Yr Ymgynghorydd Cwnsela Arbenigol Wynford Ellis Owen yn rhoi cyngor i ddynes sy’n methu maddau ar ôl i gyfaill wneud tro gwael â hi…

Annwyl Wynford,

Fe wnaeth cyfaill dro gwael iawn â mi’r llynedd, a dw i’n corddi mewn dig o hyd am beth wnaeth hi imi – a dwi’n ei chasáu. Roedden ni’n gweithio i’r un cwmni ers blynyddoedd ac yn fuan ar ôl i fi gael dyrchafiad i swydd newydd o fewn y cwmni, fe wnaeth hi honiadau fy mod wedi ei bwlio hi pan oedden ni’n gweithio efo’n gilydd. Fe wnaeth hi ddefnyddio llawer o fanylion personol roedd hi wedi dysgu amdana’i dros y blynyddoedd i droi’r stori yn f’erbyn. Wnes i golli fy swydd a fy enw da o ganlyniad a ches fy mhardduo yn gyhoeddus mewn tribiwnlys cyflogaeth. Dw i’n deffro yn y nos ac yn methu cysgu nôl wedyn, ac mae dial ar fy meddwl. Dw i’n mynd i le tywyll iawn. Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau all adfer tawelwch meddwl imi?

Tyrd imi wneud un peth yn glir o’r cychwyn – nid be sy’n digwydd i ni sy’n bwysig, ond sut ydan ni’n ymateb i be sy’n digwydd i ni. Dyna pam na fyddaf yn rhoi unrhyw sylw ar hyn o bryd i’r celwydd honedig ddywedwyd amdanat, y cyhuddiad o fwlio, na’r tribiwnlys cyflogaeth arweiniodd atat ti’n cael dy bardduo’n gyhoeddus, a cholli dy swydd a’th enw da.

Rydym ni’n gyfrifol am ‘sgubo ochr ni o’r stryd – ac ochr ni o’r stryd yn unig! Felly, yn lle canolbwyntio ar dy gyn-gydweithwraig, ei beirniadu a’i chondemnio am achosi’r fath drawma i ti, byddwn yn canolbwyntio ar dy ymateb i’r hyn ddigwyddodd i ti – y dig sy’n corddi ynot ac sy’n dy rwystro rhag cysgu’r nos oherwydd y dial sydd ar dy feddwl. Dyw hyn ddim i ddiystyru’r trawma sydd wedi digwydd i ti – ond y flaenoriaeth yw esmwytho’r anhydrinedd sy’n ganlyniad iddo.

Gyda llaw, nid y dig rydan ni’n ei deimlo tuag at rywun neu rywbeth sy’n difetha ein bywydau ni, ond yr ysfa i dalu’r pwyth yn ôl, i ddial – hwnnw sy’n ein handwyo ni’n ysbrydol. Ac yn ôl dy ddisgrifiad di o’r lle tywyll rwyt ti’n mynd iddo, mae’n glir nad yw bywyd sy’n cynnwys dicter dwfn yn arwain at ddim ond oferedd a thristwch. Mae’n un o’r diffygion cymeriad hynny y dylid eu hosgoi ar bob cyfri. Wrth goleddu’r fath deimladau o ddig, byddwn yn creu llen rhyngom ni a heulwen yr Ysbryd. Dy helpu di, yn y lle cyntaf, i ddileu’r dig a’r casineb, felly, yw amcan y llith arbennig hon.

Flynyddoedd lawer yn ôl fe wnaeth rhywun dro gwael iawn â mi hefyd – ac fe ddaeth o’n elyn penna i mi’n syth bin, ma’ gen i ofn. A waeth i mi gyfaddef ddim, dros y blynyddoedd fe ddywedais i bethau digon annifyr ac annymunol amdano fo wrth bobol eraill. Ond, flynyddoedd yn ddiweddarach, mi wnes i sylweddoli nad oedd coleddu teimladau negyddol fel hyn tuag at unrhyw un yn beth iach iawn i’w wneud. Bod rhaid i mi faddau iddo a gwneud iawn iddo os oeddwn i am fyw’r math o fywyd ro’n i’n gobeithio’i fyw erbyn hynny.

Mae’n anodd yn tydi? Dyw maddeuant ddim yn rhywbeth ‘da ni’n gofyn amdano. Tydi o ddim yn gweithio fel yna. Mae maddeuant yn rhywbeth ‘da ni’n ei roi. ‘For-giving’ yw’r gair Saesneg amdano. A tydi o ddim yn golygu, chwaith, bod y person arall yn cael osgoi cyfrifoldeb am yr hyn mae o neu hi wedi’i wneud. Efallai bod y person hwnnw’n wenwynig i ni ac y gallai ein niweidio ni eto. Felly, mae’n ddyletswydd arnon ni i wneud yn siŵr ein bod yn cadw’n hunain yn saff – ac, o bosib, yn tynnu’i enw oddi ar ein rhestr cardiau Nadolig, neu’i osgoi’n gyfan gwbl.

Ond mae o yn golygu eich bod yn dadfachu eich hun rhag gadael i rywun arall tyda ni ddim yn licio, o bosib, benderfynu sut ydym ni’n teimlo a sut ydym ni’n meddwl. Gweithred hunanol ydi maddeuant yn y bôn, felly. Rydym yn ei wneud er ein lles ni ein hun.

 

Caru’r gelyn

Ond yn gyntaf, wrth gwrs, mae’n rhaid cyrraedd y stad o barodrwydd i faddau. Y rhan yna sy’n anodd yn de? A dyna pryd mae ‘caru eich gelynion’ yn dod yn rhan o’r hafaliad.

I’r pwrpas hwnnw, dw i am iti ddweud y weddi hon, cyn cysgu bob nos a’r peth cyntaf cyn codi bob bore am bythefnos. Deud y weddi hyd yn oed os nad wyt ti’n credu gair o beth rwyt ti’n ei ddweud, a dy fod yn ei dweud dan ysgyrnygu. Deud hi os nad wyt ti’n credu mewn gweddi, hyd yn oed. Deud hi beth bynnag.

“Dw i’n dymuno’n dda i (enw’r person rwyt ti angen maddau iddi). Dw i’n gweddïo y bydd yn cael popeth y byddwn yn deisyfu i mi fy hun. Dw i’n gweddïo y bydd yn cael iechyd, hapusrwydd, a llwyddiant ym mhopeth mae’n wneud – ac yn lle bynnag y mae. Amen.”

A dyna wnes i – deud yr union weddi yna. Bythefnos yn ddiweddarach – fel y byddi dithau – ro’n i’n barod i o leiaf ystyried maddau, er mwyn rhyddhau fy hun i fyw bywyd gwell. Ac, mewn Twmpath Dawns leol, o bob lle, mi wnes i siarad â’r person oedd wedi gwneud tro gwael â mi, a maddau iddo yn ogystal ag ymddiheuro iddo fo am fy ymddygiad ac am yr holl bethau cas ro’n i wedi’u deud amdano.

Sioc

Ond och a gwae! Y sioc fawr i mi oedd bod dim byd wedi newid. Ro’n i’n dal i’w gasáu o! Roedd rhywbeth wedi mynd o’i le mae’n amlwg. Doedd beth oedd fod i ddigwydd ddim wedi digwydd.

A dyna pryd wnaeth ffrind i mi ddweud hyn wrtha i. “Wynford, does dim rhaid i ti licio pawb, wyddost ti. Mi elli di garu pawb. Ond does dim rhaid i ti licio pawb. Pam na roi di ganiatâd i ti dy hun i beidio licio’r person yma – ei gasáu o hyd yn oed, os mai dyna rwyt ti’n teimlo?”

A dyna wnes i. A dyna pryd ddigwyddodd y wyrth i mi. Unwaith rois i ganiatâd i mi fy hun i beidio licio’r person yma – fy mod i’n ei gasáu o mewn gwirionedd – fe syrthiodd y casineb tuag ato fo oddi ar fy ysgwyddau fel rhyw glogyn trwm yn syrthio’n llipa i’r llawr. Mwyaf sydyn ro’n i’n licio’r person! A wyddoch chi be? Byth ers hynny rydan ni wedi bod yn ffrindiau da – yn ffrindiau go-iawn. Erbyn hyn, dwi’n falch o fedru deud fy mod i’n ei garu.