Mae Undeb Amaethwyr Cymru’n dweud eu bod nhw’n “galaru marwolaeth” Glyn Powell, Is-Lywydd y mudiad ffermio rhwng 1995 a 2000, a dirprwy i Bob Parry rhwng 2000 a 2002.

Yn hanu o ardal Pontsenni, roedd yn llysgennad dros amaethyddiaeth ac yn enwedig yn ystod un o heriau mwya’r mudiad wrth iddyn nhw geisio mynd i’r afael â Chlwy’r Traed a’r Genau, gan ymgyrchu yn erbyn defnyddio mynydd Epynt fel tir claddu.

Roedd ei dad yn fab i fugail ar ystâd Cnewr, a’i fam o’r Epynt.

Er i Glyn ddringo i lefel uchel yn y byd addysg drwy fod yn Bennaeth Ysgol Uwchradd Aberhonddu, wnaeth e ddim anghofio’i wreiddiau, gan fod yn weithgar iawn ym mhopeth oedd yn gysylltiedig â’r Epynt.

Ac yntau’n Ysgrifennydd Pwyllgor Amddiffyn Cwm Senni, bu’n ymgyrchu pan ddaeth bygythiad i foddi Cwm Senni i gyflenwi dŵr i Gaerdydd rhwng 1963 a 1972.

Bu’n “gymwynaswr mawr i’r Gymraeg a diwylliant Cymru”, meddai’r mudiad.

Cafodd ei Urddo â’r Wisg Las gan Orsedd y Beirdd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ystod Eisteddfod Ceredigion 2021 yn Nhregaron.

‘Diwydiant ffermio wedi colli un o’i gewri’

“Mae’r diwydiant ffermio wedi colli un o’i geirw, a dyn a oedd hyd fêr ei esgyrn yn byw ac yn deall ein treftadaeth, ein diwylliant a’r byd ffermio,” meddai Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

“Mi fydd colled fawr ar ôl Glyn Powell ac mae ein meddyliau gyda’i deulu ar yr adeg anodd yma.”

‘Urddas’

“Un o’r troeon cyntaf imi glywed Glyn yn siarad yn gyhoeddus oedd yng Nghyngor yr Undeb yn 1995 pan gafodd ei ethol yn Ddirprwy Lywydd,” meddai Glyn Roberts, cyn-Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

“Roedd yna urddas yn perthyn i’r ffordd y cododd o’i sedd i’n hannerch, ac mi barhaodd yr urddas yna nes iddo fynd yn ôl i’w sedd ar ddiwedd ei araith.

“Roedd yn araith gofiadwy iawn ac mi gaeodd pen y mwdwl drwy ddyfynnu Saunders Lewis – “Gwinllan a roddwyd i’m gofal yw Cymru fy ngwlad, i’w thraddodi i’m plant, ac i blant fy mhlant, yn dreftadaeth dragwyddol.

“Mae’n un peth i ddyfynnu’r darn yna gyda chymaint o argyhoeddiad, ond yn rhywbeth arall i wireddu’r weledigaeth honno, ond dyna’n union a wnaeth Glyn, drwy sicrhau dyfodol ar gyfer Cwm Senni, a hefyd drwy osod ei fferm i berson ifanc,” cofia cyn Lywydd UAC Glyn Roberts.

Dywed Bob Parry y bydd yn ei gofio fel “cymeriad oedd yn meddwl cyn siarad”, ac fel un oedd yn “angerddol iawn am Glybiau Ffermwyr Ifanc”.

“Mi fydd yn cael ei golli’n arw,” meddai.