Mae Plasty Erddig yn adeilad hardd a moethus, ac yn dyst i gyfoeth y teuluoedd bonheddig fu’n byw yma ar hyd y canrifoedd.

Drwy gydol y flwyddyn, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn croesawu miloedd o ymwelwyr i’r tiroedd trawiadol a’r plasty, sy’n eistedd o fewn erwau o gaeau a choedwig fendigedig.

Plasty Erddig, Wrecsam (cefn)

Eleni, mae dathliadau arbennig yn y Plasty i nodi 50 mlynedd ers i’r Sgweier Yorke diwethaf – Philip Scott Yorke – roi Erddig yn ei chyfanrwydd i’r ymddiriedolaeth, iddyn nhw gael gofalu amdani.

Mae yna ddathliadau ac addurniadau, ond mae yna naws amgen i’r gweithgareddau, wrth iddyn nhw nodi’r cyfnod drwy gasglu rhoddion at fanc bwyd Wrecsam.

Lan a chopa’r grisiau

Bu’r cyfnod yn dilyn marwolaeth Philip Yorke II yn 1922, hyd at ei throsglwyddo i’r ymddiriedolaeth yn 1973 trwy law ei mab ifengaf Philip Yorke III, yn un o ddirywiad, gan fod ei fab hynaf, Simon Yorke IV, wedi byw’n weddol dlawd a meudwy, ac felly heb ymgymryd â gwaith i foderneiddio’r tŷ, megis gosod trydan, dŵr, nwy neu linell ffôn. Nid oedd gweision ychwaith i ofalu am y tŷ.

Achosodd y cyfnod hwn lawer iawn o niwed i’r plasty a’i eiddo, ond ar y llaw arall golygai i rai o’i nodweddion oroesi heb eu newid yn y modd a ddigwyddodd mewn plastai eraill o’r un cyfnod.

Mae’r plasty, felly, yn un hynod, ac ystyriwyd hi’n un o’r enghreifftiau gorau sy’n rhoi gwir deimlad o’r cyfnod ‘upstairs-downstairs’, lle bu teuluoedd cyfoethog yn byw bywyd moethus, tra bod gweision yn gwneud yr holl waith oedd ei angen i gynnal eu bywydau diofal – megis coginio, golchi llestri a dillad, a gwaith glanhau.

Cegin cyfnod gweision y plasty
Pentan y gegin
Pobi

Yma, cewch weld cegin lle byddai’r cogydd yn paratoi prydau’r teulu bonedd, cyn i’r gweision gymryd y bwyd a’i weini yn yr ystafelloedd bwyta. Cewch hefyd weld clychau’r gweision, nesaf at enw’r ystafell lle roedd rhywun yn canu er mwyn gwysio rhywun atyn nhw.

Clychau’r gweision

Mae’r math hwn o fewnwelediad i’r gorffennol i’w weld yn ddiddorol dros ben i’r cyhoedd, ac mae’r plasty yn boblogaidd iawn. Fodd bynnag, nid oes teulu bonedd yma bellach, ac mae yna agwedd fwy hygyrch i’r gweithgareddau.

Y rhodd o roi

Thema’r ŵyl eleni yw’r ‘rhodd o roi’ (the gift of giving), wrth ddathlu 50 mlynedd ers rhodd hael Philip Yorke III i’r ymddiriedolaeth.

Coeden nadolig

 

Mae’r tŷ wedi’i addurno’n ddel, gan gynnwys 22 coeden Nadolig. Mae yna 2,200 o anrhegion wedi’u lapio ac wedi’u harddangos yn y stafell ‘Tribes’, gyda phob anrheg yn cynrychioli deg eitem o gasgliad y plasty. Mae hyn i gyd at ddiben adloniant a boddhad y cyhoedd.

Anrhegion

Bydd cyfle hefyd i dostio malws melys, gan gynnwys ar Ragfyr 31, rhwng 11yb a 2yp.

Ac yn groes i’r traddodiad o gael groto Siôn Corn lle cewch chi anrhegion ganddo fo, mae yna groto ‘gwrthdroi’, at ddibenion Banc Bwyd Wrecsam. Mi fedrwch gyfrannu eitemau megis tuniau o ffrwythau neu lysiau, pasta, te, coffi, sudd ffrwythau, llefrith UHT, a nwyddau megis nwyddau ymolchi. Cewch roi’r rhain i’r swyddfa docynnau ac mae rhestr llawn o’r hyn sydd ei angen arnyn nhw yma.

Yn ôl Lois York, uwch swyddog marchnata a chyfathrebu, mae ymwelwyr â’r groto amgen wedi bod yn hael iawn.

“Wnaethom ni gymryd Land Rover yn llawn dop o roddion gan aelodau’r cyhoedd i’r banc bwyd bore ‘ma, a wnawn ni barhau i gasglu rhoddion hyd at Ionawr 7 – dyna pryd mae’r ŵyl ‘rhodd o roi’ yn darfod.

“Rydym wedi gwneud y ‘grotto gwrthdroi’ (reverse groto) ers sawl blwyddyn, dwi’n meddwl mai dyma’r seithfed blwyddyn bellach, ac rydym wedi casglu rhywbeth fel 4,000 tunnell o fwyd dros y blynyddoedd, i bobol sydd ei angen yn y gymuned.

“Mae Siôn Corn wedi bod yma trwy gydol yr wythnos cyn ‘Dolig, gan aros yn hwyr gan ein bod ni wedi bod ar agor yn hwyr i roi cyfle i bawb ddŵad draw ar ôl gwaith, ac oherwydd doedd yr ysgolion heb orffen eto – ac yna’n amlwg bydd o’n mynd ’nôl i begwn y gogledd!”

Mae’r plasty ar agor bob dydd rhwng Ionawr 2-7. Mi fydd y plasty ar gau ar Ddydd Nadolig a Dydd San Steffan.