Wedi’i ffurfio cwta naw mis yn ôl, mae band roc newydd o’r gogledd yn creu argraff ar y Sîn ac yn profi llwyddiant yn barod.

Yn ddiweddar wnaethon nhw ryddhau eu trydedd sengl, ‘Geiriau Ffug’, ac mae’r ymateb i gerddoriaeth Ffatri Jam yn addawol iawn.

Cafodd y band ei enwi’n un o Seiniau Gorau 2022 gan BBC Introducing, ac mae dwy o’u senglau wedi eu chwarae ar BBC Radio 1. Nhw hefyd oedd y band iaith Gymraeg gyntaf i gael eu chwarae ar Planet Rock Radio.