Mae Heddlu Dyfed-Powys yn annog teithwyr i dalu sylw i arwyddion, ar ôl i ffyrdd gael eu cau yn ardal Dinbych y Pysgod o ganlyniad i lifogydd.

Yn ôl yr heddlu, maen nhw wedi derbyn cwynion fod gyrwyr yn anwybyddu arwyddion sy’n dangos bod ffyrdd ar hyd yr A4139 ger parc gwyliau Kiln Park ynghau.

Dywed yr heddlu eu bod nhw wedi cau’r ffyrdd er mwyn cadw’r cyhoedd yn ddiogel yn dilyn “llifogydd digynsail”.

Ond maen nhw’n dweud bod gyrwyr wedi bod yn defnyddio glaswellt, palmentydd a ffyrdd sydd dan ddŵr, gan anwybyddu’r cyngor i gadw draw, a bod hynny’n galw am adnoddau’r gwasanaethau brys.