Mae cynnal rôl y Prif Weithredwr yn “allweddol” er mwyn sicrhau presenoldeb YesCymru, yn ôl Gwern Gwynfil, gafodd ei ddiswyddo dros e-bost am “resymau ariannol” yr wythnos hon.

Cafodd y penderfyniad i’w ddiswyddo ei wneud gan bum aelod o Fwrdd YesCymru.

Yn ôl y cyn-Brif Weithredwr, fu’n siarad â golwg360, mae trafferthion ariannol yn rhan anochel o dirwedd unrhyw fudiad gwleidyddol, a dywed mai’r elfen bwysicaf yw sut y caiff penderfyniadau ar y defnydd o adnoddau eu gwneud.

“O’n safbwynt i, byddwn i’n parhau i ddefnyddio’r adnoddau yna i gynnal Prif Weithredwr o fewn strwythur YesCymru,” meddai.

“Dim ots pwy sydd yn y rôl, mae jest bodolaeth y swydd yn rhoi mwy o sylwedd i’r mudiad.

“Felly dydw i ddim yn credu y byddwn i wedi dewis yr un pwyslais o ran defnydd o adnoddau â beth mae’r pum person yma wedi penderfynu dewis.”

Ychwanega fod cael Prif Weithredwr yn rhoi llais i fudiad ar bob lefel, ac yn “ddolen gyswllt allweddol” rhyngddyn nhw.

“Mae YesCymru yn ymgyrch llawr gwlad, ac mae’n allweddol bod pobol ar lawr gwlad yn siarad gyda’u cymunedau nhw ac unigolion o fewn y cymunedau,” meddai.

“Ond mae’n rhaid cael rhywun i siarad gyda gwleidyddion, ac mae’n rhaid cael rhywun i fod yn llais i’r mudiad, i dynnu’r holl grwpiau yma ynghyd ac i fynd allan a chyfarfod gyda’r grwpiau yma.

“Doedd dim modd gwneud hynny yn wirfoddol, achos mae honno’n swydd lawn amser a mwy.”

Diswyddo dros e-bost

Cafodd Gwern Gwynfil wybod am y penderfyniad i’w ddiswyddo mewn e-bost gan y cadeirydd Barry Parkin.

Yn ei e-bost, dywed y cadeirydd ei fod e wedi ymdrechu i gysylltu â’r Prif Weithredwr drwy sawl dull cyn troi at e-bost.

Fodd bynnag, dydy Gwern Gwynfil ddim yn credu bod y cyfiawnhad yn dal dŵr.

“Ges i’r neges am 11yb, a’r e-bost am 2.30yp, a wnes i ddweud wrth yr unigolyn yna ’mod i ddim yn barod i gael unrhyw beth ganddo fe yn ysgrifenedig, achos ei fod o dan ymchwiliad eisoes o fewn y mudiad am rywbeth hollol ar wahân,” meddai, gan gyfeirio at y ffaith fod Barry Parkin yn destun ymchwiliad am dorri is-ddeddfau YesCymru.

“Fyddai e ddim wedi bod yn anodd iawn iddo fe ofyn i rywun arall siarad gyda fi.

“Dw i’n siarad yn gyson gyda chyfarwyddwyr eraill.

“Dw i ddim yn credu bod y cyfiawnhad yna yn dal dŵr, ond mae hynny’n benderfyniad i bobol eraill ei wneud.”

Ffigyrau ymaelodi heb godi’n sylweddol

Yn ôl Gwern Gwynfil, mae’r ffigyrau aelodaeth wedi aros yn eu hunfan dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chynnydd bach yn nifer yr aelodau.

Ond dywed na fu cwymp chwaith.

“Mae hynny yn ei hun yn dipyn o gamp, oherwydd o ‘nealltwriaeth i, mae pob mudiad a phlaid wleidyddol arall yng Nghymru wedi colli cryn nifer o aelodau dros y flwyddyn ddiwethaf,” meddai.

Ychwanega fod y ffigyrau ymaelodi uchel oedd yn cael eu rhannu oddeutu 2021 yn “anfwriadol gamarweiniol”.

“Yn ystod y pymtheg mis diwethaf, rydyn ni wedi glanhau’r bas data ac mae’r ffigyrau yna gafodd eu hadrodd yn ôl yn 2021 yn gyfangwbl anghywir,” meddai.

“Doedd y lefel aelodaeth erioed ar y lefelau hynny, roedd yna lot o ddyblygu a chymysgu lan data gwahanol, a hynny yn anfwriadol wedi creu camargraff ar yr aelodaeth oherwydd camgymeriadau mewn rheoli data.”

‘Môr o gefnogaeth’

Er bod nifer o newidiadau posib ar y gweill, megis cynyddu niferoedd Aelodau’r Senedd a llywodraeth newydd yn San Steffan, “does dim byd wir yn mynd i newid yng Nghymru”, yn ôl Gwern Gwynfil.

“Dydyn ni ddim yn mynd i stopio bod yn y rhan tlotaf o’r Deyrnas Unedig a dyw’r ffaith bod y Deyrnas Unedig wedi torri ddim yn mynd i newid,” meddai.

Dywed ei fod yn parhau i annog pawb sydd o blaid annibyniaeth i “gadw ffydd ac i ymgyrchu, i gynnal sgyrsiau am annibyniaeth ac i fod yn rhan o YesCymru os ydyn nhw’n gallu gwneud hynny”.

“Rydw i dal yn aelod o YesCymru ac rydw i’n argyhoeddedig bod yna lôn i annibyniaeth i Gymru o fewn y degawd,” meddai.

“Dydw i ddim yn dweud fod hynny ddim yn mynd i fod yn heriol, a bod dim angen cryn dipyn o ymgyrchu a strategaeth a chynllun clir.”

Ychwanega ei fod e wedi derbyn cannoedd o negeseuon o gefnogaeth oddi wrth aelodau a chefnogwyr annibyniaeth ers i’r newyddion am ei ddiswyddiad dorri, a’i fod yn awyddus i achub ar y cyfle i ddiolch am y gefnogaeth honno.

“Hoffwn ddiolch iddyn nhw am y môr o gariad maen nhw wedi danfon tuag ata i dri neu bedwar diwrnod cyn y Nadolig, achos mae’n sicr yn dipyn o gymorth gyda’r sefyllfa,” meddai.