Mae Gwasg Prifysgol Cymru wedi talu teyrnged i’r Athro Robin Okey, yr hanesydd blaenllaw fu farw’n ddiweddar.

Cafodd ei eni yng Nghaerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac fe gafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen cyn mynd yn ei flaen i fod yn ddarlithydd Hanes Modern ym Mhrifysgol Warwick am fwy na deugain mlynedd.

Ar ôl ymddeol yn 2007, daeth yn Athro Emeritws yn y brifysgol.

Yn ystod ei yrfa, cyhoeddodd e amryw o gyfrolau pwysig ar hanes dwyrain a chanolbarth Ewrop yn y cyfnod modern, gan gynnwys Eastern Europe 1740-1980, Feudalism to Communism (1982) a Taming Balkan Nationalism. The Habsburg ’Civilizing Mission’ in Bosnia, 1878-1914 (2007).

Bu hefyd yn ymchwilio agweddau o hanes Cymru ers degawdau, gan gyhoeddi erthyglau arloesol mewn cyfnodolion fel Y Traethodydd a Planet.

Cafodd ei ddisgrifio yng nghampwaith John Davies Hanes Cymru (1990) fel y “mwyaf cyffrous o’n haneswyr”.

Cafodd ei gyfrol olaf, Towards Modern Nationhood: Wales and Slovenia, c. 1750-1918 ei chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru ym mis Tachwedd eleni, a honno’n benllanw ei ymchwil dros gyfnod maith yn cymharu datblygiad hanesyddol Cymru fodern gyda chenhedloedd bychain eraill yn Ewrop.

Mae’r llyfr wedi derbyn canmoliaeth uchel gan haneswyr eraill fel Dr Simon Brooks.

‘Gweld cenedlaetholdeb mewn cyd-destun cymharol’

Yn ôl Y Brython Newydd, “cyfraniad mawr Robin Okey fel hanesydd oedd ei allu i weld cenedlaetholdeb mewn cyd-destun cymharol, gan awgrymu’n gynnill ffyrdd posib ymlaen i genedl y Cymry”.

Yn ôl Elwyn Vaughan, sy’n gynghorydd sir ym Mhowys, roedd yn “ŵr bonheddig”.

Dywed yr hanesydd Neil Evans y bydd ei gyfrol olaf yn “atgyfnerthu ei enw da”.