Mae gan Jeremy Miles gefnogaeth sylweddol gan Aelodau’r Senedd o fewn ei blaid ei hun er mwyn sefyll i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.

Mae nifer wedi datgan eu cefnogaeth i Jeremy Miles ers neithiwr (nos Sul, Rhagfyr 17), sef:

  • Mick Antoniw
  • Julie Morgan
  • Lee Waters
  • Jenny Rathbone
  • Carolyn Thomas
  • Rhianon Passmore
  • John Griffiths
  • Mike Hedges

Maen nhw wedi ychwanegu eu henwau at restr sydd eisoes yn cynnwys Hannah Blythyn, Sarah Murphy ac Alun Davies.

‘Arweinydd a Phrif Weinidog gwych’

“Rydyn ni wedi cymryd yr amser i siarad â’n gilydd ac i ystyried go iawn pwy sydd orau i Gymru, yn y lle cyntaf,” meddai Julie James.

“Mae Aelodau’r Senedd yn gwybod y cyfrifoldeb enfawr sydd gennym ni â’n henwebiadau.

“Barn y mwyafrif o Aelodau Llafur o’r Senedd yw y byddai Jeremy Miles yn arweinydd gwych i’r blaid ac yn Brif Weinidog gwych i Gymru.

“Mae angen rhywun arnom fydd yn estyn allan, yn dod â phobol ynghyd, ac yn gwneud y gwaith anodd fydd ei angen er mwyn sefyll i fyny dros Gymru – yn enwedig gydag etholiad cyffredinol yn dod.

“Mae gan Jeremy yr holl rinweddau sydd eu hangen, a mwy, a dyna pam nad yw’n syndod i mi fod mwyafrif clir o’r grŵp yn y Senedd, gweinidogion sy’n cydweithio â fe yn y llywodraeth, a chriw cyfan 2021 o Aelodau newydd o’r Senedd yn cefnogi Jeremy Miles ar gyfer dyfodol Cymru.”

Hefyd yn ei gefnogi mae pump o ymgeiswyr seneddol sy’n disgwyl ennill seddi yn San Steffan, sef:

  • Kanishka Narayan
  • Andrew Ranger
  • Claire Hughes
  • Gill German
  • Jackie Jones

Bydd Jeremy Miles yn herio Vaughan Gething yn y ras.