Oedd, roedd yna dipyn o sioe’r wythnos diwethaf. Na, nid trefniadaeth fewnol Plaid Cymru, y llall. Rhag ofn i chi fod yn cysgu o dan garreg, roedd hi’n amser yr Eurovision Song Contest. Yn cael ei chynnal eleni yn Lerpwl, a hynny ar ran enillwyr y llynedd, Yr Wcráin, am resymau amlwg.