Mae cwmni Primark yn dweud nad oes ganddyn nhw bolisi sy’n atal gweithwyr rhag gwisgo dillad Gwyddeleg, ar ôl i weithiwr gael ei beirniadu am wisgo siwmper Nadolig yn yr iaith frodorol yn Belfast.

Mae’r cwmni wedi ymddiheuro am y digwyddiad ar ôl i’r ddynes gael ei galw i swyddfa’r siop yn sgil “mater sensitif”.

Cafodd hi wybod yn ystod y sgwrs nad oedd hawl ganddi wisgo siwmper yn dwyn y geiriau “Nollaig shona” (Nadolig Llawen yn yr iaith Wyddeleg), gan y gallai sarhau rhai pobol.

Ond yn fwy rhyfedd fyth, cafodd hi wybod y byddai gwisgo siwmper mewn ieithoedd eraill wedi bod yn dderbyniol gan y cwmni.

Bellach, dywed Primark eu bod nhw’n “cefnogi gweithle cynhwysol lle dylai pawb deimlo bod croeso iddyn nhw yn y gwaith”, gan ychwanegu nad oes ganddyn nhw bolisi sy’n atal y defnydd o’r iaith ar ddillad gwaith.

Maen nhw’n dweud mai “digwyddiad unigol” oedd hwn, ac y byddan nhw’n rhoi rhagor o arweiniad i staff ynghylch eu polisi gwisgoedd.