Eleni oedd y tro cyntaf i Agnes fod yn gyfrifol am Ddrama’r Geni. Fe wyddai Agnes, fel pawb fu’n gyfrifol am gael trefn ar Ddrama Nadolig y capel, mai cwbl amhosibl oedd cael y cyfan yn berffaith. Ond y bore Sul hwnnw, yng Nghapel Horeb, roedd Agnes a’r gynulleidfa’n synnu bod y Ddrama flynyddol wedi symud mor sydyn i anhrefn lwyr.
Wedi meddwl, buasai Agnes yn cyfaddef mai camgymeriad oedd gofyn i’r plant lleiaf ddod wedi’u gwisgo fel anifeiliaid – a hynny heb wneud yn gwbl sicr fod y rhieni’n gwybod pa anifeiliaid yn union oedd eu hangen. O’r herwydd, yn ogystal â’r ddafad, a’r asyn, a’r gwartheg traddodiadol, roedd ganddi garw, corryn, dau bili-pala… ac un epa! (Roedd Nel, mam yr ‘epa’, yn gyson – mater o egwyddor ydyw ganddi – yn fwriadol ymwrthod â chadwynau trymion yr elfen draddodiadol a berthyn i grefydd a chrefydda…). Penderfyniad sydyn, y bore hwnnw, oedd dweud wrth y plant i gofio actio’u cymeriadau, ond fe ddown at oblygiadau hynny yn y man.
Eto, o ystyried, nid peth call oedd symud o’r ddau neu dri angel a fu llynedd, i’r ‘llu nefol’ eleni. Cyn y bore hwnnw, prin y buasai Agnes wedi dychmygu pa mor hir, a chymaint o straen i bawb, fuasai cael dwsin o blant i’w gwisgoedd, adenydd, tinsel ac eurgylchoedd! A phwy fuasai wedi meddwl, a hithau wedi dewis dau o gymeriadau callaf yr Ysgol Sul i adrodd y stori o’r pulpud, y buasai gofyn iddi bwysleisio ar y bore hwnnw, fel y bu hi’n pwysleisio – pwysleisio eto, a phwysleisio eto fyth yn yr ymarferion – fod angen ynganu’n glir iawn a ph-wy-llog iawn, ac i dalu sylw i atalnodi’r sgript, wrth gwrs!
Cystal cyfaddef mai bore anodd oedd y bore Sul hwnnw ym Methlehem yng nghapel Horeb. Bu Mair yn sâl trwy’r nos ond mi ddaeth, chwarae teg – yn llwydwyrdd – i’r capel. Cafodd bwced ei osod wrth ochr y preseb at ei defnydd personol. Efallai bod y Joseff gwreiddiol yn ŵr cyfiawn, ond nid oedd dethol ei mab ei hun, ac yntau’n dair-ar-ddeg crintachlyd, i chwarae rôl Joseff wrth ochr y Fair ifanc (chwydlyd) ymhlith syniadau gorau Agnes. Ei bwriad oedd adlewyrchu’r gwahaniaeth oedran traddodiadol, ond roedd ei mab Jac wedi mynnu ei fod yn llawer rhy hen nawr i fod yn Nrama Nadolig y capel. Ond bu’n rhaid iddo wneud ond hynny, ar y diwrnod, yn wg salw o’i goryn i’w sawdl; llusgodd ei hun trwy’i linellau yn dawel, bwriadol ddiflas.
O’r dechrau, roedd Agnes yn gwybod fod pethau’n mynd i fod yn anodd. Ond pan ddaeth yr anifeiliaid i’r stabal, a phob un o’r bychain hyn yn hapus ufudd i’w cyfarwyddyd rhagblaen i actio’u cymeriadau, fe drodd y Sêt Fawr yn sŵ o sŵn – crawcian, mewian, gwichian, ‘Epa! Epa!’ Roedd angen cael trefn, ond gwyddai Agnes nad oedd modd rheoli’r sefyllfa o’r rhes flaen ac felly, yn sydyn, aeth i’w canol a’u tawelu. Yn ddi-oed, galwodd ar y bugeiliaid i ddod ymlaen. Fe ddaethon nhw yn araf – yn araf iawn – gan iddyn nhw sylweddoli cyn Agnes fod rhywbeth ddylai fod wedi digwydd, heb ddigwydd. Ymdeimlodd Agnes ag anesmwythyd y gynulleidfa, a thynnodd un o’r bugeiliaid wrth ymyl ei sgert gan sibrwd yn hyglyw, “Angylion Agnes… rhaid cael angylion cyn bugeiliaid!” Daeth yr angylion i’r Sêt Fawr o dan arweiniad twt-twtlyd Miss Miller, fu’n gyfrifol am Ddrama’r Geni yn ei Horeb hi ers ymhell cyn dyddiau Adda ac Efa. Angylion dreng oedden nhw: hir fu’r ymbaratoi ac yn wir, i ambell un, yr ymbincio, dim ond i golli’u moment fawr oherwydd Agnes! Daeth y doethion i gyflawni eu dyletswyddau, ond wrth dderbyn y myrr, chwydodd Mair i’r bwced, a daeth corws o “Ugghh!” o’r plant. Ta waeth, roedd pawb bellach yn eu lle, a chododd Adroddwr 1, Ioan, ar ei draed. Dyma’r llinell fawr, dyma benllanw’r cyfan oll. Bu Agnes yn pendroni’n hir drosti. Arhosodd Ioan, pesychodd, “Daeth Crist i’n plith??” A hithau bellach, wedi llwyr ymlâdd, dywedodd Agnes wrth neb yn benodol: “Gosodiad oedd y llinell ola’ ‘na i fod, nid cwestiwn!”
Weithiau, mae’r Nadolig yn fwy o gwestiwn nag o osodiad. Ddaeth Crist i’n plith?? Ti a fi, ni a nhw, yn ffôl, gwan, gwamal fel ag yr ydym, a’n crefydd fach bigog ni: Ddaeth Crist i’n plith?? Dirwasgiad, diweithdra, rhyfel a therfysg; newyn a phoen, difaterwch, difrawder: Ddaeth Crist i’n plith??
Y Nadolig hwn, cofiwn nad oes gofynnod yn perthyn i Ymgnawdoliad Duw. Daeth Crist i’n plith! Daeth i ganol cymhlethdod ac annibendod byw, i ganol holl broblemau dyrys ein byd. Yfory, i ganol ein llafur a’n lludded, yr helynt a’r helbul, yr hwyl a’r miri i gyd, fe ddaw Mair i gyflwyno i ni’r ymgnawdoliad hardd – Daeth Crist i’n plith! Hwn yw ein gwaredwr. Hwn a wareda ei bobol oddi wrth eu pechodau (Mathew 1:21a). Dim gofynnod, ond ebychnod tragwyddol: Daeth Crist i’n plith!
Yng nghanol byd y dolur, – yr angen,
A’r ingoedd didostur,
Y mae i’w gael falm i gur,
A Cheidwad i bechadur.
(Roger Jones, Talybont)