Pwy ddywedodd fod rhaid i bryd da o fwyd gynnwys cig neu bysgodyn? Wrth i’r slow cookers ddod allan o’u cypyrddau yn eu miloedd, rydyn ni gyd yn chwilio am fwyd i’n cynhesu dros y gaeaf; bwyd maethlon ond hawdd ei baratoi. Beth am roi tro ar bryd bwyd Nŵdls Sbeislyd Thai, felly? Maen nhw’n iawn i’w paratoi, ac mi fedrwch chi ychwanegu llysiau neu sbeisys wrth eich blas.

Mae nŵdls Thai kuay teow neu pad thai yn dyddio’n ôl canrifoedd, gyda ryseitiau’n cael eu hailadrodd, eu dyblygu a’u hamrywio drwy gydol hanes. Cafodd nŵdls eu cyflwyno i Wlad Thai gan fewnfudwyr o Tsieina oedd wedi setlo yn y wlad gannoedd o ganrifoedd yn ôl. Does dim rhyfedd eu bod nhw’n parhau mor boblogaidd. Maen nhw’n flasus, yn faethlon ac yn syml ddigon i’w paratoi.


Beth fydda i ei angen?

1 pwys o linguine

2 lwy fwrdd o olew olewydd

2 ŵy mawr, wedi’u curo’n ysgafn

½ llwy de o bupur coch wedi’i falu

8 owns o fadarch wedi’u torri

4 segment o arlleg wedi’u torri

2 lwy fwrdd o siwgr brown

⅓ cwpan o saws soy sodiwm isel

1½ llwy fwrdd o saws poeth Sriracha

2 fodfedd o sinsir ffres wedi’i gratio

1 llond llaw o goriander ffres wedi’i dorri

4 nionyn gwyrdd wedi’u torri


Coginio

Llenwch bot stoc fawr hyd at hanner ffordd â dŵr, halen, a dewch ag e i bwynt berwi. Ychwanegwch linguine a choginio yn unol â chyfarwyddiadau’r pecyn. Draeniwch a’i neilltuo am y tro.

Mewn powlen maint canolig, rhowch siwgr brown, saws soy, sriracha a sinsir; cymysgwch yn dda gyda chwisg a’i neilltuo am y tro.

Yna, rhowch y pot stoc mawr i mewn i’r stôf, cynheswch dros wres canolig, ychwanegwch lwy fwrdd o olew olewydd. Ychwanegwch wyau wedi’u curo, a darnau man o bupur coch, a’u troi i sgramblo’r wyau. Ar ôl ei goginio, rhowch y pasta o’r neilltu.

Dychwelwch y pot stoc mawr i’r stôf, cynheswch un llwy fwrdd o olew dros wres canolig. Ychwanegwch fadarch a garlleg. Ffrïwch dros wres canolig-uchel am bump i chwe munud, neu nes bod y llysiau wedi’u coginio drwyddyn nhw.

Trowch y gwres i lawr i isel, ychwanegwch y pasta a’r wyau yn ôl i’r pot, yna arllwyswch y cymysgedd saws dros y top. Gan ddefnyddio llwy bren, cymysgwch yn dda i orchuddio pasta a llysiau â saws. Tynnwch oddi ar y gwres, ac ychwanegu nionod gwyrdd, a choriander ffres – trowch y cyfan wedyn i’w cyfuno.

Mae’n barod i’w fwynhau!