Mae’r nosweithiau yn fyr a thywyll, a’r Nadolig rownd y gornel. Ond yr un peth sy’n parhau’n fwy anodd nag erioed yw’r cwestiwn, ‘Beth gawn ni i swper heno?’ Gydag ychydig o gynhwysion yn unig, dyma un pryd syml a maethlon i fodloni’r teulu.


Gyda dim ond pum munud o amser paratoi a deng munud o dan y gril, dyma’r dewis perffaith os ydych chi am goginio rhywbeth maethlon, a gwneud hynny yn gyflym. Gall brest twrci fod ychydig yn sych ar adegau, ond gyda marinâd hyfryd i gyd-fynd ag o, cawn bryd blasus.

Dywedir bod y math hwn o Shish kebab wedi tarddu’n wreiddiol o Iran (Persia), ond maen nhw’n cael eu mwynhau ar draws y Dwyrain Canol. Gellid defnyddio Twrci fel dewis arall yn lle cig coch. Mae’n flasus, ond hefyd yn uchel mewn protein ac yn isel mewn braster.

 

Beth fydda i ei angen?

Twrci (1.066kg)

2 bupur gwyrdd

2 bupur coch

2 lwy fwrdd o olew olewydd

1 llwy de o paprika

1 llwy de o turmeric

1 llwy de o cumin

3 chlof garlleg

Pupur a halen (yn ôl eich blas)

Lemwn (sblash)

Parsli (chwarter cwpanaid)

Bara pitta

1 nionyn


Coginio

Cymysgwch yr olew, sbeisys, garlleg, pupur a halen, sudd lemwn a pharsli mewn powlen ar gyfer marinad y twrci.

Rhowch y darnau twrci yn y bowlen ac ychwanegu’r marinâd.

Cymysgwch yn dda a’i roi yn yr oergell am o leiaf ddwy awr.

Rhowch y twrci gyda marinad ar sgiwerau wedi’u socian ymlaen llaw.

Ychwanegwch bupur gwyrdd a choch gyda nionyn rhwng y darnau twrci.

Rhowch y sgiwerau dan y gril am ddeng munud, gan eu troi’n rheolaidd.

Mwynhewch!