Mae nyrsys yn aml yn cael eu “gwthio” i weithio dros gyfnod y Nadolig, yn ôl un nyrs yn ardal Arfon sydd wedi bod yn siarad â golwg360.
Mae’r nyrs, sydd eisiau aros yn ddienw ac a oedd wedi cymhwyso yn 2012, yn dweud ei fod e wedi gweithio saith Dydd Nadolig hyd yn hyn a bod hynny’n anghyfleus gan fod ganddo blant.
Teimla fod ei reolwyr yn manteisio arno, ac yntau’n cyfaddef ei fod yn “pushover“, ac y dylai fod system decach yn ei lle i rannu’r baich gwaith dros gyfnod y Nadolig.
Sefyllfa “anodd”
“Cymhwysais fel nyrs yn 2012, felly rwy’ wedi bod yn nyrs ers unarddeg mlynedd,” meddai’r nyrs wrth golwg360.
“Rwy’ wedi gweithio saith diwrnod Nadolig ers cymhwyso yn 2012.
“Pan dw i heb weithio Dydd Nadolig, rwy’ wedi bob amser wedi gweithio Dydd San Steffan neu Noswyl Nadolig, ac yn aml y ddau.”
Gan fod angen gofal ar bobol fregus, mae’n deall fod yn rhaid i rywun weithio ar Ddydd Nadolig.
‘Blacmêl emosiynol’
Serch hynny, dydy’r baich ddim yn cael ei rannu’n deg, meddai, ac yntau’n teimlo ei fod yn cael ei “wthio” i weithio yn aml iawn.
“Mae’n un anodd,” meddai.
“Rwy’n meddwl mai’r broblem ydy bod rhywun yn gorfod gweithio Ddydd Nadolig.
“Mae pobol yn teimlo bob tro, ‘Na, dw i ddim eisiau gweithio’r Nadolig’.
“Mae gennyf fi deulu. Mae gennyf fi blant. Rwy’ eisiau bod efo pobol rwy’n eu caru.
“Wedyn dydy pawb methu cael amser i ffwrdd dros y Nadolig.
“Rwy’n teimlo bod rhai sydd wedi cymhwyso’r un faint â fi wedi gweithio tua dau Nadolig, ond rwy’ wedi gweithio saith Nadolig.
“Yn y ffordd yna, dydy hi ddim yn deg.
“Yn aml, rwyt ti’n cael dy wthio mewn iddo.
“Mae gennyt ti reolwyr, ac maen nhw’n gwthio chdi mewn iddo fo.
“Maen nhw’n dweud, ‘Dydy so-and-so methu gwneud o oherwydd bod ganddyn nhw blant bach’, neu ‘Dydy so-and-so methu gwneud o oherwydd bod hi’n fam sengl’.
“Mae pobol yn blacmêlio chdi’n emosiynol.
“Rwy’n meddwl bo nhw’n gwthio fi mewn iddo fo oherwydd fy mod yn pushover.
“Llynedd, fe wthion nhw ni mewn iddo fo oherwydd fy mod wedi cael y flwyddyn gynt i ffwrdd.”
Annheg ar blant
Dywed y nyrs fod y ffaith y bu’n rhaid iddo weithio ar Ddydd Nadolig dros y blynyddoedd wedi cael cryn effaith ar ei blant.
“Pan mae gennyt ti blant, mae’n anghyfleus gweithio’r Nadolig,” meddai.
“Dydy dy blant ddim eisiau i chdi weithio’r Nadolig.
“Roeddem yn gorfod dod â’n mab i’r gwaith.
“Dydy o ddim eisiau bod yn ein gweithle dros y Nadolig.
“Dydy o ddim yn neis iddo fo.
“Mae gan blant bethau gwell i’w gwneud dros y Nadolig na dod i’r gwaith efo mam a dad.”
Angen “system decach”
Yn ôl y nyrs, mae angen system decach – naill ai drwy rota neu droi at asiantaeth.
“Dylai o gael ei rannu allan yn decach,” meddai.
“Efallai y dylen nhw gael system yn ei lle, lle rydych yn cylchdroi – ‘Os wyt ti’n gweithio’r Nadolig yma, wna’i weithio’r Nadolig nesa’.
“Y broblem ydy, mae pobol yn mynd a dod, staff yn mynd a staff newydd yn dod i mewn.
“Efallai y dylen nhw ddefnyddio asiantaeth weithiau i ddiolch i nyrsys.
“Ond mae’n costio llawer mwy o arian.
“Dydy pobol sy’n gweithio i asiantaethau ddim yn gorfod gweithio’r Nadolig, ond gwnân nhw weithio’r Nadolig oherwydd bod y cyflog yn dda.
“Mae pobol yn dweud, ‘Ga’i £1,000 am weithio shifft Nadolig, wna i ei weithio fo’, tra, efo fi, byddwn yn cael llai na hanner hynny, ond maen nhw’n dweud bod ti’n gorfod gwneud o.”
Edrych ymlaen at y Nadolig
Mae’r nyrs yn dweud ei fod yn bwriadu mwynhau’r Nadolig gyda’i deulu, ac yntau wedi llwyddo i gael Dydd Nadolig a Dydd San Steffan i ffwrdd o’r gwaith am y tro cyntaf.
“Rwy’n lwcus iawn y Nadolig yma,” meddai.
“Rwy’ wedi ei gael o i ffwrdd.
“Dydy hyn ddim yn rywbeth sydd yn digwydd yn aml.
“Rwy’ am fwynhau’r Nadolig yma a gwneud y mwyaf o’r cyfnod, oherwydd methais i’r Nadolig diwethaf.
“Rwy’ am dreulio amser gyda’r teulu a chael cinio Nadolig neis, agor anrhegion, chwarae gemau, a chael diod neu ddau i ddathlu bo fi wedi cael y Nadolig i ffwrdd.
“Dydw i ddim yn gweithio Boxing Day, ond rwy’n gweithio Noswyl Nadolig.”