Cafodd ffilm gyntaf animeiddiwr ifanc o Fôn ei dangos mewn gŵyliau yng Nghaerdydd, Llydaw a Serbia, ac erbyn hyn mae miloedd wedi ei gwylio ar y We.

Hanes Tryweryn oedd testun animeiddiad cyntaf Osian Roberts, a materion Cymreig a hanes y wlad yw’r dylanwadau pennaf ar ei waith.