Ers ugain mlynedd mae ffotograffydd o Sir Benfro wedi bod yn stopio bob hyn a hyn wrth deithio’r wlad, a hynny er mwyn gallu tynnu lluniau adeiladau sy’n mynd i’r gwellt a hen geir segur.

Bydd casgliad o luniau David Wilson o hen garejys rhydlyd, ceir yn pydru mewn caeau, siopau’n mynd â’u pen iddynt, a llefydd sydd wedi gweld dyddiau gwell yn cael eu cyhoeddi mewn cyfrol newydd yn hwyrach eleni.