Yn ôl un o garedigion y Gymraeg ym Môn sydd newydd gael ei phenodi’n arweinydd Fforwm Iaith yr ynys, mae ganddi bryderon nad yw’r Gymraeg yn cael ei throsglwyddo o fewn teuluoedd lle mae’r ddau riant yn medru’r iaith.
I’r perwyl hwnnw, thema’r fforwm nesaf fydd Teulu – Trosglwyddo Iaith, ac mae aelodau’r fforwm yn cydweithio i gynhyrchu ap Ogi Ogi, sy’n cynnig y cyfleoedd sydd gan rieni a gofalwyr ifainc i hybu’r Gymraeg.
“Yn anffodus, mae’r ganran o rieni Cymraeg ar yr ynys â’r ddau riant yn Gymry Cymraeg ac yn penderfynu peidio trosglwyddo’r Gymraeg i’r plentyn yn uchel,” meddai Annwen Morgan wrth golwg360.
Mae hi’n olynu Dr Haydn Edwards, oedd wedi camu o’r neilltu ym mis Gorffennaf ar ôl chwe blynedd yn y rôl.
Cafodd Fforwm Iaith Ynys Môn ei sefydlu gan Gyngor Sir Ynys Môn yn 2014, a hynny ar y cyd â Menter Iaith Môn a phartneriaid eraill.
Nod y Fforwm yw annog cydweithio rhwng sefydliadau er lles y Gymraeg yn lleol, ac mae’n gyfuniad o sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector ar lawr gwlad.
Pwy yw Annwen Morgan?
Yn enedigol o ardal Llaneilian, derbyniodd Annwen Morgan ei haddysg yn Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch.
Graddiodd â BA yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, cyn derbyn Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg.
Dechreuodd weithio fel athrawes Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Bodedern yn 1983, gan ddod yn bennaeth adran yn 1994 ac yn Bennaeth yr ysgol yn 2007.
Daeth ei gyrfa addysgu i ben yn 2016, wedi iddi dderbyn swydd yn Brif Weithredwr Cynorthwyol Cyngor Sir Ynys Môn.
Cafodd ei phenodi’n Brif Weithredwr ym mis Awst 2019, fisoedd yn unig cyn cyfnodau clo’r pandemig COVID-19.
Yn ogystal ag arwain y Cyngor Sir drwy’r blynyddoedd heriol hynny, bu’n gyfrifol am gynrychioli buddiannau’r Gymraeg ar yr uwch dîm arwain, gan gynnwys strategaeth i hybu’r iaith a chynlluniau i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y weinyddiaeth.
Yn cefnogi Annwen Morgan yn y rôl fydd Dr Lowri Angharad Hughes, gafodd ei phenodi’n is-gadeirydd mewn cyfarfod diweddar yn Oriel Môn yn Llangefni.
Hefyd o Fôn, mae hi’n cynrychioli Prifysgol Bangor ar y Fforwm Iaith, a hithau’n gweithio yno fel Pennaeth Polisi a Datblygu ac fel Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol.
‘Braint’
Mae Annwen Morgan, fel un sydd â hanes hir yn rhan o’r Fforwm Iaith, yn ei hystyried yn fraint cael bod yn gadeirydd.
Yn ei barn hi, bydd ganddi esgidiau mawr i’w llenwi wrth olynu arbenigwyr, gan weithio â phobol brofiadol.
Mae hi’n derbyn bod heriau mawr ar yr ynys mae’n rhaid iddi fynd i’r afael â nhw.
“Mae’n fraint, a dweud y gwir,” meddai wrth golwg360.
“Rwy’n cofio bod yn aelod o’r Fforwm pan sefydlwyd o yn 2014.
“Adeg hynny, roeddwn yn gynrychiolydd Penaethiaid Uwchradd Môn ar y Fforwm.
“Pan wnes i adael bod yn Bennaeth a mynd i weithio i’r Cyngor, roeddem yn gyswllt efo’r Fforwm Iaith.
“Wedi ymddeol, gweld bod y swydd yn mynd ac ymgeisio a gwneud llythyr cais am y swydd, ac mae’n fraint ac yn braf cael rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned ar yr ynys, a gweithio efo pobol o bob oed.
“Mae yna bobol frwdfrydig, ymroddedig iawn o gwmpas y bwrdd.
“Rwy’n meddwl fy mod yn lwcus o gael swyddogion Menter Iaith Môn a Swyddogion Môn, Ffreuer Owen o Gyngor Ynys Môn, ac Elen Hughes a Catrin Lois Jones o’r Fenter yn cynorthwyo efo’r ochr gweinyddu a rhedeg y fforwm.
“Yn ddiweddar, rydym wedi cael Dr Lowri Hughes yn is-gadeirydd o Brifysgol Bangor, sy’n dod â môr o wybodaeth a phrofiad yn y gwaith mae hi wedi’i wneud yn y brifysgol, seicoleg dysgu iaith hefyd, felly rydym yn lwcus iawn.
“Yr Athro Derec Llwyd Morgan oedd y cadeirydd cyntaf, ac yna Dr Haydn Edwards.
“Rwy’n teimlo bod gennyf esgidiau mawr i’w llenwi efo’r ddau arbenigwr yna; mi wna i fy ngorau.
“Mae’n fraint cael gweithio ar yr ynys a rhoi rhywbeth yn ôl.
“Rwy’n ddiolchgar am ymroddiad a brwdfrydedd y bobol sydd o gwmpas y bwrdd; gyda’n gilydd, rydym yn gweithio’n gryfach fel arfer.
“Mae’n rhaid i ni wynebu’r degawd nesaf yma sydd am fod yn heriol.
“Mae yna fwy o fewnfudo i’r ynys, mae yna fwy o bobol ifanc yn mynd allan o’r ynys, rydym eisiau denu ein pobol ifanc yn ôl trwy sicrhau gwaith a thai iddyn nhw.
“Mae yna waith caled o’n blaenau.
“Dydy fy mhen i ddim yn y tywod.
“Mae’n swydd wirfoddol, ond yn swydd rwy’n ei hystyried yn bwysig iawn.”
Ffigurau’r Cyfrifiad
Drwy gydweithio ond herio’i gilydd, mae Annwen Morgan yn gobeithio codi nifer siaradwyr Cymraeg yr ynys, ar ôl Cyfrifiad siomedig yn 2021.
“Rwy’n gobeithio parhau efo’r gwaith da sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, lle mae yna fwy o bwyslais ar gydweithio rhwng pob sefydliad,” meddai.
“Yn naturiol, mae’n rhaid bod yn realistig.
“Yn naturiol, dydw i ddim eisiau cadeirio cyfarfod lle mae pawb yn cosi bol ei gilydd.
“Rwy’n meddwl bod o’n bwysig i ni gefnogi ein gilydd, ond herio a gofyn cwestiynau i’n gilydd hefyd.
“Rydym yn edrych ar ffigurau Cyfrifiad 2021 o gymharu â 2011; mi aeth y niferoedd lawr yn Ynys Môn.
“Er hynny, roedd yna sawl ardal arall lle aeth y niferoedd i lawr yn fwy sylweddol.
“O leiaf ein bod ni’n sicrhau bod y niferoedd yn aros yr un fath os nad yn cynyddu [erbyn hyn].
“Y Cyfrifiad yn 2011 oedd 57.2%, a ffigurau’r Cyfrifiad yn 2021 oedd 55.8%.
“Gostyngiad o 1.4%, ond o ran y rhifau, mae hynny’n 1,115 yn llai o siaradwyr.”
Canolbwyntio ar ychydig o bethau’n unig
Drwy ganolbwyntio ar ychydig bethau’n unig, a gosod un neu ddau o dargedau o bob thema, bydd modd cydweithio’n well, yn ôl Annwen Morgan.
“Mae gan bawb eu syniadau eu hunain,” meddai.
“Bydd pawb yn dweud, ‘Mae eisiau canolbwyntio ar y llall’.
“Rwy’n awyddus fel cadeirydd ein bod ni’n canolbwyntio ar ychydig o bethau, eu gwneud nhw’n dda a’u gwreiddio.
“Efo’r Fforwm, mae dros 30 o sefydliadau a mudiadau gwirfoddol – o’r Fenter Iaith i Gyngor Môn i Brifysgol Bangor, Coleg Menai Llandrillo, ysgolion yr Urdd, Ffermwyr Ifanc, Mudiad Meithrin, gwasanaethau brys, yr orsaf radio gymunedol leol, Cymunedau’n Gyntaf ac yn y blaen.
“Mae’r rhain wedi’u rhannu yn is-grwpiau i weithio ar themâu penodol, ac o fewn y themâu hynny ar un neu ddau darged yn unig.”
Y Gymraeg yn y gweithle
“Y themâu ydy’r Gymraeg yn y Gweithle, a’n bod ni’n cynyddu yn y fan yna,” meddai Annwen Morgan wedyn.
“Un targed sydd ganddyn nhw ydy cynnig cyfleoedd i bobol ymarfer eu Cymraeg yn y gweithle – panad a sgwrs, dywedwch.
“Mae hynny’n berthnasol i’r gwasanaeth tân, Prifysgol Bangor, yr heddlu, a’r Cyngor Sir.
“Wedyn, mae gennym ni thema’r teulu a throsglwyddo iaith.
“Un peth sydd wedi digwydd yn y fan yma yw aelodau’r Fforwm yn gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu ap Ogi Ogi.
“Fedrwch chi gael gafael ar ap Ogi Ogi, sy’n cynnig y cyfleoedd sydd gan rieni a gofalwyr ifanc i hybu’r Gymraeg.
“Yn anffodus, mae’r ganran o rieni Cymraeg ar yr ynys â’r ddau riant yn Gymry Cymraeg ac yn penderfynu peidio trosglwyddo’r Gymraeg i’r plentyn yn uchel.
“Mae gennyf gywilydd ei ddweud o, ond mae o’n uchel.
“Rydym wedi cael swm bychan o arian eleni i gael person i hybu’r ap.
“Mae wedi cael ei eni, ond mae eisiau mynd ar ôl pethau wedyn i hybu’r ap ymysg mudiadau meithrin, arweinwyr, cylchoedd gwarchod o bob math, i annog rhieni i ddefnyddio’r ap fel bo chi’n gwybod pwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg a manteisio ar hynny yn addysgol ac yn economaidd.”
Y gymuned a phobol ifanc
Thema arall y Fforwm yw’r gymuned a phobol ifanc, ac “un peth sy’n mynd i ddigwydd efo hwnna ydy prosiect Llwyddo’n Lleol”, meddai.
“Hynny yw, annog mwy o bobol i ymuno efo’r prosiect Llwyddo’n Lleol, i fwy o bobol fod yn ymwybodol ohono fo.
“Mae’n rhaid i addysg fod yn greiddiol i unrhyw gynllun ar yr ynys.
“Mae yna is-grŵp, ac un targed yn y fan yna yw cael yr is-grŵp i gyfarfod yn amlach i fonitro a herio’r targedau sydd yn y cynllun addysg.”
Hybu gwaith y fforwm
Y thema olaf, meddai, yw hybu gwaith y Fforwm.
“Mae pob partner yn rhoi negeseuon cadarnhaol am y Gymraeg,” meddai.
“Un peth ydy gwneud cyfweliad efo golwg360.
“Hefyd, bod pob partner yn gweithio efo’i gilydd.
“Mae’n haws mynd am grant pan mae’r partneriaid yn gweithio efo’i gilydd i dreialu rhywbeth – dyna oedd yr ap Ogi Ogi.
“Rydym am ei wthio fwyfwy eleni fel rhan o waith y Fforwm.”
‘Profiadol ac ymroddedig’
Wrth groesawu Annwen Morgan i’r rôl, mae’r Cynghorydd Dafydd Roberts, deilydd y portffolio Addysg a’r Gymraeg gyda Chyngor Sir Ynys Môn, wedi canmol ei phrofiad a’i hymroddiad.
“Braf yw gwybod fod y Fforwm Iaith yn cael ei arwain gan unigolion profiadol ac ymroddedig i achos y Gymraeg ym Môn,” meddai.
“Does gennyf ddim amheuaeth y bydd arbenigedd a dylanwad y corff yn parhau i dyfu dan eu gofal.”