Ar ddiwedd blwyddyn brysur mae rhai o wynebau cyfarwydd y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn edrych yn ôl ar “flwyddyn gymysg”…

Heb os, mae hi wedi bod yn flwyddyn fyrlymus arall yn y byd gwleidyddol a hynny ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol.

Yn wahanol i’r llynedd, dim ond un Prif Weinidog fuodd wrth y llyw yn San Steffan eleni gyda Rishi Sunak yn llwyddo i aros yn 10 Downing Street am flwyddyn gron.