Mae llawr gwaelod Amgueddfa Parc Howard yn Llanelli wedi’i ailagor i’r cyhoedd yn dilyn gwaith adnewyddu, gan roi cyfle o’r newydd i ymwelwyr gael blas ar hanes y dref.

Yn ôl Hazel Evans, yr Aelod Cabinet ar Gyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, mae’n bwysig i drigolion ac ymwelwyr gael cyfle i edrych yn ôl ar hanes pwysig tre’r Sosban.

Fel rhan o’r gwaith adnewyddu, mae’r amgueddfa bellach yn cynnwys arddangosfeydd creadigol a hanesyddol newydd.

Caeodd yr adeilad nodedig yn Llanelli yn 2021 fel rhan o raglen uchelgeisiol i’w adnewyddu a’i foderneiddio, gan gynnwys uwchraddio systemau a gwneud gwaith adnewyddu mewnol.

Mae mynediad am ddim i Amgueddfa Parc Howard, ac mae ar agor i ymwelwyr rhwng dydd Iau a dydd Sul bob wythnos, rhwng 10.30yb a 3.30yp.

Yn dilyn y gwaith, mae’n cael ei ailagor mewn dau gam, gyda’r orielau ar y llawr gwaelod wedi’u hailagor ddechrau’r mis yma, ac mae disgwyl i weddill yr amgueddfa ailagor adeg y Pasg y flwyddyn nesaf.

Mae Parc Howard yn rhan o deulu CofGâr, sef Gwasanaeth Amgueddfeydd a Chelfyddydau Cyngor Sir Caerfyrddin.

Cyfleusterau

Mae mynedfa newydd i ymwelwyr yn gwella’r mynediad i’r plasty hanesyddol gafodd ei roi gan ei berchnogion fel amgueddfa gyhoeddus yn 1912 i dref Llanelli.

Mae llwybr ymwelwyr newydd drwy’r amgueddfa yn archwilio penodau o hanes Llanelli.

Daw ymwelwyr ar draws siop anrhegion newydd sbon hefyd, a honno’n cynnig diodydd poeth, byrbrydau a hufen iâ.

Mae digonedd o lyfrau, teganau a rhoddion bach ar gyfer hosanau Nadolig i’w cael yno hefyd.

Straeon crochenwaith

Mae arddangosfa Straeon Crochenwaith Llanelli yn benllanw prosiect ymgysylltu â’r cyhoedd dros ddwy flynedd a gafodd ei ariannu gan Gronfa Gasgliadau Esmée Fairbairn.

Mae’r arddangosfa, sy’n addas i’r teulu cyfan, yn rhoi llwyfan i gasgliad helaeth yr Amgueddfa o grochenwaith, drwy rannu straeon am y crochenwaith a’r gweithwyr.

Ers 1912, mae oriel luniau wedi bod ym Mharc Howard, ac mae’r arddangosfa newydd yn ail-greu’r arddull draddodiadol o’r cyfnod hwnnw i arddangos paentiadau o gasgliad celf y Sir.

Erbyn y Pasg, bydd yr amgueddfa’n cynnwys arddangosfeydd newydd ynghylch hanes Parc Howard a Stori Llanelli, oriel ryngweithiol hwyliog a rhaglen arbennig o arddangosfeydd.

Hefyd, mae cynlluniau ar y gweill i gael man eistedd ar y patio o flaen Amgueddfa Parc Howard er mwyn i ymwelwyr ymlacio gyda diod a byrbryd wrth fwynhau golygfeydd o’r parc.

Cefnogaeth y cynghorau sir a thref

Mae gwaith adfer Parc Howard wedi’i ariannu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ac mae’r arddangosfeydd newydd wedi’u cefnogi gan gyfraniad hael Cyngor Tref Llanelli.

Mae Cyfeillion Amgueddfa Parc Howard wedi rhoi eitemau newydd i’r amgueddfa er mwyn cyfoethogi’r arddangosfeydd newydd hefyd.

Mae CofGâr a Chyngor Sir Caerfyrddin yn dweud eu bod nhw’n ddiolchgar i’r unigolion a’r partneriaid cymunedol niferus sydd wedi cyfrannu mewn ffyrdd gwahanol at y prosiect hwn, ac sy’n parhau i roi o’u hamser i gefnogi stori Amgueddfa Parc Howard.

Yn ôl y Cynghorydd Hazel Evans, mae’r Cyngor Sir yn falch iawn o groesawu ymwelwyr i’r amgueddfa, ac mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Llanelli wedi gwneud buddsoddiad hael, gyda phartneriaid cymunedol wedi cydweithio â nhw hefyd.

“Rydym yn falch iawn o groesawu ymwelwyr yn ôl i Amgueddfa Parc Howard, un o’r trysorau poblogaidd yn nhreftadaeth ddiwylliannol Llanelli,” meddai wrth golwg360.

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o fod wedi gwneud y buddsoddiad uchelgeisiol hwn yn nhreftadaeth Llanelli.

“Maen nhw wedi cyfrannu swm sylweddol o arian i sicrhau dyfodol yr amgueddfa wrth ail wneud y to ac ailwneud tu mewn.

“Mae rhagor i ddod, lle bydd pethau yn cael eu gwneud yn ddigidol ar yr ail lawr.

“Rydym yn ddiolchgar am gymorth hael Cyngor Tref Llanelli, yn ogystal â Chyfeillion Amgueddfa Parc Howard a’n holl bartneriaid cymunedol.

“Maen nhw i gyd wedi gweithio gyda’i gilydd i helpu beth oedd amcan yn Sir Gâr – ailagor Parc Howard. Maen nhw wedi gweithio’n dda.”

‘Rhannol greadigol, rhannol hanesyddol’

Dangosodd ymgynghoriad diweddar fod pobol yn gweld hanes Llanelli yn bwysig, ac i’r perwyl hwnnw mae’r arddangosfa’n rannol greadigol, rhannol hanesyddol.

“Rydym yn edrych ymlaen at yr ail gam y flwyddyn nesaf o ran ailagor, pan fydd ymwelwyr yn gallu mwynhau profiadau hyd yn oed yn fwy cyffrous a rhyngweithiol yn yr orielau ar y llawr cyntaf,” meddai Hazel Evans wedyn.

“Maen nhw am gael gwybodaeth am beth sydd yn hanesyddol yn lleol i Lanelli.

“Cafodd ymgynghoriad ei wneud i weld beth oedd pobol Llanelli eisiau cael gweld yn yr amgueddfa.

“Mae hanes cynnar Llanelli yn bwysig iawn.

“Mae’n bwysig i bobol wybod beth sydd wedi mynd ymlaen yn Llanelli cynt.

“Mae’n hanesyddol i blant a hefyd i drigolion, perthnasau neu ffrindiau oedd â theulu neu ffrindiau yn gweithio yn y llefydd gwneud pottery yn Llanelli.

“Mae hefyd artistiaid lleol sydd wedi cyfrannu lluniau i ni.

“Mae crochenwaith yn cyfleu hanes Llanelli.”

Caffaeliad mawr i’r gymuned

Yn ôl y Cynghorydd Nicholas Pearce, Maer Tref Llanelli, bydd y datblygiad o fudd i’r gymuned ddeall hanes Llanelli.

“Mae Cyngor Tref Llanelli yn falch iawn o weld gwaith ailddatblygu Amgueddfa Parc Howard bron wedi’i gwblhau,” meddai.

“A bydd y cyfleuster hwn wedi’i ddiweddaru, a ariennir gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Llanelli, yn gaffaeliad mawr i’r gymuned ac yn rhoi cyfle gwych i’r trigolion ddeall hanes diddorol Llanelli yn well.”