Gydag 870 milltir o olygfeydd arfordir syfrdanol, mae’n amlwg pam fod Llwybr Arfordir Cymru wedi ymddangos mewn cymaint o ffilmiau a rhaglenni teledu blaenllaw.
Rhwng 1913 a heddiw, mae arfordir gwyllt Cymru wedi gosod y llwyfan ar gyfer brwydrau epig di-ri, comedïau ffarsïol, a dramâu cyffrous ar ffilm, gan ymddangos ym mhopeth o Doctor Who i Game of Thrones a Harry Potter.
Mae’r llwyddiannau byd-eang hyn yn aml yn denu twristiaid o dramor i Gymru, a does dim arwydd y bydd hyn yn dod i ben, gyda diolch i House of the Dragon, ddychwelodd i Gymru ar gyfer ei hail gyfres, gan ffilmio sawl golygfa ar hyd arfordir y gogledd – o Ynys Llanddwyn i Benmon.
Ar ôl cael ei darlledu yn haf 2024, y gobaith yw y bydd y rhaglen hon, sy’n ddilyniant i Game of Thrones, yn denu hyd yn oed mwy o ymwelwyr i archwilio rhyfeddodau Llwybr Arfordir Cymru.
Ond tan hynny, dewch i ni edrych ar y rhyfeddodau sinematig eraill sydd wedi cael eu ffilmio ar ein harfordir dros y blynyddoedd…
Ivanhoe (1913)
Cafodd y clasur du-a-gwyn hwn, sydd bellach dros 100 mlwydd oed, ei ffilmio o fewn muriau hynafol Castell Cas-gwent. Er ei bod yn debygol y byddai’r prif actor Americanaidd, King Baggot, wedi teimlo’n gartrefol ar set y castell canoloesol – gyda’i enw brenhinol – mae’n debygol hefyd mai hwn oedd un o’r cynrychioliadau cyntaf o Gymru ar ffilm.
Moby Dick (1956)
Darparodd tirwedd arfordirol ddramatig a moroedd cythryblus Sir Benfro y cefndir perffaith ar gyfer y stori fythol hon am forfil mawr gwyn. Aeth sêr enwog y cyfnod, Gregory Peck ac Orson Welles, i Abergwaun, Pen Cemaes a Bae Ceibwr fel rhan o’r addasiad eiconig hwn o nofel glasurol Herman Melville o 1851.
The Prisoner (1967-68)
Mae’r gyfres deledu eiconig hon yn adrodd hanes asiant cudd sy’n cael ei gipio a’i gludo i’r hyn sy’n edrych fel pentref delfrydol… ond carchar yw e! A’r lleoliad ffilmio? Dim llai na Phortmeirion, pentref Eidalaidd hudolus o’r 1920au yng Ngwynedd.
Roedd The Prisoner yn llwyddiant enfawr yn fyd-eang yn y 1960au, gan roi Cymru ar y map ar draws yr Unol Daleithiau, Awstralia, y Deyrnas Unedig, ac Ewrop yn ehangach. Roedd hyd yn oed y Beatles yn gwylio’r rhaglen, yn ôl pob sôn! Dydy Portmeirion ddim ar Lwybr Arfordir Cymru mewn gwirionedd, ond mae’n agos iawn – ac mae’n werth mynd yno i weld yr adeiladau lliwgar a’r llwybrau coediog ffrwythlon.
Monty Python and the Holy Grail (1975)
Mae castell arfordirol 900 mlwydd oed Cydweli yn rhan o’r olygfa agoriadol enwog yn Monty Python and the Holy Grail – yr olygfa lle mae’r Brenin Arthur yn marchogaeth ar geffyl anweledig wrth i’w ward greu synau carnau chwerthinllyd gyda chregyn cnau coco y tu ôl iddo. Mae’r olygfa bron mor fythol â’r arfordir ei hun!
Die Another Day (2002)
Mae’r ugeinfed ffilm yng nghyfres James Bond, Die Another Day, yn gorffen yng Nghymru – gyda Thraeth Penbryn yng Ngheredigion yn cymryd lle traeth yng Ngogledd Corea mewn golygfa angerddol ar ddiwedd y ffilm.
Doctor Who (2005 – presennol)
Fyddai’r rhestr hon ddim yn gyflawn heb gyfeirio at Doctor Who. Wedi’r cyfan, mae’r sioe yn dathlu ei phen-blwydd yn 60 oed eleni. Wrth ffilmio mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru ers i’r sioe ddychwelyd yn 2005, mae’r Doctor wedi bod yn ymwelydd cyson ag arfordir Cymru.
Un o hoff leoliadau’r tîm cynhyrchu yw Traeth Southerndown ger Pen-y-bont ar Ogwr. Enw arall ar y lleoliad hwn yw Bae Dwnrhefn, ac mae’r traeth cudd wedi ymddangos mewn sawl pennod. Ond bydd selogion y rhaglen yn ei gofio orau ar gyfer golygfa dorcalonnus yn cynnwys David Tennant a Billie Piper (oes angen dweud mwy?!).
The Edge of Love (2008)
Mae’r clasur rhamantus hwn gyda Kiera Knightley, Sienna Miller, Cillian Murphy a Matthew Rhys yn adrodd hanes y bardd Dylan Thomas. Roedd y cast enwog yn teithio i fyny ac i lawr arfordir y gorllewin yn ystod y cynhyrchiad, yn ffilmio ym mhob man o gartref Dylan yn Nhalacharn i Ddinbych-y-pysgod a Cheinewydd.
Harry Potter and the Deathly Hallows, rhan 1 (2010)
Traeth Freshwater West yn Sir Benfro yw lleoliad marwolaeth drasig y cymeriad hoffus Dobby, y Coblyn Tŷ, a’i gladdedigaeth. Yn y ffilm, mae Dobby wedi’i gladdu yn y twyni tywod ar ben gogleddol y traeth – dim ond taith gerdded fer o faes parcio’r gogledd. Fodd bynnag, mae ei ‘fedd’ wedi’i nodi ymhellach i’r de, gyda channoedd o gerrig wedi’u gosod gan selogion gyda negeseuon ac ychydig o sanau (na ddylid eu hannog gan nad ydyn nhw’n bydradwy!).
Y Gwyll / Hinterland (2013-2016)
Tref arfordirol hynod Aberystwyth yw prif leoliad y ddrama dditectif Y Gwyll, ond mae’r gyfres yn mynd ymhellach ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, gan ffilmio ym mhob man o Dwyni Tywod Ynys-las ger Bae Ceredigion i Iard Gychod Smugglers Cove yn Aberdyfi.
Fe welwch fod mwyafrif helaeth y ffilmio wedi digwydd yng Ngheredigion. Gyda chopaon aruthrol Mynyddoedd Cambria ar un ochr a 100km o arfordir trawiadol ar yr ochr arall, mae’n hawdd gweld pam. Allwn ni ddim dychmygu lleoliad gwell i ysgogi ychydig o ddirgelwch!
The Crown (2019)
Mae trydedd gyfres The Crown yn cynnwys sawl lleoliad yng Nghymru – gyda phenodau’n ymdrin â phopeth o drychineb Aberfan i arwisgo’r Tywysog Charles yn y 1960au. Ymhlith y mannau adnabyddus ar Lwybr Arfordir Cymru mae llefydd amrywiol glan môr Aberystwyth, Croesfan Hafren ac, wrth gwrs, Castell Caernarfon – lleoliad canoloesol yr arwisgo ei hun.
House of the Dragon (2024)
Yn y cyfamser, eleni, cafodd House of the Dragon ei ffilmio mewn sawl lleoliad arfordirol yng ngogledd Cymru – o Draeth Niwbwrch ar Ynys Môn i Drefor ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn. Bydd yn rhaid i wylwyr o Gymru weld faint o lefydd y gallan nhw eu hadnabod pan fydd y rhaglen yn cael ei darlledu haf nesaf. Cofiwch gadw llygad!