Mae llefarydd tai’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Cynllun Lesio Cymru, ar ôl darganfod mai dim ond 60 o grantiau sydd wedi’u dyfarnu dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf.

Nod y cynllun yw galluogi mwy o bobol i rentu’n breifat yng Nghymru, a’i wneud yn opsiwn mwy fforddiadwy.

Trwy Gynllun Lesio Cymru, mae cyllid o hyd at £25,000 yn cael ei ddyfarnu i helpu i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd fel gosodiadau preifat.

Mae 16 o awdurdodau lleol yng Nghymru’n cymryd rhan yn y cynllun.

‘Arwydd clir o fethiant Llafur Cymru a Phlaid Cymru’

Ar hyn o bryd, mae 22,457 o gartrefi gwag yng Nghymru – 317 yn fwy na 2022-23 – ac mae hyn yn adrodd cyfrolau am y cynllun, yn ôl Janet Finch-Saunders.

“Mae’n dweud lot bod nifer y tai gwag yn cynyddu a bod y nifer sy’n manteisio ar y cynnig o £25,000 i landlordiaid yn affwysol,” meddai.

“Mae deddfwriaeth a pholisïau Llafur Cymru a Phlaid Cymru sy’n difrïo landlordiaid yn eu gyrru allan o’r sector ac yn atal buddsoddiad.

“Ar Fedi 30, roedd 11,228 o unigolion mewn llety dros dro.

“Mae’n arwydd clir o fethiant Llafur Cymru a Phlaid Cymru fod digon o dai gwag yng Nghymru i ddyrannu dau i bob unigolyn mewn llety dros dro.

“Mae angen diwygio mawr i gadw landlordiaid preifat yn y sector a gweld eiddo gwag yn cael eu hailddefnyddio.

“Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn cael gwared ar y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru), yn rhoi cynigion ar gyfer rheoli rhenti yn y bin, ac yn ymestyn y cynllun Cymorth i Brynu i wagio eiddo sydd angen eu hadnewyddu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai gafodd ei greu gan Lafur.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywyodraeth Cymru.