Mae’r adroddiad ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru wedi’i dderbyn yn gyffredinol gan Aelodau o’r Senedd, ond y pleidiau fydd yn dewis y camau nesaf, yn ôl yr Athro Laura McAllister.
Mae cyd-gadeirydd y Comisiwn gafodd ei sefydlu i drafod y mater wedi bod yn siarad â golwg360 ar ôl cyhoeddi’r adroddiad.
“Rydw i wedi cael lot o drafodaethau bore ’ma gydag Aelodau’r Senedd a’r Prif Weinidog ac yn y blaen, ac maen nhw i gyd wedi derbyn yr adroddiad a dweud ei fod e’n un cryf gyda’r agwedd gywir,” meddai.
“Felly nawr, mae’n symud i’w tir nhw iddyn nhw benderfynu beth maen nhw eisiau ei wneud gydag e.
“Comisiwn annibynnol ydyn ni, nid Comisiwn gwleidyddol, felly mae’n dibynnu ar benderfyniadau’r pleidiau – ac nid jest y Blaid Lafur – i sefydlu beth maen nhw eisiau ei wneud.”
Er hynny, dywed nad yw pethau cyfansoddiadol “yn newid dros nos”, ond fod canfyddiadau’r adroddiad yn rhai cadarn sydd yn annhebygol o newid yn y tymor byr.
“Un peth sy’n sicr yw’r ffaith fod yr adroddiad yn un cryf, yn un difrifol, ac yn un sydd yn mynd i barhau ac sy’n reit durable,” meddai.
Galw am ddadl yn San Steffan
Yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Iau, Ionawr 18), galwodd Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, am ddadl ar y pwnc.
“Beth bynnag yw’r farn ar draws y Tŷ, a barn yr Arweinydd, rwy’n meddwl y byddai unrhyw Lywodraeth synhwyrol yn y Deyrnas Unedig sydd â phryder diffuant am lywodraethu eu gwlad yn ymgysylltu â’r newid hwn sydd eisoes ar y gweill,” meddai.
“Felly a wnaiff Arweinydd y Tŷ ddangos pryder mor ddiffuant drwy drefnu dadl lawn ar adroddiad y Comisiwn, efallai tua adeg Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth 1?”
Fodd bynnag ymatebodd Penny Mordaunt gan ddweud y byddai hi “bob amser yn amddiffyn undeb y Deyrnas Unedig”.
“Mae gennym ni lawer o wasanaethau sydd wedi’u datganoli,” meddai.
“Mae’n boen imi weld llawer o wasanaethau sy’n cael eu rhedeg gan Lywodraeth Cymru yn cael eu rhedeg yn wael iawn er anfantais i ddinasyddion Cymru.”
Bu iddi hefyd gyhuddo’r Blaid Lafur o fod yn “ymwahanwyr.”
‘Angen cefnogaeth San Steffan’
Yn ôl Laura McAllister, mae’n rhaid cael cefnogaeth San Steffan pa bynnag drywydd gaiff ei ddilyn.
“Wel, rydyn ni’n deall bod y ffordd i newid pethau cyfansoddiadol yn perthyn i Lundain, a dyna’r mater fel mae pethau’n sefyll,” meddai.
“Mae’n fater sydd wedi ei gadw’n ôl i Lywodraeth Llundain.
“Felly, wrth gwrs, mae’r pwyslais ar y Blaid Lafur ar hyn o bryd, sy’n trio ennill yr etholiad cyffredinol nesaf,” meddai wrth gyfeirio at sylwadau Penny Mordaunt.
Canlyniad “sgwrs genedlaethol”
Er nad yw pobol yn defnyddio termau fel “materion cyfansoddiadol”, mae hi’n amlwg i Laura McAllister fod sut y caiff y wlad ei llywodraethu’n cael effaith ar y gwasanaethau yn y wlad honno.
“Rydyn ni wedi trio datblygu sgwrs genedlaethol gyda dinasyddion, a chael sgyrsiau ledled Cymru i drio deall beth sydd ar agenda pobol sy’n byw yn y wlad yma,” meddai.
“Roedden ni wedi clywed oddi wrthyn nhw bod yna gysylltiad rhwng y ffordd maen nhw’n cael gwasanaethau cyhoeddus a materion cyfansoddiadol.
“Y dasg i ni oedd trio asesu a rhoi rhyw fath o ddadansoddiad o’r opsiynau, sef i ehangu datganoli, ffederaliaeth ac annibyniaeth.
“Ond nid mater i ni yw e i benderfynu pa opsiwn fyddai’r gorau i Gymru, achos mae’n dibynnu ar farnau ac mae’n dibynnu ar egwyddorion ac ati.”