Mae Maethu Cymru Môn wedi derbyn cannoedd o deganau ac anrhegion fel rhoddion gan staff cwmni fferi Stena Line.

Byddan nhw’n cael eu dosbarthu ymhlith plant mewn gofal ar gyfer y Nadolig yn dilyn Ymgyrch Siôn Corn y cwmni hwylio.

Mae staff sy’n gweithio ar y môr ac ar y tir wedi bod yn rhan o’r ymgyrch, gan gynnwys staff llongau Stena Estrid a Stena Adventurer, staff porthladdoedd Dulyn a Chaergybi, gweithwyr Canolfan Alwadau Caergybi a Chanolfan Deithio Caergybi, R&F Caergybi a Stena House.

Roedd yr ymgyrch yn llwyddiannus iawn y llynedd, gyda gwerth dros £2,000 o anrhegion yn cael eu rhoi i blant maeth yr ynys.

Helpu plant

Mae Mark Daly, sy’n Stiward Hwylio a Gwasanaethau ar fwrdd Stena Estrid yn teimlo bod Stena Line wedi gwneud y Nadolig yn fwy arbennig i blant, ac mae ganddo fe obeithion mawr ar gyfer y dyfodol.

“Mae criw Stena Line, sy’n hwylio rhwng Dulyn a Chaergybi, yn falch eu bod wedi gallu helpu i wneud y Nadolig yn adeg arbennig i blant lleol a rhoi gwên ar eu hwynebau,” meddai.

“Hoffwn ddiolch i’m cydweithwyr am eu haelioni.

“Rydw i’n mawr obeithio y bydd yr ymgyrch hyd yn oed yn fwy llwyddiannus y flwyddyn nesaf.”

Rhodd wych

Mae Fôn Roberts, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar ran Maethu Cymru Môn, yn teimlo bod y rhoddion yn wych ac y byddan nhw’n gwneud gwahaniaeth mawr i blant.

“Hoffwn ddiolch o waelod calon i Stena am y rhodd rhagorol hwn o ewyllys da unwaith eto eleni,” meddai.

“Bydd yr anrhegion hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r plant fydd yn treulio’r Nadolig gyda’n gofalwyr maeth.

“Diolch am eich haelioni a’ch cefnogaeth!”

Diolchiadau

Mae’r Cynghorydd Gary Prichard, deilydd portffolio Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar Gyngor Ynys Môn, yn ddiolchgar i Stena Line a’u staff am wneud gwahaniaeth i fywydau pobol yn yr hinsawdd sydd ohoni.

“Hoffem ddiolch i bawb yn Stena Line am eu caredigrwydd a’u haelioni,” meddai’r Cynghorydd Gary Prichard.

“Mae mwy a mwy o bobl yn wynebu caledi oherwydd yr argyfwng costau byw, ac mae prosiectau fel hyn yn ein galluogi i sicrhau bod y Nadolig yn dal i fod yn gyfnod hudolus i blant.

“Hoffwn ddiolch i Mark Daly, Bianca Patterson, Sarah England a Sian Brown o Stena Line am gydlynu ymgyrch llwyddiannus eto eleni.

“Bydd nifer o blant a phobol ifanc bregus Ynys Môn yn derbyn mwy o anrhegion y Nadolig hwn gyda diolch i’r rhoddion hael gan staff Stena Line, gan helpu i ledaenu ychydig o lawenydd dros yr ŵyl.”