Mae miloedd yn heidio i’r dref i fwynhau’r gorau o Gymru a thu hwnt…

Mae Sesiwn Fawr Dolgellau ymysg y mwyaf ar y calendr, a bydd y bwrlwm a’r miri yn dychwelyd i’r dref y penwythnos hwn.

Sefydlwyd y Sesiwn Fawr yn 1992 gyda’r nod o droi strydoedd Dolgellau yn faes gŵyl werin fywiog. Erbyn hyn, mae’n un o brif wyliau’r wlad, gan ddenu tua 4,000 o bobol y llynedd, a pherfformwyr o Gymru a thu hwnt.

Dros y degawdau mae bandiau a chantorion fel y Super Furry Animals, Meic Stevens ac Anweledig wedi siglo’r ŵyl, ac mae’r lein-yp yn ddigon o sioe unwaith eto eleni.

Bydd 42 band yn perfformio ar 11 llwyfan ar hyd a lled y dref y penwythnos yma, ac ymhlith yr artistiaid fydd yn ymddangos ar brif lwyfan yr ŵyl yng Ngwesty’r Ship mae Dafydd Iwan ac Ar Log, Bwncath a’r band Heisk o’r Alban.

Yn sgil dathlu 30 mlynedd ers sefydlu’r Sesiwn y llynedd, mae’r trefnwyr wedi penderfynu lansio tri llwyfan newydd yng nghanol y dref eleni, symud llwyfan y Clwb Rygbi i Dŷ Siamas a chynnal ail gig yn Eglwys y Santes Fair.

A phwy oedd yn cael y fraint o agor y cyfan yn Eglwys y Santes Fair neithiwr?

Neb llai na Cowbois Rhos Botwnnog!

Blas o albwm newydd Cowbois

Mae’n debyg na fyddech wedi cael y cyfle i weld y brodyr yn perfformio ers tro, ond mi fyddan nhw nôl wrthi’r haf yma yn chwarae’r Sesiwn Fawr a’r Eisteddfod, yn dilyn set ar y brif lwyfan yn Nhafwyl y penwythnos diwethaf.

Dydy’r band heb ryddhau cerddoriaeth ers eu pedwerydd albwm yn 2016, IV, ond maen nhw’n barod amdani ar ôl y saib…

“Dyma’r bwlch hiraf ers i ni ryddhau ond rydan ni wastad wedi bod yn araf deg,” meddai Iwan Huws, prif leisydd a gitarydd y band.

“Gawson ni saib yn bennaf oherwydd plant – mae’r rhan fwyaf o aelodau’r band efo plant bellach, felly rydan ni wedi bod yn arafach.

“Ond mi fydd gennym ni stwff newydd yn cael ei ryddhau dros yr wythnosau nesaf yma.

“Byddwn ni’n rhyddhau sengl i ddechrau efo’r bwriad o ryddhau albwm rhyw ben.

“Ti’n sôn am saith mlynedd os nad mwy ers y record ddiwethaf, felly mae’n siŵr bod rhai o’r caneuon ar yr albwm newydd yn dyddio i’r adeg yna.

“Achos be sy’n digwydd fel arfer ydy, syth ar ôl gorffen record, wna’i sgrifennu bach mwy achos mwya’ sydyn ti’n rhydd i ganolbwyntio ar bethau newydd a ti’n mynd yn reit gyffrous.

“Ond be sy’n digwydd wedyn ydy bo fi’n stopio sgrifennu ac mae yna gap mawr.

“Felly cymysgedd o ganeuon sydd wedi eu gwneud dros y chwe blynedd diwethaf fydd yr albwm – rhai’n ddiweddar iawn, rhai’n mynd yn ôl i’r dyddiau yna.

“Dw i’n meddwl y bydd pobol yn nabod y caneuon newydd yma fel caneuon Cowbois, ond wrth gwrs maen nhw’n mynd i fod ychydig bach yn wahanol.”

Misoedd cyntaf 2020 oedd y tro diwethaf i Gowbois Rhos Botwnnog fod ar lwyfan, a pha ffordd well o weiddi eu bod nhw’n ôl na chwarae mewn tair o brif wyliau Cymru?

“Dros yr wythnosau nesaf rydan ni’n gwneud mwy nag ydan ni wedi gwneud mewn tair blynedd a hanner,” meddai Iwan yn cyfeirio at y gigs Tafwyl, Sesiwn Fawr a Steddfod Boduan.

“Rydan ni i gyd wir yn edrych ymlaen i chwarae eto, er ein bod ni’n rhydlyd.

“Dydyn ni heb fod yn ymarfer dros y blynyddoedd diwethaf tan yn ddiweddar, felly fydd o’n ddifyr.”

Ar ben agor Sesiwn Fawr, mae’r band wedi eu dewis i gloi Llwyfan y Maes yn Eisteddfod Boduan ar y nos Wener (11 Awst), ac maen nhw’n falch o’r cyfle i chwarae’n agos at adref yn Llŷn.

“Dw i bach yn nerfus am hwnna â bod yn onest,” meddai Iwan, “achos dw i dal ddim cweit yn gweld ein hunain fel band sydd fod yn y slot yna – mae hwnna’n slot hen stagers.

“Ond pan dw i’n sbïo ar y rhifau rydan ni wedi bod yn mynd ers bron i 20 mlynedd bellach.

“Mae o’n reit fawr ac mae o ar ein home turf.

“Ond jest gobeithio daw yna bobol!”

Rhannodd y band awgrym fod cerddoriaeth newydd ar ei ffordd mewn cyfres o sgetsys ar eu cyfrif Instagram. Iwan sydd y tu ôl i’r sgetsys ac mae o wedi bod yn chwarae efo’r grefft ers mis Tachwedd y llynedd.

“Dw i wastad wedi sgetsio ers pan o’n i’n fach, ond ges i lawdriniaeth ar fy nghalon diwedd y flwyddyn ddiwethaf, ac yn sgil hynny wnes i ffeindio fy mod i methu sgrifennu achos bod y geiriau’n nofio ar y sgrin oherwydd yr anesthetig.

“Ond ro’n i’n ffeindio bo fi yn gallu gwneud lluniau, felly wnes i ddechrau gwneud llwyth ohonyn nhw a rhannu nhw ar Instagram fy hun.”

Metal trwm yn Nolgellau

Y tro diwethaf i ni ddal fyny gydag Eädyth, a fydd yn canu yn y Sesiwn Fawr nos Sadwrn, roedd hi ar ganol gweithio ar EP yn dilyn rhyddhau ei sengl soul electroneg, ‘Heal Yourself’. Ond mae’r EP wedi newid yn llwyr ers hynny.

“Rydym ni – fi a fy ngitarydd, Rhodri – wedi bod yn gweithio’n galed ar ein sŵn ni, cynhyrchu, a sut rydym ni’n mynd i fynd ymlaen i gynhyrchu yn y dyfodol, achos mae Rhodri nawr yn aelod cadarn o Eädyth,” meddai’r gantores.

“Mewn ffordd, rydym ni’n ailfrandio Eädyth…

“Mae ein sŵn ni’n hollol, hollol ffres, yn enwedig efo’r dryms.

“Mae hwnna’n gyffrous iawn.

“Rydym ni wedi bod yn y stiwdio yn ymarfer ein set ni efo’r drymar felly ni’n rili cyffrous i allu chwarae ein tiwns ni efo lot o hyder nawr…

“Rydym ni bron iawn â gorffen yr EP a ni rili jest eisiau perfformio caneuon o’r EP nawr ac adeiladu rhyw fath o fanbase efo’r EP, ac wedyn rhyddhau e unwaith mae pobol yn gwybod y sŵn, ein steil ni a sut ni’n perfformio.”

Ac mae’r gantores wrth ei bodd gyda’r symudiad tuag at sŵn roc.

“Dw i wastad wedi bod yn ffan fawr o gitâr roc a metal trwm, ond mae rhywbeth wedi stopio fi rhag trio fe allan dw i’n meddwl.

“Jest achos dw i wedi clywed shwd gymaint o roc trwy fy mywyd a roc eithaf syml, dw i wedi mynd yn ofn trio roc allan, er bo fi’n rili meddwl bod o’n gweddu llais fi.

“Ro’n i jest yn trio fe allan efo Rhodri a wnaethon ni wneud un gân o’r enw ‘Amser’ sy’n rhan o’r EP ac yn rhan o’r set yn Sesiwn Fawr, a wnaeth hwnna rili datblygu.

“Mae Rhodri yn arbennig ar y trac, a ni wedi cyrraedd pwynt ble mae’r gân yma yn rhoi’r thema metal trwm, roc a hip-hop i’r set.

“O ‘Amser’ wnaethon ni ddatblygu ein holl ganeuon eraill dw i wedi bod yn perfformio ers blwyddyn a hanner mewn i fetal trwm.

“Unwaith wnes i glywed y roc trwm ar y gân, ro’n i eisiau fe ar holl ganeuon eraill fi.”

Bydd Eädyth yn perfformio ar lwyfan y Clwb Rygbi yn Nhŷ Siamas yn Nolgellau nos Sadwrn, yng nghwmni Backyard Devil, Ynys a Los Blancos.

“Ni’n chwarae fel duo, ond mae’r set yn amlwg wedi newid ers i fi chwarae Sesiwn Fawr flwyddyn ddiwethaf.

“Ni wedi rili gweithio ar sut mae’r gynulleidfa yn ein gweld ni fel duo.

“Dw i’n meddwl tro diwethaf roedd e’n fwy amlwg mai fi oedd y canwr blaen ac mai Rhodri oedd y gitarydd, a bod dim cysylltiad mawr.

“Ond nawr ni eisiau rili cysylltu gydag ein gilydd ar y llwyfan.”

Mae Eädyth ac Izzy Rabey wedi penderfynu peidio perfformio yn Gig y Pafiliwn ar nos Iau’r Steddfod, a hynny er mwyn cefnogi Sage Todz. Mae Sage wedi penderfynu nad yw yn gallu perfformio set gyflawn yn Gymraeg yn y Pafiliwn.

Ond mi fydd Eädyth yn perfformia ar sawl un o lwyfannau’r Brifwyl.

“Rydw i dal yn chwarae Maes B, Caffi Maes B a Llwyfan y Maes.

“Pryd dw i a Rhodri’n chwarae fel duo, ni’n chwarae mwy neu lai yn hollol Gymraeg, yn enwedig yng Nghymru.

“Mae’r iaith yn hollbwysig i fi, ac i ni nawr fel duo, a dyna’r peth pwysicaf i ni – ein bod ni’n defnyddio’r iaith Gymraeg.

“Mae defnyddio’r iaith yn ffordd dda i allu teimlo’n ddiogel yn fi fy hunan ar y llwyfan – i fynd i fyd fy hunan a theimlo perthyn.”

Caneuon newydd gan Los Blancos

Yn ymuno gydag Eädyth ar lwyfan y Clwb Rygbi fydd Los Blancos. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r band slacyr-roc wedi rhyddhau tiwns rif y gwlith, a ‘Christina’ ydy’r ddiweddaraf.

“Mae hon yn gân am Christina de Markyate, sef menyw Saesneg o’r ddeuddegfed ganrif oedd yn gwrthod cael ei gorfodi i briodi gan ei theulu,” eglura Osian Owen, gitarydd y band.

“Darllen amdani yn un o lyfrau hanes Terry Jones o Monty Python, Medieval Lives, o’n i.

“Roedd e’n sôn am Christina, ac o’n i’n edmygu pa mor gryf a phenderfynol oedd hi.

“Wnaeth hi ddianc wedi gwisgo fel dyn a throi yn flaenores mewn lleiandy, ar ôl cau ei suitor cyntaf yn ystafell ei hunan a chuddio o’r llall tu ôl i dapestri.

“Wnaeth y stori gael gafael arno fi a wnes i feddwl y byddai o’n gwneud cân dda.”

Dydy rhannu hanes unigolion ddim yn rhywbeth newydd i’r band, gan mai dyna oedd pwyslais eu sengl ddwbl y llynedd, ‘Chwaraewr Gorau (Yr Ail Dîm) / Kareem Abdul-Jabbar’.

“Mae hyn yn rhywbeth sy’n dod lan yn yr albwm sydd ar y ffordd hefyd,” eglura Osian.

“Fi’n credu mae’r rhan fwyaf o’r caneuon oddi ar yr albwm wedi cael eu sgrifennu amdano bobol neu ddigwyddiadau, sydd yn wahanol i’r albwm diwethaf, achos roedd lot o’r rheina am deimladau a phethau personol.

“Mae’n gymysgedd o’r ddau y tro hyn.”

Dyma hefyd yw’r gân gyntaf ble mae Osian, a sgrifennodd y gân, i’w glywed fel y prif leisydd.“Fi wedi sgrifennu caneuon fy hunan gyda bandiau yng nghynt, ond wnes i sgrifennu hon yng nghanol y cyfnod clo pan oedden ni i gyd yn gweithio’n unigol.

“Dyma oedd un o’r syniadau a ddaeth mas ohono fe, felly roedd e’n gam naturiol i fi ganu ar y sengl yma.”

Bydd Osian yn ei pherfformio yn y Sesiwn Fawr a bydd cyfle i glywed yr hyn allwn ni ddisgwyl o ail albwm hir-ddisgwyliedig Los Blancos.

“Dyma ein tro cyntaf ni’n chwarae yno a ni’n edrych ymlaen achos ni wastad wedi clywed bod e’n dda iawn, a wastad wedi bod eisiau chwarae,” meddai Osian.

“Rydyn ni’n trio – ddim cael gwared ar hen bethau – ond dod â phethau ffres i mewn i’r setiau, a thrio cael bach o hype am yr albwm newydd.

“Bydd hi’n dda gweld ymateb y gynulleidfa i’r caneuon newydd.”