Mae cronfa “gyffrous” yn helpu i roi bywyd newydd i rai o adeiladau hanesyddol Caernarfon nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio bellach.

Mae’r dref yn elwa ar gyfran o gyllid gwerth £5m sydd â’r bwriad o adfywio rhai o eiddo’r dref sydd yn y fantol.

Mae Galeri Cyf wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi derbyn cyllid refeniw er mwyn dod yn Ymddiriedolaeth Datblygu Treftadaeth, ar ôl derbyn arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Gronfa Dreftadaeth Bensaernïol.

Galeri Caernarfon

Bydd yr arian yn helpu Galeri Caernarfon Cyf gyda’u gwaith hirdymor o helpu i adfer hen adeiladau’r dref, fydd yn cael eu troi’n amrywiaeth o ofodau cymunedol.

Roedd yn un o ddeuddeg o fentrau cymdeithasol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig oedd yn cael cymorth i drawsnewid eu hadeiladau ar y stryd fawr.

Ers i Galeri Caernarfon Cyf gael ei sefydlu yn 1992 (o dan yr enw Cwmni Tref Caernarfon), mae mwy nag ugain eiddo o fewn ffiniau’r dref wedi cael eu prynu a’u hadnewyddu.

Caiff yr eiddo eu defnyddio ar gyfer popeth o siopau, swyddfeydd, siopau trin gwallt, caffis a bwytai sydd, gyda’i gilydd, yn cyflogi dros 200 o aelodau o staff, yn ogystal ag eiddo preswyl sy’n gartref i fwy na 40 o unigolion.

Bydd Galeri yn derbyn pecyn o arian i’w helpu i gynyddu eu gweithrediadau i gaffael ac ailddatblygu amryw o adeiladau hanesyddol lleol.

Gallan nhw wneud cais hefyd am grantiau i gefnogi datblygiadau cynnar prosiectau, a byddan nhw’n cael arweiniad gan ymgynghorwyr a mentoriaid i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth, ochr yn ochr â chefnogaeth cyfoedion i ehangu eu cyrhaeddiad a’u dylanwad.

‘Prosiect cyffrous’

Mae Steffan Thomas, Prif Weithredwr Galeri Caernarfon Cyf, wedi disgrifio’r cynllun fel “prosiect cyffrous”, gan ddweud bod ei sefydliad “yn edrych ymlaen yn fawr at gael bod yn rhan ohono fo”.

Dywed y byddai’n golygu bod Caernarfon, sy’n cael ei chyfrif yn ardal gadwraeth, yn derbyn oddeutu £210,000 dros gyfnod o dair blynedd tuag at brosiectau adnewyddu adeiladau.

Byddai’r arian yn hwyluso ymchwil i astudiaethau dichonolrwydd, yn talu am arolygon ac adroddiadau strwythurol, ac yn manteisio ar adnoddau a gwybodaeth, gan helpu i adnewyddu hyd yn oed mwy o adeiladau Caernarfon.

“Pan gafodd y cwmni ei sefydlu dros 30 mlynedd yn ôl, y prif nod oedd chwarae rhan yn adfywio’r dref,” meddai.

“Roedd oddeutu hanner yr eiddo masnachol o fewn y dref mewn cyflwr gwael, yn wag ac ar werth heb fawr o ddiddordeb gan y sector preifat mewn buddsoddi yn y dref.

“Bydd yr arian hwn yn ein galluogi ni i archwilio cyfleoedd ac, wrth wneud hynny, gwneud cyfraniad pellach i’r gymuned leol, gan roi hwb economaidd i’r dref yn ogystal â gwarchod adeiladu pwysig o ddiddordeb hanesyddol.”

‘Swyddi, cartrefi a chyfleoedd newydd’

“Mae gan dreftadaeth lawer i’w gynnig i lefydd a phobol y Deyrnas Unedig,” meddai Matthew McKeague, Prif Weithredwr y Gronfa Dreftadaeth Bensaernïol.

“Bydd dod ag adeiladau yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol yn gwarchod gorffennol pensaernïol cyfoethog y wlad, tra hefyd yn creu cartrefi, gweithleoedd a lleoliadau cymunedol a diwylliannol newydd pwysig.”

“Dros y deng mlynedd nesaf, rydyn ni’n anelu at fuddsoddi £3.6bn sydd wedi’i godi at achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ac mae’r rhaglen hon yn un ffordd y gallwn ni gefnogi prosiectau o bob maint ledled y Deyrnas Unedig,” meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr y Loteri Genedlaethol.