Dyma ni ar derfyn blwyddyn a’r arferiad yw rhoi’r deuddeg mis diwethaf yn y glorian a cheisio’i chwmpasu gyda straeon a sgyrsiau am uchafbwyntiau.

Ac mae sawl un o’n gohebwyr am gyfrannu at y sgwrs honno yn y rhifyn hwn.

Cewch flas ar bigion celfyddydol 2023, y gorau o’r byd pop Cymraeg a’r flwyddyn wleidyddol a fu.

Hefyd yn y rhifyn hwn fe gewch chi gerddi a straeon amserol gan rai o enillwyr y prif wobrau llenyddol yn y Brifwyl eleni – Alan Llwyd, Meleri Wyn James a Rhys Iorwerth.