Bydd yn rhaid i Gyngor Gwynedd wneud toriadau yn sgil cyhoeddi Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yr wythnos hon, yn ôl un cynghorydd sir fu’n siarad â golwg360.

Mae Cyngor Gwynedd yn rhybuddio bod gwasanaethau lleol hanfodol dan fygythiad, ac na fydd dewis ond codi treth y cyngor o fis Ebrill oherwydd diffyg difrifol yn yr arian y bydd yr awdurdod lleol yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn cadarnhau y bydd Cyngor Gwynedd yn derbyn cynnydd setliad o £4m yn wyneb cynnydd mewn gwariant a chwyddiant o £23m.

Mae rhybudd hefyd y bydd y sefyllfa’n gwaethygu eto dros y ddwy flynedd nesaf.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25, setliad Cyngor Gwynedd yw’r cydradd isaf o blith y 22 cyngor sir yng Nghymru.

Poblogaeth yn lleihau

Mae’r Cynghorydd Ioan Thomas, yr Aelod Cabinet dros Gyllid ar Gabinet Cyngor Gwynedd, yn dweud bod y gyllideb wedi lleihau oherwydd bod poblogaeth Gwynedd wedi gostwng hefyd.

“Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio fformiwla,” meddai wrth golwg360.“Mae yna nifer o ffactorau gwahanol yn mynd mewn i greu’r fformiwla yma.

“Un o’r pethau sy’n eithaf uchel yn y blaenoriaethau yn y fformiwla yma ydy poblogaeth.

“Yn anffodus, ar ôl y Cyfrifiad diwethaf, mae poblogaeth Gwynedd wedi mynd lawr felly mae’r dyraniad i Wynedd yn mynd yn llai.

“Os gwnewch chi sylwi yn y tabl o awdurdodau sy’n derbyn cymorth, mae llefydd fel Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe yn cael llawer iawn mwy.

“Mae hynny oherwydd bod eu poblogaeth nhw wedi codi.”

Toriadau

Dywed y Cynghorydd Ioan Thomas fod Cyngor Gwynedd bellach yn gorfod gwneud toriadau yn hytrach nag arbedion yn unig.

“Mewn theori, ddylai arbedion ddim effeithio ar ddinasyddion Gwynedd,” meddai wedyn.

“Ddylai dinasyddion Gwynedd ddim gweld unrhyw wahaniaeth yn y gwasanaeth mae Cyngor Gwynedd yn ei gyflawni efo arbedion – arbed a gwneud pethau mewn ffordd wahanol, ond cadw at rywbeth yn debyg i’r gwasanaeth oedd yn cael ei gynnig cyn yr arbedion.

“Toriadau fydd y broblem fwyaf.

“Rydyn ni nawr, ers nifer o flynyddoedd, wedi gwneud nifer fawr o arbedion.

“Rydyn ni nawr yn gorfod edrych ar doriadau yn anffodus.”

Treth y Cyngor

Yn ôl y Cynghorydd Ioan Thomas, bydd treth y cyngor yn codi’n sylweddol i drigolion Gwynedd ym mis Mawrth.

“Mae codi’r dreth gyngor yn swm ychwanegol fydd angen i drigolion ei dalu yn anffodus,” meddai.

“Mi oedd gennym ryw egwyddor ein bod ni’n codi’r dreth 5%.

“Rwy’n meddwl mai dyna’r ffigwr roeddem yn edrych arno, a bydd hyn ar ôl i ni dynnu arian allan o rai cronfeydd.

“Rydym yn edrych ar dreth gyngor jest uwchben 9%.

“Fydd hwnna ddim yn cael ei gytuno tan fis Mawrth, a bydd ymgynghoriad gyda’r cynghorwyr i gyd ynglŷn â hynny yn y flwyddyn newydd.”

Torri gwasanaethau

Yn ôl Cynghorydd Ioan Thomas, bydd toriadau’n cael eu gwneud i holl wasanaethau’r Cyngor, er bod gan y Cyngor record dda o ran gwariant.

“Mae’n eithaf amlwg ein bod ni’n siomedig iawn,” meddai.

“Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi llawr, oherwydd heblaw bod yna lawr bydden ni wedi cael 1.7%.

“Mae’n eithaf amlwg y byddai hwnna wedi gwneud y bwlch ariannol sydd gennym ni yn fwy.

“Mae gennym record fel Cyngor o fod yn ddarbodus efo’n cronfeydd a’n gwariant ni.

“Rydym yn ffodus iawn ein bod ni wedi bod fel yna, ac rwy’n gobeithio ein bod ni am fod fel yna yn y dyfodol.

“Mae pethau am fod yn wahanol.

“Rwy’n meddwl, yn yr ychydig flynyddoedd nesaf, y bydd rhaid i ni adolygu holl wasanaethau’r Cyngor a gweld beth allwn ni ei fforddio, yn hytrach na gwneud rhyw arbedion a thoriadau bron o’r top.

“Bydd rhaid i ni edrych ar holl wasanaethau’r Cyngor yn sylfaenol i weld pa wasanaethau gallwn ni eu cynnig yn yr hinsawdd ariannol.”

‘Cymylau duon ar y gorwel’

Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd, dydy hi ddim yn bosib osgoi cynyddu’r dreth gyngor, ac mae “crebachu ariannol” wedi bod yn digwydd ers dros ddegawd.

Er bod Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Cymru, am osod llawr ariannol o 2%, Gwynedd fydd yn cael y lleiaf o arian tuag at wasanaethau lleol.

“Mae’r cyhoeddiad yma yn ergyd drom i lywodraeth leol ac i Wynedd yn arbennig,” meddai.

“Tra ein bod yn ddiolchgar i Weinidog Cyllid Cymru am osod llawr ariannol o 2%, Gwynedd fydd yn derbyn y cyfraniad lleiaf tuag at y gost o gynnal ein gwasanaethau lleol.

“Rydym wedi rhybuddio ers peth amser fod cymylau duon ar y gorwel.

“Heb amheuaeth, gyda’r cyhoeddiad yma mae’r storm ar fin torri.

“Fel Cyngor, rydym wedi dioddef dros ddeuddeg mlynedd o grebachu ariannol.

“Mewn ymateb, rydym eisoes wedi gwireddu bron i £70m o arbedion ers 2010 drwy gyflwyno ffyrdd mwy effeithlon a newydd o weithio.

“Drwy hyn oll, rydym wedi amddiffyn gwasanaethau rheng flaen i’n trigolion mwyaf bregus.

“Yn amlwg, byddwn yn parhau i chwilio am bob cyfle posib i osgoi toriadau llym fydd yn cael eu teimlo ar lawr gwlad.

“Ond gyda’r cyhoeddiad diweddaraf yma, rydym wedi cyrraedd pen draw’r hyn sy’n bosib heb dorri gwasanaethau a chodi’r dreth Cyngor.”

Amddiffyn gwasanaethau – ond am ba hyd?

Er gwaethaf blynyddoedd o setliadau ariannol gwael, mae Cyngor Gwynedd wedi llwyddo i amddiffyn y gwasanaethau mae pobol a phlant mwyaf bregus y sir yn dibynnu arnyn nhw.

Mae’r Cyngor wedi gwneud hyn drwy gyfuniad o gynllunio ariannol gofalus ac ymdrech parhaus i wireddu arbedion effeithlonrwydd, medden nhw.

Ar yr un pryd, ochr yn ochr â chwyddiant, mae’r galw am wasanaethau allweddol a statudol yng Ngwynedd wedi cynyddu’n sylweddol.

Mae nifer y bobol sydd wedi datgan eu bod nhw’n ddigartref yng Ngwynedd wedi codi 35% ers 2018-19.

Mae nifer y cyfeiriadau at wasanaethau iechyd meddwl Gwynedd wedi cynyddu i 5,565 yn 2022-23, sy’n gynnydd o fwy na 2,000 ers 2019-20, ac mae’r niferoedd yn parhau i gynyddu.

Mae nifer y cyfeiriadau i Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Gwynedd wedi cynyddu i 7,175 yn 2022-23, sy’n gynnydd o fwy na 2,500 ers 2019-20, ac mae’r niferoedd yn parhau i gynyddu.

Mae nifer y cyfeiriadau i Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Gwynedd wedi cynyddu i 4,558 yn 2022-23, sy’n gynnydd o fwy na 400 rhwng 2020-21 a 2022-23, ac mae disgwyl y bydd y patrwm yn parhau yn sgil rhagolygon sy’n darogan cynnydd o ryw 23% yn nifer y bobol dros 85 oed yn y sir dros y deng mlynedd nesaf.

Fe fu cynnydd sylweddol mewn ceisiadau am gefnogaeth i blant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac mewn costau darparu cludiant i ddisgyblion.