Mae Heddlu’r De wedi arestio 41% yn fwy o bobol ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol fis yma o gymharu â mis Rhagfyr y llynedd.
Mae plismyn wedi bod yn cynnal patrolau agored a chudd fel rhan o Op Limit, ymgyrch genedlaethol yn erbyn alcohol a chyffuriau.
Roedd cynnydd o 41% yn nifer y bobol gafodd eu harestio ar amheuaeth o yfed a gyrru rhwng Rhagfyr 1 a 21 – cyfanswm o 58 o achosion.
Roedd 57 o achosion, a chynnydd o 32%, yn nifer y rhai gafodd eu harestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau yn ystod yr un cyfnod.
Bydd yr ymgyrch yn para tan Ionawr 1, wrth i’r heddlu gynnal profion ar ymyl y ffordd, ac maen nhw’n annog pobol i beidio â gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau dros y Nadolig.
‘Dim ffordd o wybod beth yw’r terfyn’
“Does dim ffordd o wybod faint allwch chi ei yfed ac aros o dan y terfyn, gan y gall ddibynnu ar eich pwysau, eich oedran, eich metaboliaeth, faint o fwyd rydych chi wedi’i fwyta a ffactorau eraill,” meddai’r Arolygydd Michael Prickett o Uned Blismona’r Ffyrdd yn Heddlu’r De.
“Os cewch chi eich canfod dros y terfyn yfed a gyrru, a/neu’n gyrru dan ddylanwad cyffuriau, gallwch dderbyn uchafswm cosb o chwe mis o garchar, dirwy amhenodol a gwaharddiad awtomatig rhag gyrru am o leiaf flwyddyn.”
Mae modd cyhuddo rhywun o achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal os ydyn nhw’n lladd rhywun wrth yrru dan ddylanwad alcohol.
Mae’n drosedd gyrru dan ddylanwad un neu fwy o 17 math o gyffur dros lefel benodol yn y gwaed, a gall hyn gynnwys cyffuriau hamdden neu rai sydd ar bresgripsiwn.
Mae’r heddlu’n annog pobol i wirio gyda fferyllydd os ydyn nhw’n ansicr ynghylch eu meddyginiaeth, ac i unrhyw un sy’n gweld rhywun yn yfed dan ddylanwad i gysylltu â nhw.
Enwebu gyrrwr penodedig
Mae’r heddlu hefyd yn rhedeg ymgyrch i annog pobol i enwebu gyrrwr penodedig, fel ei bod hi’n ddiogel i o leiaf un person yrru’n ddiogel.
Dyma’r ail flwyddyn iddyn nhw redeg yr ymgyrch.
Ar hyn o bryd, mae 29 o leoliadau trwyddedig yn y de yn cynnig diodydd ysgafn i yrwyr fel rhan o’r ymgyrch.