba mor anodd y mae’r pwysau hyn wedi gwneud swyddi ein staff mamolaeth a newyddenedigol ymroddedig.
“Ers ymweliad dirybudd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar 5-7 Medi, rydym wedi llwyddo i recriwtio 23 o fydwragedd ac 14 o Gynorthwywyr Gofal Mamolaeth, pob un ohonyn nhw eisoes yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i waith y gwasanaeth ac sydd eisoes wedi lleddfu llawer o’r pwysau wnaeth y gwasanaeth wynebu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.”
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd adolygiad yn cael ei gynnal i strwythur llywodraethu mewnol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, ac mae disgwyl cyhoeddi adroddiad ym mis Mawrth.
Dywed llefarydd eu bod hefyd wedi cyhoeddi fframwaith Siarad yn Ddiogel “i sicrhau y gall staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fod yn agored ac yn onest pan fydd pethau’n mynd o chwith, a helpu i greu Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd bob amser yn gwrando, dysgu a gwella.”