Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r twf mewn ail gartrefi a thai gwyliau wedi cael ei amlygu fwyfwy fel problem sy’n bygwth cymunedau gwledig.
Mae hyn yn rhywbeth sy’n gofyn am weithredu cadarn ac effeithiol yn ei erbyn, yn enwedig o gofio bod rhai o gadarnleoedd pwysicaf y Gymraeg ymysg yr ardaloedd sy’n dioddef waethaf.
Mae lle i amau, fodd bynnag, mai dim ond crafu’r wyneb mae rhai o’r mesurau sydd ar waith ar hyn o bryd, fel codi premiwm ar ail gartrefi. A chamgymeriad o’r mwyaf fyddai credu bod unrhyw atebion syml i’r broblem.
Cyhoeddodd Cyngor Gwynedd yn ddiweddar bod 500 yn llai o dai wedi cael eu cofrestru fel ail gartrefi yn y sir, ond penderfyniad doeth ar eu rhan oedd peidio â neidio i unrhyw gasgliadau ysgubol ar sail hyn. Mae’n gwbl bosibl fod perchnogion ail gartrefi yn gallu canfod ffyrdd o osgoi’r dreth ychwanegol – efallai bod rhai yn honni ei fod yn brif gartref iddyn nhw, neu gyplau yn rhoi’r ‘ail’ gartref yn enw un cymar, a’u tŷ arall yn enw’r llall.
Dydi hynny ynddo’i hun ddim yn ddadl yn erbyn y premiwm fel egwyddor, gan fod iddo werth, efallai, wrth ddangos i ddarpar brynwyr newydd nad oes gormod o groeso iddyn nhw. Go brin, er hynny, y bydd premiwm ail gartrefi yn codi symiau digonol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i incwm cynghorau.
Yng nghanol yr holl drafod am ail gartrefi, mae perygl gwirioneddol hefyd fod yna bethau pwysicach yn cael eu hanghofio.
I ddechrau, symptom a chanlyniad anochel gor-dwristiaeth ydi ail gartrefi a thai gwyliau, ac os am gyfyngu ar y broblem, mae’n rhaid rheoli ac, mewn rhai achosion, llyffetheirio rywfaint ar y diwydiant ymwelwyr.
Lawn cyn bwysiced, mae angen inni gydnabod mai dim ond un agwedd ar y disodli diwylliannol sy’n digwydd yng nghadarnleoedd y Gymraeg ydi ail gartrefi. Ffolineb llwyr ydi credu bod perchnogion ail gartrefi yn cael mwy o effaith na mewnfudwyr parhaol (Saeson y mwyafrif llethol ohonyn nhw yn y ddau achos) ar gymeriad a hunaniaeth rhai o’n hardaloedd gwerthfawrocaf.
Nid bychanu am funud gyfraniad enfawr y rheini o’r tu allan i Gymru sydd wedi cofleidio ein hiaith a’n diwylliant a chyfoethogi ein cymdeithas ydi cydnabod y gwirionedd syml hwn. Ond mae’n rhaid inni gydnabod tystiolaeth ddiamwys y Cyfrifiad – po fwyaf y mewnfudiad o’r tu allan i Gymru i unrhyw ardal benodol, y lleiaf tebygol ydi’r newydd-ddyfodiaid o ddysgu Cymraeg.
Diffyg blaenoriaeth i bobol leol
Mae’r cyfan yn ymwneud â’r ffaith fod cefn gwlad Cymru o fewn cyrraedd hawdd i ddinasoedd poblog lle mae prisiau tai yn uwch a mwy o bobol ag arian i’w fforddio.
Dyna pam fod llawer iawn o’r hyn sy’n digwydd i’r farchnad dai ymhell y tu hwnt i reolaeth cynghorau lleol. Mae’n hollbwysig, felly, bod hynny ag sy’n bosibl yn cael ei wneud yn y sectorau lle mae ganddyn nhw reolaeth, gan gynnwys tai cymdeithasol a chynlluniau penodol i helpu pobol leol i brynu.
Yn anffodus, cyfyngedig ydi’r wybodaeth sydd ar gael ynghylch faint o flaenoriaeth wirioneddol mae pobol leol yn ei chael am dai cymdeithasol yn eu cymunedau.
Mae llu o hanesion am bobol o’r tu allan yn cael tai ar draul pobol leol yn ein hardaloedd gwledig. Yn eu plith mae llawer sy’n cael eu disgrifio’n iwffemistaidd fel ‘teuluoedd â phroblemau’. Mae adroddiadau am gynnydd mewn troseddau ac am bryderon ymysg pobol leol am blant y dieithriaid hyn yn ddylanwad drwg mewn ysgolion. Yn amlach na pheidio, fodd bynnag, mae’n ymddangos bod llawer sy’n ymwneud â’r maes yn barod i daflu llwch i’n llygaid ynghylch pam fod hyn yn digwydd. Mae’n anodd iawn cael gwybodaeth fanwl am union bolisïau gosod tai, ac mae’n ymddangos bod y problemau hyn yn cael eu rhoi o dan y carped mewn gormod o lawer o achosion. Mae fel pe bai ail gartrefi’n darged haws a mwy cysurus i lawer o bobol na materion dyrys tenantiaethau tai cymdeithasol. Ond y gwir amdani ydi bod teuluoedd trafferthus, sydd â phresenoldeb drwy gydol y flwyddyn, yn amharu llawer mwy ar fywyd y gymdeithas gynhenid nag unrhyw berchnogion tai haf nad ydyn nhw ar gyfyl yr ardal yn aml.
Glastwreiddio pellach ar amodau
Y rhagolygon ydi y gall pethau fynd yn llawer iawn gwaeth, os bydd rhai o argymhellion Papur Gwyn Llywodraeth Cymru yn cael eu derbyn.
Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru ydi teitl y papur, ac er mor glodwiw ydi amcan o’r fath, mae ynddo rai cynigion sy’n peri pryder. Mae’n dangos bwriad pendant o lastwreiddio amodau lleol ar denantiaethau. Mae’n awgrymu cynyddu categorïau o bobl i’w heithrio o’r angen i ddangos cysylltiad lleol, fel pobol sy’n gadael y carchar a ‘phobl sy’n ceisio rhoi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau’ ymhlith eraill.
Gall fod dadleuon digon teilwng dros alluogi pobol i symud ymhell o’u hardaloedd genedigol, ac mae hynny’n sicr o fod yn wir yn achos pobol sydd mewn perygl o gael eu cam-drin yn y cartref, er enghraifft.
Ar yr un pryd, mae angen datgan yn glir fod gan y Gymru wledig ddigon o broblemau heb fod disgwyl i’n cynghorau weithredu fel gwasanaethau cymdeithasol i ddinasoedd Lloegr.
Does dim trafodaeth yn y Papur Gwyn ar effaith y newidiadau hyn ar y Gymraeg, er bod cwestiwn i’r perwyl hwnnw ar y diwedd, fel sy’n ofynnol mewn ymgynghoriadau o’r fath. Yr unig gyfeiriad at y Gymraeg yng nghorff y papur ydi lle mae’n nodi bod hawl gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd i roi ‘blaenoriaeth ychwanegol’ i gysylltiad lleol ‘er mwyn cynnal cymunedau, yn enwedig cymunedau Cymraeg gwledig’. Does dim arwydd o ymrwymiad i gynnal hyd yn oed yr ystyriaeth amwys bresennol.
Mae’n amlwg fod gallu unrhyw denantiaid newydd i siarad Cymraeg am effeithio ar natur ddiwylliannol yr ardal honno. Fel un o hanfodion gwead cymdeithas yng nghadarnleoedd y Gymraeg, mae’n gwbl resymol mynnu bod y gallu i siarad Cymraeg fod yn ffactor wrth geisio tai cymdeithasol ynddyn nhw.
Byddai cael tryloywder ynghylch y sefyllfa yn gam cyntaf pwysig.
I ddechrau, dylai fod yn ofynnol i bob landlord cymdeithasol sydd â thai mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol fod â gwybodaeth am y gallu i siarad Cymraeg ymysg eu tenantiaid.
Maen nhw eisoes yn casglu gwybodaeth am bob mathau o nodweddion personol a diwylliannol, a does dim rheswm pam na ddylai fod cwestiwn am y gallu i siarad Cymraeg yn eu plith. Fel yr holl wybodaeth arall, byddai gwybodaeth o’r fath yn gwbl ddienw, ac ni ellid ei defnyddio i ragfarnu yn erbyn unrhyw unigolyn.
Byddai’r wybodaeth yn hynod ddefnyddiol o ran cynllunio ieithyddol, ond byddai hefyd yn ffordd effeithiol o amcangyfrif faint o denantiaid tai cymdeithasol sy’n bobol leol.
Byddai’n rhesymol disgwyl i ganran y bobol sy’n gallu siarad Cymraeg ymhlith tenantiaid tai cymdeithasol adlewyrchu’n fras ganran poblogaeth gynhenid yr ardal honno sy’n gallu’r iaith. Pe bai’r ganran honno’n sylweddol is, byddai cwestiynau amlwg i’w gofyn ynghylch polisïau gosod tai.
Pwysigrwydd allweddol Gwynedd
Fel y sir sy’n cynnwys y rhan helaethaf o brif gadarnle’r Gymraeg yn y gogledd-orllewin, mae polisïau tai Gwynedd, yn enwedig, yn gwbl allweddol ac o arwyddocâd cenedlaethol.
Diddorol, felly, oedd darllen rhai o syniadau Craig ab Iago, deilydd portffolio tai y Cyngor, ar “achub y Gymraeg, ein diwylliant a’n hunaniaeth” ar golwg360 yr wythnos ddiwethaf.
Mae rhai o’r cynlluniau mae’n eu hamlinellu yn rhai i’w croesawu, yn enwedig gweithgarwch y Cyngor i adnewyddu tai gwag.
Mae hefyd yn dadlau, yn ddigon rhesymol, fod rhai tai gwag yn anaddas i’w troi yn gartrefi a bod angen codi tai newydd mewn rhai achosion.
Ar y llaw arall, mae angen bod yn ofalus cyn defnyddio’r 5,000 o unigolion sydd ar gofrestr tai cymdeithasol y sir fel llinyn mesur o’r angen lleol am dai.
Am y rhesymau sydd wedi’u nodi uchod, mae angen gwybodaeth am faint o’r unigolion hyn sy’n bobol leol, a hefyd faint sydd ar y rhestr aros oherwydd bod eraill o’r tu allan i’r sir wedi cael blaenoriaeth am dai.
Fel arall, sut allwn ni fod yn sicr o beth fydd effaith unrhyw gartrefi newydd y byddai’r Cyngor yn eu darparu?
Mae dau gam cyntaf pwysig sy’n rhaid i gynghorau fel Gwynedd ac eraill yn y gorllewin eu cymryd i geisio gwell rheolaeth o’r sefyllfa. I ddechrau, ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru trwy alw am gryfhau’r hawl i fynnu cysylltiad lleol wrth osod tai cymdeithasol, a dyrchafu pwysigrwydd y Gymraeg fel ffactor perthnasol.
Yn ail, gosod canllawiau i bob landlord cymdeithasol gynnwys gwybodaeth o’r Gymraeg yn yr wybodaeth sy’n cael ei gasglu am denantiaid. Yng Ngwynedd, roedd 87% o’r rheini a aned yng Nghymru sy’n byw yn y sir yn gallu siarad Cymraeg, yn ôl Cyfrifiad 2021, a’r ganran hon dros 90% mewn rhannau helaeth o’r sir; mewn geiriau eraill, y mwyafrif llethol o’r boblogaeth gynhenid. Byddai’n rhesymol disgwyl, felly, fod yr un peth yn wir am denantiaid unrhyw dai cymdeithasol gaiff eu gosod yn y sir. Gwireddu sefyllfa o’r fath fyddai’r unig ffordd o sicrhau bod cartrefi newydd y sir yn cyfrannu at “achub y Gymraeg, ein diwylliant a’n hunaniaeth fel cenedl”.