Beth yw’r cysylltiad rhwng René Descartes â Simon Cowell? Y cysylltiad rhyngddynt yw’r X yn The X Factor.
Yn Saesneg, mae X yn llythyren ddefnyddiol iawn, iawn! Fe all olygu fod rhywbeth yn anghywir, neu fod person yn dewis rhywbeth neu’i gilydd. Fe all olygu trysor, neu gusan; neu mewn dogfennau cyfreithiol, fod enw person wedi cael ei gadw’n gyfrinach. X yw deg. O gydio’r X wrth air arall, cawn X-rays, The X Factor ac Xmas. Ym mathemateg, mae X yn cynrychioli’r peth na wyddom – system gafodd ei datblygu gan Descartes yn ei La Géométrie yn 1637. Byth ers hynny, mae X wedi cael ei ddefnyddio i gyfeirio at bob math o bethau na wyddom amdanyn nhw: Monsieur X oedd y Mr X cyntaf oll, a hynny yn 1798. Mewn achos llys yn Paris, cyfeiriwyd at dri ysbïwr o Ffrainc dim ond fel X, Y a Z. Caiff pelydr-X ei alw’n belydr-X oherwydd bod Wilhelm Röntegen – yr Almaenwr a’i darganfyddodd – yn methu dweud beth yn union oedd y peth a ddarganfyddodd!
Sydd yn ein harwain at The X Factor. Yn 1930, The X Factor oedd yr hyn na wyddom am ambell afiechyd arbennig, ac oherwydd nad oeddem yn gallu cydio yn The X Factor hwnnw, roedd trin yr afiechyd yn anodd iawn. Yn 1972, The X Factor oedd yr hyn ynom fel pobol oedd yn ein harwain i wneud pethau drwg. Dim ond yn 2003 y daeth The X Factor i feddwl y peth cwbl arbennig hwnnw a berthyn i seren y byd adloniant. Susan Seidelman oedd y person cyntaf, gyda llaw, i ddefnyddio’r ymadrodd a hynny i sôn am Madonna yn The New York Times.
Mae’r talfyriad X yn cynrychioli Crist. Ers canrifoedd lawer, bu hyn yn gwbl dderbyniol, ond erbyn hyn mae mwy a mwy o Gristnogion yn teimlo bod Xmas yn amharchus o Iesu, yn arwydd bod diwylliant y Gorllewin yn dymuno cael dileu Crist o’r Nadolig cyfoes. Gellid cywasgu’r ddadl i un ymadrodd bach syml: ‘Put Christ back into Christmas!‘ Mae’r syniad ‘Put Christ back into Christmas!‘ yr un mor chwerthinllyd â phe bawn yn gofyn i NASA osod yr haul yn ôl yn y gofod! Nid yw’r haul wedi symud dim, a ta faint o bobol sy’n dweud nad yw’r haul yn bwysig, mai ffrwyth dychymyg y rhai ffôl yw’r haul, mae’r haul yno, yno erioed, yno am byth.
Ac er tegwch i Siôn a Siân ap Seciwlar, pam yn y byd y buasai’r bobol hyn yn dymuno gosod Crist yng nghanol eu dathliadau Nadolig? Pam ddylai fod rheidrwydd arnyn nhw? Onid oes hawl ganddyn nhw i ddewis yr hwyl heb yr Ŵyl? Ffolineb yw mynnu ei bod nhw’n gosod Crist yng nghanol eu dathliadau os nad ydyn nhw yn credu ynddo! Mae tueddiad Cristnogion i ddefnyddio sloganau fel ‘Put Christ back into Christmas! a ‘Remember the reason for the season!‘ yn gwneud llawer mwy o niwed nag o les i’n tystiolaeth ni fel pobol ffydd.
Efallai mai’r peth gonest i’w wneud fel pobol ffydd fuasai peidio swnian a chwyno rhagor am natur y Nadolig cyfoes, ond yn hytrach camu’n ôl – reit ’nôl – o’r rhialtwch i gyd. Gweithio a chydweithio i dynnu Iesu’n rhydd o ffolineb y Nadolig. Dychmygwch pe bai’r eglwys, yn lleol a chenedlaethol, yn gwrthod taenu’r haenen denau arferol o eisin crefydd dros wyneb cacen drwm y gorwario a’r gorfwyta a’r goryfed blynyddol rhagor. Dychmygwch pe bai’r eglwys Gristnogol ledled byd – pob lliw, llun a llewyrch ohoni – yn gwrthod yr hawlfraint ar bopeth o garolau i ddarlleniadau o’r Beibl. Dychmygwch pe bai gweinidogion ac offeiriaid yn cynnal mis o rolling industrial action ar draws yr enwadau er mwyn i bobol gael deall bod yn rhaid bellach, er tegwch i bawb, ysgaru’r ddealltwriaeth Gristnogol o’r Ŵyl o ddehongliad gwyrgam cymdeithas ohoni.
Dw i’n dychmygu rhai ohonoch yn crychu talcen. Os felly, cofiwch fod cynsail mewn hanes i’r syniad hwn. Am bedair canrif – y cyfnod gorau yn hanes yr eglwys Gristnogol, digwydd bod; cyfnod o dyfiant, iechyd a gonestrwydd – nid oedd y fath beth â Dydd Nadolig. Nid oedd yr Eglwys Fore yn gweld angen am Ddydd Nadolig, na Sul y Pasg, na Sul y Pentecost. Nid oedd angen yr uchel wyliau yma arnyn nhw, a hynny gan fod pob Sul yn uchel ŵyl, pan ddathlid holl ystod rhyfeddod ein ffydd. Dychmygwch gydio yn y weledigaeth honno heddiw!
Ond cwbl ofer yw dychmygu’r fath beth. Mae’r peth yn amhosibl, wrth gwrs. Pe bawn yn torri gwreiddiau’r Nadolig cyfoes, buasai’r peth yn dal i ffynnu. Datblygodd ei fywyd a’i fomentwm ei hun erbyn hyn. Ond pe bawn yn llwyddo ddim ond i ystyried hyn oll yn onest a chywir, dw i’n credu y buaswn yn dod yn nes at wir ystyr y Nadolig! Clywch ddyhead John Donne: “I need thy thunder, O! God, thy songs will not suffice me.” Ni all I Wish it could be Chistmas every day ein digoni – gwyddom hynny yn y bôn – mae angen cael clywed dwndwr a dadwrdd mellt a tharanau’r ffaith syfrdanol i Dduw ddod atom – Duw’n bod mewn plentyn bach. Torrodd storm o gariad ym Methlehem. Ni chudd holl ganeuon gwag y Nadolig cyfoes mo sŵn y storm oesol honno, ac ni chudd yr holl dinsel yn y byd y gwirionedd hwn: mae’r Nadolig yn her i’n crefydd, yn her i’n ffydd, i’n gobaith, i’n cariad; yn her i’n perthynas â’n gilydd ac â Duw. Ydi, mae’r Efengyl yn cynnig noddfa rhag y storm, craig safadwy mewn tymhestloedd, pwyll yng nghanol y cyffroadau, ond byddwn ofalus rhag gwneud yr Efengyl yn hwiangerdd. Mae hi ar ben arnom os llwyddwn i ddathlu’r Nadolig heb i ni, rywsut, rywbryd, orfod dal ein hanadl oherwydd i ni glywed sŵn a chyffro mawr y Gair a wnaed yn gnawd.
Mae’n rhaid i ni dderbyn her y geni herfeiddiol hwn cyn ein bod ni’n gallu ei ddathlu go iawn. Dim ond o dderbyn yr her y cawn brofi o wir ac oesol X Factor y Nadolig.