Mae Cultúrlann Uí Chanáin – mudiad sy’n hybu’r celfyddydau, y diwylliant a chreadigrwydd trwy gyfrwng yr iaith Wyddeleg yn Iwerddon – wedi cyhoeddi cynllun gwirfoddolwyr newydd.

Yn ôl adroddiadau, y nod yw sicrhau bod siaradwyr Gwyddeleg rhugl yn ymwneud â’u cymunedau a chynnig cyfleoedd iddyn nhw gryfhau eu sgiliau yn yr iaith.

Ymhlith y rolau fydd yn cael eu cynnig mae stiwardio digwyddiadau, croesawu ymwelwyr a chynorthwyo â digwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan Cultúrlann Uí Chanáin.

Siaradwyr rhugl fydd yn cael y flaenoriaeth wrth recriwtio yn y lle cyntaf, cyn i’r cynllun gael ei ymestyn i siaradwyr llai hyderus a siaradwyr newydd, fydd yn cael cefnogaeth a hyfforddiant i ddefnyddio’r iaith yn fwy hyderus.

Does dim angen cymwysterau ffurfiol yn yr iaith, yn ôl y trefnwyr, ond maen nhw’n gofyn bod gan ymgeiswyr lefel uchel o Wyddeleg ar lafar.